Cymdeithasu. Cystadlu. Addysgu. Dyna yw Mudiad y Ffermwyr Ifanc i mi, ac roedd 2006 yn fwy o flwyddyn na'r un arall! Rwy'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog, oedd yn dathlu ei hanner can mlwyddiant yn 2006. Roedd Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru yn dathlu penblwydd yn 70 oed hefyd - felly, dwywaith y dathlu!!
Wythnos y dathlu
O Dachwedd 11 i 19 cafwyd wythnos wych i ddathlu'r garreg filltir yn hanes Clwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog.
Dechreuwyd yr wythnos gyda bang a chafwyd Dawns y Dathlu yn Quay West, Cei Newydd pan ddaeth dros 500 o bobl ar draws y sir at ei gilydd i wrando ar Ddisgo Gethin a'r band Newshan, gan fwynhau y cymdeithasu.
Yr ail noswaith oedd noson 'Llyfrau a Lluniau' yn Ysgol Cwrtnewydd, lle cafwyd noswaith o edrych ar hen luniau'r clwb, clywed straeon, a bwrw golwg ar hen lyfrau lloffion a chofnodion a mwynhau ymysg aelodau hen, newydd a ffrindiau'r clwb.
Y drydedd noswaith oedd Cyngerdd y Degawdau yn Neuadd y Celfyddydau, Coleg Llambed. Cafwyd eitemau o dri degawd, gan y bobl oedd yn aelodau ar ddechrau'r clwb, yr aelodau presennol a'r rhai yn y canol.
Y noson wedyn oedd noson Tynnu'r Gelyn ac Eisteddfod Dafarn yng Nghefn Hafod, Gorsgoch. Fe wnaeth pedwar degawd gwahanol dynnu, gydag un degawd yn cael buddugoliaeth cyn mynd i fewn i glydwch y dafarn, i gael gemau a thaflen waith cartref. 'Y dyfodol' enillodd y noson, gyda bach o help wrth gwrs!!
Y bumed noswaith oedd Cinio'r Dathlu yn Nhyglyn Aeron, Ciliau Aeron, lle cafwyd pedwar cwrs â blas ar bump cacen, un i bob degawd! Mwynhaodd dros 180 ohonom gan ddawnsio hyd diwedd y nos i Ddisgo Gethin.
I gloi'r dathlu cafwyd Cymanfa yn Eglwys Llanwenog, gyda chanu gwerth ei glywed yn llanw'r Eglwys!
Fe aeth yr wythnos mor gyflym ag y daeth, ond mae'r atgofion yn dal i roi gwên ar bob wyneb!
Dathliadau Ffermwyr Ifanc Cymru
Ar raddfa llawer yn fwy, ar ddechrau mis Tachwedd cafwyd ddathliadau C.Ff.I Cymru ym mae Caerdydd, gyda'r wlad yn dod i'r dre a cynhaliwyd Gala Fawreddog. Tu allan i Ganolfan y Mileniwm, cafwyd nifer o stondinau yn gwerthu cynnyrch o'r wlad, sioeau hwyaid a nifer o anifeiliaid, i roi blas i bobl y dre ar fywyd pobl y wlad.
Cafwyd noswaith wych o dalentau Cymru ar y 5ed o Dachwedd, 2006. O ganu i ddawnsio a pherfformiad y Côr Mawreddog - roeddwn yn un o 400 o aelodau'r côr, a chawsom y cyfle i ganu dwy gân, a chael cwmni Shân Cothi yn un ohonynt. Roedd yn brofiad bythgofiadwy i sefyll ar lwyfan Canolfan y Mileniwm a chanu i Theatr Donald Gordon a oedd yn llawn.
Y peth neis i mi oedd cael gweld noswaith fawr y Gala, a fydd yn y cof am byth, ar y teledu. Y peth gwaethaf yw peidio cael ail-fyw wythnos ddathlu Llanwenog eto, ond fe fydd yr wythnos honno hefyd yn y côf am byth. Does dim eisiau unrhyw raglen i gofio'r wythnos wych honno!
Erthygl gan Siwan Davies