Ers mis Hydref 2004 mae cwmni o benseiri wedi bod yn gweithio ar ddyluniad i'r adeilad a fydd yn ei gweddnewid yn ganolfan ar gyfer adloniant, addysg a'r celfyddydau - gwahoddir y cyhoedd i ddod i weld eu cyflwyniad terfynol ar 2 Ebrill rhwng 11 y bore a 2 y prynhawn yn Neuadd y Farchnad.Fe gawson nhw eu comisiynu gan yr elusen leol, Menter y Moelwyn, sydd yng ngofal y prosiect. Mae'r Fenter wedi cael cymorth ariannol gan y Cynulliad Cenedlaethol ac Undeb Ewrop i ariannu cam cyntaf y prosiect. Hefyd mae cwmni McAlpines, sydd yn rhedeg Chwareli yr Oakeley a Chwt y Bugail, hefyd wedi addo £30,000 i'r prosiect os yw'n mynd rhagddo a chafwyd addewid o £4,000 gan Gyngor Tref Ffestiniog.
Ond mae gwaith y penseiri'n awgrymu y gallai'r prosiect adeiladu gostio cymaint â £3.2 miliwn a bydd angen i'r fenter godi mwy o bres eto er mwyn gallu gwneud cais am arian cyfatebol Amcan 1.
Dechreuodd yr ymgyrch i ddatblygu'r neuadd yn 2003 ac mae pobl ifanc yr ardal wedi bod yn flaenllaw iawn yn y gwaith.
Gosodwyd baner 20 troedfedd ar yr hen neuadd ar ddydd Gŵyl Dewi 2004 gan griw o bobl ifanc o'r dref sy'n galw eu hunain yn Ffatri Jam.
Maen nhw am i'r neuadd gael ei datblygu yn ganolfan ar gyfer cerddoriaeth, y celfyddydau ac addysg a fyddai'n cynnwys stiwdio recordio, cerddoriaeth fyw, gwe-gaffe, dosbarthiadau addysg i oedolion a bingo.
"Fel pobl ifainc sy'n dod o'r Blaenau, mae'r dref yn golygu lot inni," meddai Leah Pitts, aelod o Ffatri Jam.
"Mae'n dref sy'n gyfoethog yn ei hanes, ac mae Neuadd y Farchnad yn rhan o hanes y Blaenau. Mi fuasen ni'n licio gweld y Neuadd yn cael ei hadfer fel bod yna bwrpas iddi hi unwaith eto."
Sefydlwyd Ffatri Jam yn 2003 i roi llais i bobl ifanc leol sydd eisiau bod yn rhan o brosiect Neuadd y Farchnad.
Dewiswyd yr enw am ddau reswm: mae'n awgrymu'r math o weithgaredd cerddorol anffurfiol y mae'r bobl ifanc am ei weld yn y Neuadd a hefyd, bu'r adeilad yn cynhyrchu jam, yn llythrennol, ar un adeg!
Yn ôl yr aelodau, mae'r logo, sy'n dangos potyn jam yn ffrwydro, yn cynrychioli "ffrwydriad o greadigrwydd ifanc yn torri allan o'r hen adeilad".
Ychwanegodd Leah Pitts: "'Dan ni'n teimlo bod angen canolfan fel hyn sydd ar agor i bawb. 'Dan ni'n trïo denu cefnogaeth ac aelodau."
Dywedodd Eifion Williams, Cadeirydd Menter y Moelwyn: "Mae brwdfrydedd y bobl ifainc yma sydd yn aelodau o Ffatri Jam, yn ogystal â llwyddiant y digwyddiad Diwrnod y Bobl wnaethon ni ei drefnu ddwy flynedd yn ôl ac arddangosfa wych David Nash cyn hynny, yn dangos yn glir beth yw potensial y prosiect."