|
Ydych chi wedi ymweld â Llambed yn ddiweddar? Mae'n dref gymwynasgar a chartrefol tua 25 milltir o Gaerfyrddin. Mae yma Brifysgol eisioes wedi ei sefydlu'n amlwg a Chanolfan Hamdden sy'n cynnig cyfleusterau da i bobl yr ardal. Mae gan y dref newydd ddelwedd ffres, sy'n denu mwy o bobl i ymweld â hi. Rydym yn lwcus bod Llambed yn llawn siopau arbenigol ac annibynnol sy'n cynnig dewis eang o nwyddau. Yma gallwch fwynhau'r profiad o siopa'n hamddenol mewn amgylchedd ddymunol. Gydag amryw o siopau dillad, tai bwyta a chyfleusterau at anghenion pawb, nid oes dwywaith bod Llambed yn croesawu pawb. Mae yna siop newydd wedi agor yn ddiweddar sy'n canolbwyntio ar ffasiwn ieuenctid ac mae'n ymuno â siopau eraill yn y stryd fawr sy'n gwerthu dillad, gemau ac addurniadau gwahanol. Mwynhewch yr awyrgylch hudol! Mae dewis eang o dai bwyta yn Llambed, a nifer ohonynt wedi ennilll gwobrau, gan gynnwys Caffi Conti sydd wedi ennill nifer o dystysgrifau am eu hufen iâ cartref blasus. Mae safle i fwyty Chineaidd newydd ar y gweill a thŷ bwyta Indiaidd lawr y stryd, felly does dim esgus!! Yn ychwanegol mae'r caffis lleol yn darparu bwyd Cymreig a rhoddir pwyslais ar ddefnyddio cynnyrch lleol. Yn fy marn i, er mai tref farchnad fechan yw Llambed mae'n dref llawn atyniadau. Ceir nifer o lefydd i aros sy'n amrywio o lety gwely a brecwast i westy moethus. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod yna naws gymunedol gref yn perthyn i'n tref. Dewch i Lambed! Erthygl gan Anwen James.
 |