|
Mae llawer o ffws ar y newyddion am sut mae'r canran o bobl tew wedi cynyddu dros y cwpwl o flynyddoedd diwethaf, yn enwedig plant. Nid ydy'r Llywodraeth yn credu bod plant yn gwneud digon o ymarfer corff a bwyta'n ddigon iach. Rydw i'n cytuno gyda hyn, ond pa gymhelliad sydd i gael plant wneud mwy o ymarfer corff? Pam fyddai plant eisiau bwyta afal pob dydd, pan mae siocledi i'w cael ym mhob man?
Ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf wrth ddechrau yn y Chweched dosbarth, penderfynais ymuno â'r gampfa yn Llambed, ac ers hynny rydw i yn mynd yn gyson. Tair neu pedair gwaith yr wythnos os mae gennyf amser. Nid oeddwn yn blês gyda'r ffaith roeddwn i yn parhau i roi pwysau arno, a bwyta pethau gwael fel siocledi a sglodion bob dydd.
Ers hynny, mae fy mywyd wedi newid mewn pob ffordd. Rydw i'n bwyta ffrwythau a llysiau bob dydd, ac rwy'n teimlo'n llawer mwy iachus. Mae gennyf llawer mwy o egni, ac mae'n rhoi boost enfawr i'ch hyder. Rydw i'n defnyddio cyhyrau nid oeddwn yn gwybod oedd gennyf!
Felly rydw i'n annog unrhyw un sy'n teimlo yn anghyffyrddus gyda'u cyrff neu unrhyw un sydd eisiau cadw'n ffit i ymuno ag unrhyw gampfa yn agos i'ch ardal. Mae gampfa Llambed yn ardderchog. Mae'r staff yn wasanaethgar iawn, ac mae'r cyfarpar yn ardderchog hefyd. Felly ymunwch â'r gampfa sy agosach atoch chi. Wrth i'ch ffitrwydd ddatblygu, ac wrth i chi fwyta'n iach yr un pryd, rwy'n addo bydd eich bywyd yn gwella mewn pob ffordd. Mae afalau, bananas, oren a phob math o ffrwythau eraill yn cael eu gwerthu ym mhob man, ac maent yn rhad iawn hefyd.
Felly y tro nesaf rydych yn prynu siocled, meddyliwch am y cymeriad Vicky Pollard o'r rhaglen deledu Little Britain ar draeth mewn bicini tynn iawn.
Gan Shaun Ablett
 |