BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bedlam

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Radio Luxembourg Ble mae'r Gymraeg?
A ydych chi'n ffan o gerddoriaeth Gymraeg? Allwch chi enwi bandiau a chantorion Cymraeg? Alice James sy'n gofyn y cwestiynau ...
Faint ohonoch chi sy'n ymwybodol o gerddoriaeth Gymraeg? Yn anffodus, mae mwyafrif pobl Llambed a gweddill Cymru mewn gwirionedd, yn tueddu i wrando ar gerddoriaeth Saesneg. Mae hyn yn warthus yn fy marn i a gall arwain tuag at ddiflaniad yr iaith!

MeinirSut y gallwn gadw'r iaith i fynd, pan fod pobl yn troi i wrando ar Madonna pan mae gan Gymru Meinir Gwilym?

Ydych chi'n ymwybodol o'r cantorion a'r bandiau canlynol? Elin Fflur, Radio Luxembourg, Newshan, Frisbee, Java, Coda, Poppies - 'mond i enwi rhai o enwogion cerddoriaeth Cymru. Os nad oes gennych syniad pwy ydyn nhw, yna ewch allan ac archebwch eu cryno ddisgiau, yn fy marn i byddwch chi'n siŵr o'u mwynhau.

Gallwn ddadlau nad oes yna ddigon o hysbysebu yn cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg. Ar sianelu teledu BBC1, BBC2 ac ITV mae yna lwyth o hysbysebion am grynoddisgiau, does dim llawer o sôn am gerddoriaeth Cymraeg ar hysbysebion S4C!

Faint o glybiau Cymraeg sydd yn Llambed? DIM UN!! Dwi methu credu'r peth ond yn waeth na hynny, does dim cerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chwarae yn nhafarndai Llambed chwaith. Mae rhaid 'neud rhywbeth cyn i'r iaith farw.

Ydych chi'n cofio'r grŵp 'Maffia Mr Huws'? Wel credwch neu beidio roedd ganddyn nhw gig yng nghlwb rygbi Llambed ychydig amser yn ôl, ac mae'n flin gen i ddweud wrthych mai dim ond 28 a aeth i weld y band a oedd arfer bod yn enwog iawn.

Ydych chi'n cytuno nad oes digon o gigs i'w cael o amgylch ardal Llambed? Beth am yng ngweddill Cymru? Mae gan y dre hon ddigon o gyfleusterau i gynnal amryw o gigiau, ond yn anffodus, hyd y gwela i, does gan neb y diddordeb i gynnal dim byd. Rhaid i bethau ddechrau newid!!

Mae yna ddigon o dalent yng Nghymru, ac mae'n werth gwarando ar gerddoriaeth Gymraeg, felly tro nesa y byddwch chi'n troi eich radio ymlaen, tiwniwch fewn i BBC%20Radio%20Cymru am damaid o adloniant Cymraeg!

Erthygl gan Alice James

  • "Fy Hoff CD's Cymraeg" - Lowri Davies


  • Cyfrannwch

    Jasmin o Gymru
    Dwin cytuno, mae'r iaith gymraeg yn diflanu mewn cerddoriaeth mae siomedig!!!!Dwi'n cymraes ond yn tueddu troi at ganeuon saesneg sori cymru!!
    Tue Oct 14 16:54:57 2008

    Twm o Llanfyllyn
    Rywf yn cytuno'n gryf y bod y cerddoraieth Cymraeg yn diflannu ac yn siomedig y gall hyn arwain at diflaniad y Iaith. Mae angen mwy o bandiau a gigiau cymraeg i hybu'r iaith. Cefnogwch y wlad!
    Sun May 20 14:51:35 2007

    James o'r Felinheli
    Yndw, dwi'n cytuno ma' 'na ddifyg hysbysebu yn mynd ymlaen gyda threfnu gigiau Cymraeg ac ati, mae angen grwp brwdfrydig i sicrhau bod pawb yn yr ardal penodol yn gwybod am y gigs 'ma, felly, ni fydd trychineb fel a ddigwyddodd yn gig Maffia Mr Huws yn digwydd eto.
    Wed Jan 17 14:59:41 2007


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Digwyddiadau
    Radio Cymru
    Trefi
    Adolygiadau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy