|
Gyda chymaint o siarad a fu am y ffilm Borat: Cultural learnings of America for make benefit glorious nation of Kazakhstan, mi benderfynais fynd i'w weld ar Dachwedd 25, 2006. Mae'n dilyn taith y cymeriad Borat Sagdiyev (sef Sacha Baron Cohen) o gwmpas America - mae'n pathetig ond yn hollol wych! Rwy'n addo i chi nawr, fyddwch chi ddim yn stopio chwerthin o'r foment byddwch chi'n cyrraedd y sinema i'r foment y byddwch chi'n gadael. Os ydych yn berson eitha squeamish, wel, neu yn rywun sy'n embarasio'n hawdd, yna peidiwch a mynd i weld y ffilm yma! Mae'n afiach i fod yn onest da chi! Holl bwrpas y ffilm yw i Borat (gohebydd teledu o Kazakhstan) wneud ffilm ddogfen wrth deithio yn yr Unol Daleithau. Ar y ffordd, mae'n ffeindio ei 'wraig' newydd - Pamela Anderson. Efo cymaint o nonsens am y ffilm hon, mae'n rhyfeddod ei bod wedi cael ei dangos o gwbwl. Gyda chyllideb mor fach mae Sacha Baron Cohen wedi gwneud jobyn go dda o wneud hon yn ffilm wych. Felly os ydych chi'n teimlo un nosweth eich bod chi ishe ffilm i godi'ch calon, gwyliwch hon! Yn sicr dyma ffilm orau 2006!! Erthygl gan Hayley Thomas Adolygiad o'r ffilm Borat ar wefan Ffilm BBC Cymru'r Byd Ydych chi wedi gweld y ffilm hon? Beth yw eich barn chi amdani? Dywedwch wrthon ni isod.
 |