Cliciwch yma i glywed Arwyn Thomas yn siarad am hanes Clwb Golff Caerfydddin.
Daeth Arwyn Thomas ar draws un tro trwstan yn hanes y clwb - cliciwch yma i glywed mwy!
"Arwyn Thomas yw'r enw ac rwy'n byw ym Mronwydd, pentref sydd ond ryw ddwy filltir o safle Clwb Golff Caerfyrddin a wi wedi bod yn aelod er 1966 ac yn ddiweddar iawn fe ofynnwyd i mi geisio dynnu hanes y clwb ynghyd gan ei bod hi'n flwyddyn y canmlwyddiant.
Fe gychwynnodd e yn y cyfnod 'na, 1907, ac yn y cyfnod yna roedd llawer o glybiau golff yn cael eu sefydlu led led Cymru. Roedd y gêm yn dod yn boblogaidd iawn ac fe deimlwyd yn nhref Caerfyrddin ar y pryd, gan y dosbarth canol fod angen safle i'r gêm yn lleol. Ansicr iawn oedd y blynyddoedd cyntaf. Am yr ugain mlynedd cyntaf bu'r clwb yn chwarae mewn ryw bedwar safle a bron i'r clwb fynd a'i ben iddo ddwy neu dair o weithiau. Y prif reswm am hynny oedd nad oedd sicrwydd. Roedd digon o frwdfrydedd gan y chwaraewyr ond tenantiaid oeddynt yn talu rent am dir a hynny am flwyddyn yn unig.
Un tro roeddynt yn chwarae lawr ym Mhontgarreg yn Nhre Ioan, ac fe wedodd y ffarmwr, cewch, fe gewch chi'r tir ond peidiwch a thorri'r porfa rhwng mis Mai a mis Medi. Wel, sut oedden nhw'n mynd i ffeindio eu peli!!
Gyda'r symudiad i Rydymarchog, y safle presennol yn 1928, fe gatho nhw les ar y tir ac ymhen ychydig flynydde roedden nhw wedi prynu'r tir a sefydlu'r clwb. O'r diwedd roedden nhw'n sicr ac yn saff, a dyna lle mae nhw wedi bod ers hynny.
Ar y dechrau fe sefydlwyd y clwb gan ryw dri dwsin o ddynion
a ryw ddwsin o wragaedd, felly roedd y gwragedd yn rhan o'r clwb o'r cychwyn cyntaf, ac o edrych ar y garden aelodaeth amhrisiadwy sydd ganddo ni o'r flwyddyn 1907, ac rych chi'n sylw o'r garden honno mai gwragedd y gwrywod oedd rhan fwyaf o'r aelodau ar y pryd.
Gêm dosbarth canol oedd hi wedi bod lan ers yr Ail Ryfel Byd ac ar ôl hynny am gyfnod, ond yn y chwedegau roedd yna chwyldro mawr drwy'r byd, ac fe ddaerth cyfle i bobl neud lot o bethau. Roedd pobl yn fwy abl ar ôl hynny - roedd fwy o arian ar hyd y lle - ac felly fe welwyd nifer fawr yn ymuno yn ystod y chwedegau a'r saithdegau. Fe aeth yr aelodaeth i fyny i saithcant a hanner a wedo nhw stop dim rhagor, gormod! Ond ar hyn o bryd, fe alla nhw wneud â mwy ac mae'r ddau gapten Chirs Jones a Ruth James yn teimlo fod yna le i farchnata'r gêm a denu mwy o bobl i'r clwb.
Yn enwedig yn ystod y 1970au a'r 1980au roedd yna gymdeithas yn y clwb. Roedd corau yn canu ar nos Sul, corau o Llandysul, Pontiets, Llandeilo ayb ac roedd nifer o gantorion mewn operau lleol yn canu ac roedd tipyn o hwyl, ac roedd pobl yn oedi ar ôl chwarae golff er mwyn bod yn rhan o'r noson lawen.
Mae angen denu rhagor o bobl i'r clwb, ond yn y dyddiau hyn mae mwy o gystadleuaeth. Nifer fach o glybiau cyfagos oedd yn ystod y 1970au ond nawr mae gennych chi glybiau newydd wedi codi mewn gwahanol rannu yn y sir, a rhai ohonynt yn cael tipyn o gefnogaeth gan y cynghorau, felly mae tipyn o gystadlaeth wedi dod; ond dwi'n credu fod y pwyllgor presennol yn deall fod angen marchnata er mwyn mynd i'r dyfodol."
Safle arbennig am Gaerfyrddin ar wefan Cymru'r Byd.