|
Cynhaliwyd 'Noson Belen Eira' y chweched dosbarth ar Ragfyr 13, 2006 yng Ngwesty'r Talbot yn Nhregaron. Pwrpas y noson oedd codi arian ar gyfer elusen Cancr y Fron. Bu'n noson llwyddiannus dros ben ac fe gasglwyd £1,400. Roedd y noson yn un gyffrous gyda phawb wedi gwneud ymdrech i edrych ar eu gorau. Roedd y bechgyn i gyd yn edrych yn smart iawn yn ei siwtiau a'u 'dicibows', a'r merched i gyd yn edrych yn hynod o bert yn eu henfys o liwiau. Roedd yna lawer o ddawnsio a chymdeithasu a phawb yn llwyddo i wneud ffrindiau newydd. Tynnwyd raffl hefyd gydag amryw o anrhegion i'w hennill. Cafwyd hefyd fwyd arbennig oedd wedi ei baratoi gan y gwesty. Fe ddiolchwyd yn fawr i'r prif ferch Enfys Hatcher a'r prif fachgen Daniel Davies am drefnu'r noson. Erthygl gan Ffion Mai Evans.
 |