Ond wrth i mi fynd i'r afael â'r dasg heriol hon alla i yn fy mywyd weld yr un cwmwl na'r un dafnyn o law, na chwaith yr un ddafad golledig i fy mhoenydio. Yn hytrach, mae hi'n bleser pur cael eistedd yn fa'ma yn synfyfyrio ac yn hel meddylia ar bnawn Sul heulog ym Medi.
Ac mae'r paragraff agoriadol yma, dwi'n eitha hyderus, wedi dangos yn glir i chi lle ydy gwrthrych fy nhestun.
Mi allwch chi'n hawdd iawn ddeud mai ardal drefol ydy un Stiniog. Ond fysa chi ddim yn anghywir chwaith petaech chi'n cyfeirio ati hi fel un wledig - ac mae'r ddeuoliaeth ryfedd yma i'w gweld ar sawl lefel. Mae yma dlysni ond mae yma hefyd hagrwch.
Mae yma hanes amaethyddol cyfoethog ond mae yma hefyd hanes godidog mewn diwydiant. Mae yma sbloets o liw ond mae yma hefyd rhyw lwydni sy'n treiddio trwy bopeth. Ia, rhyw ardal felly ydy ardal Stiniog a ninnau'r trigolion wedi'n heidio fel defaid i gorlan gwarchodol y mynyddoedd.
Ardal pasio trwadd ydy Stiniog i lawer i un. Rhyw ddotyn di-nod ar yr A470 wrth i ambell i Gog ei hel hi am aur palmentydd Caerdydd. Rhyw gornel dywyll o'r Gymru wledig wrth i ambell i hwntw mwy soffistigedig ei hel hi am stiwdio Barcud yn nhre y Cofi.
Ond i mi, nid rhyw 'gilcyn di-nod o ddaear' ydy fan hyn. Fan ydy adra! Fan hyn y cafodd deg cenhedlaeth o'r Jonsys eu magu a'u meithrin, eu bedyddio a'u priodi, eu cynnal a'u claddu. Mae yna fwy ohona i yn y pridd na sydd uwch ei ben o!!
Diawcs, siawns nad ydy hynny yn cyfri am rhwbath?
Mae'n rhaid i mi ddeud mod i'n teimlo fel bysa T.H.Parry Williams wedi teimlo ers lawer dydd pan sgriblodd o ddrafft cynta 'Hon' ar bapur melynwyn yn ei stydi lychlyd. Nid mod i am eiliad yn awgrymu bod hwn cystal cyfanwaith. Ond mae brogarwch yn rhwbath prin ymhlith pobl ifanc heddiw yn tydi - a pha ryfadd, o ystyried bod cymaint ohonyn nhw wedi cael eu di-wreiddio mor aml.
Mi wn bod yr hen T.H yn or-hoff o'r defnydd o negydd i ennill cydymdeimlad ei ddarllenwyr a dwi'n dechra dallt pam rŵan.
'Blydi hel Heledd - twll din byd !' Mi alla'i clwad nhw rŵan yn crochlefain ! 'Gwitsia tan dwi'n nineteen! Dwi off i Cardiff wedyn. Sod ddis.'
Ffrindia bore oes - ond 'chydig iawn o gariad sydd ganddyn nhw tuag at fa'ma. Mi fyddan nhw manglo'r Gymraeg yng nghlybiau ein prifddinas cyn bo hir.
Na, does 'na ddim Topshop na Next na H+M yma. Does 'na ddim JJB Sport na sinema muliplex. Does gynnon ni ddim hyd yn oed siop bapur gwerth ei halen, ond diawcs, nid dyna ydy'r petha pwysig - yn nace ?
Sbïwch be s'gynnon ni! Mae gynnon ni'r amrywiaeth mwya' cyfoethog y gallwch chi ei ddychmygu o'r natur ddynol! Pic and Mics go iawn! Yr ifanc a'r hen. Yr ynfytyn a'r doeth. Y cyfoethog a'r tlawd. Y Duwiol a'r Anffyddiwr. Yr alci a'r drygi. Ydyn, maen nhw i gyd yma yn un sbloits o liw ar stryd 'Stiniog. A'r mwyafrif helaeth ohonyn nhw hefo llond ceg o Gymraeg! A dyna i chi pam mod i'n ymfalchïo yn fan hyn. Fel T.H. gynt, does ots gen i am 'deithwyr talog' a'u rhagfarnau.
Wrth geisio crynhoi a chael paragraff bachog i gloi, dwi'n sylwi bod cymylau llwyd yn dechrau mygu dail ucha'r coed a bod ambell i ddeigryn oer yn crafu gwydr y 'dybl glesing' - ond pa ots! Nid dyna sy'n bwysig, nace!
Heledd Elfryn
Duw a'm gwaredo T.H. - ni allaf ddianc rhag hon!
Cyhoeddwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.