BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Hwlffordd
Canol tref Hwlffordd Sôn wrth y Byd am Hwlffordd!
Mae BBC Cymru am glywed popeth am Hwlffordd fel rhan o'i ymgyrch strategaeth gymunedol Yma i Chi yr haf hwn.
Mae'r Gorfforaeth yn rhoi cyfle i bobl leol ddweud eu straeon eu hunain am y dref drwy fis Mehefin a Gorffennaf, gyda rhai yn cael eu clywed ar draws gwasanaethau'r BBC ar y radio, teledu a'r gwefannau lleol.

Mae 'taflenni stori' arbennig yn cael eu dosbarthu o gwmpas y dref fel y gall unrhyw un sydd â stori i'w hadrodd gael cyfle i wneud hynny.

Mae taflenni stori ar gael o Archifdy'r Sir, Caffi Marchnad Glan yr Afon, Oriel Gelf Andrew Bailey, Canolfan Siopa Glan yr Afon, Llyfrgell Hwlffordd, Swyddfa Cyngor Tref Hwlffordd, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro ac ar-lein - cliciwch yma i lawr lwytho y daflen stori (Dogfen 'Word')

Gall pobl rannu eu straeon hefyd drwy ffonio tîm Yma i Chi ar 08703 500 700. "Mae'n bwysig i ni adlewyrchu'r hyn sy'n haeddu sylw yn Hwlffordd fel rhan o Yma i Chi a phwy well i adrodd wrthym am y dref ond y bobl sy'n byw yno?" esbonia Cydlynydd Strategaeth Gymunedol BBC Cymru Alison Quinn. "Ni allwn addo rhoi sylw i bob stori a anfonir ond fe hoffwn wybod am bopeth sy'n digwydd, gyda phwy y dylem fod yn siarad, pa faterion sy'n bwysig, yn ogystal â'r hyn sydd wedi digwydd yn hanesyddol i siapio'r dref a'i phobl."

Er mwyn ysbrydoli pobl leol i rannu eu straeon, mae BBC Radio Wales yn darlledu Diwrnod Archif Hwlffordd ddydd Mawrth, Mehefin 27. Mae'r diwrnod yn cynnwys straeon, lleisiau a safbwyntiau a recordiwyd dros y blynyddoedd gan y BBC yn Hwlffordd, gydag eitemau yn cael eu darlledu ar amrywiol raglenni drwy'r diwrnod.

Bydd Bws rhyngweithiol BBC Cymru hefyd yn y dref ddydd Mercher, Mehefin 28. Wedi ei leoli ynghanol y dref o 9am tan 3pm, anodd fydd methu'r bws melyn.

O 9 y bore gall ymwelwyr gael y cyfle i alw mewn am sgwrs gyda Kath o raglen foreol Roy Noble fydd yn fyw ar yr awyr. Bydd hi hefyd yn gwahodd pobl i geisio'i lwc gyda chystadleuaeth Llais Cudd y rhaglen.

Mae'r Bws, sydd yn llawn o'r dechnoleg ddiweddara, hefyd yn cynnig cyfle i gyfrannu i wefannau lleol BBC Cymru a darganfod mwy am raglenni a phrosiectau'r BBC.

Am fwy o wybodaeth cysyllter â Kate Stokes-Davies ar 029 2032 3781



Lluniau
Radio Cymru
Natur


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy