|
Mae Rhydian yn ennill camera digidol (isod) ar ôl ymweld â Bws y BBC yn yr eisteddfod ac ateb ein cwis yn gywir, yn ogystal â chyfrif pob un Mistar Urdd oedd wedi ei guddio o amgylch y safle - roedd yna wyth i gyd! Yn ail allan o'r het, ac yn ennill radio solar, mae Llŷr a Meilir o Landysul yng Ngheredigion - llongyfarchiadau iddyn nhw hefyd! Roedd Bws y BBC yn lle prysur iawn yn ystod wythnos yr eisteddfod gyda miloedd o blant o bob cwr o Gymru wedi dod ar ei bwrdd i syrffio gwefannau'r BBC a chael cyfle i ennill gwobrau gwych. Diolch i bawb a gystadlodd drwy ateb y cwis neu lenwi'r holiadur.
Mi allwch chi gadw llygad ar amserlen y bws ar safle'r canolbarth i weld pryd y bydd yn ymweld â'ch ardal chi. Gobeithio y bydd Llŷr a Meilir yn mwynhau gwrando ar eu radio newydd ac y cawn weld rhai o luniau Rhydian ar y safle yma cyn hir!
 |