|
"Mi ddaru ni gychwyn Cwlwm Glaslyn gyda swyddog addysg yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i annog y gymuned i gymryd mwy o ddiddordeb yn yr amgylchfyd lleol. Rydym yn trafod llwybrau cyhoeddus a phethau eraill sy'n amharu ar y gymuned ond y gweithgaredd mwyaf diddorol yw'r prosiect celf.
"Rydym wedi llwyddo i gael arian gan Cywaith Cymru ac eraill i gyflogi artistiaid i ddod i weithio gyda'r gymuned. Rydym wedi cael tri hyd yn hyn ac maent wedi gwneud nifer fawr o brosiectau gwych efo grwpiau lleol ac ysgol gynradd y pentref.
"Maen nhw wedi creu gwaith parhaol sydd o fudd i'r ardal, yn enwedig i ymwelwyr, fel y cerflun o Gelert - mae ei ben a'i gefn yn sgleiniog iawn erbyn hyn ar ôl i bawb rhoi mwythau iddo! Mae 'na hefyd giât gyda cherflun o bysgodyn o fewn iddo, un arall o fewn wal gyda cherflun o drên ynddo a ffenestr lliw yn yr eglwys.
"Ond y fantais fwyaf yw bod yr artistiaid yn hybu'r gymuned i gymryd rhan yn eu gweithgareddau ac i wneud pethau dydyn nhw ddim yn arfer ei wneud. Mae'n wych i ysgwyd pobl i fyny 'chydig, dod â phobl at ei gilydd i brofi gweithgareddau newydd."
 |