Beth sydd yn bwysig am ardal Llambed? Beth sydd i'w wneud yn y dref hon? Ydy Llambed yn dref sydd yn eich denu chi? Hanes Llambed
Mae llawer o hanes i'r dref hon ac mae llawer o hen adeiladau yn yr ardal sy'n dal i gael eu defnyddio heddiw.
Ysgol Gynradd Llambed
Enw gwreiddiol yr ysgol hon oedd Peterwell. Cafodd yr ysgol ei hadeiladu ym Mehefin 1880. Yn yr amser hynny roedd yn ysgol i ferched yn unig, ac roedd tua 297 o ddisgyblion yn mynd yno. Heddiw mae dros 300 o blant yn mynychu'r ysgol a bechgyn a merched yn gymysg.
Dyma Ysgol Gyfun Llambed. Cafodd ei hadeiladu yn Hydref 1949. Roedd tua 531 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol erbyn 1959. Erbyn heddiw, mae tua 700 o ddisgyblion yma.
Cafodd Coleg Prifysgol Llambed ei adeiladu yn y flwyddyn 1803, ac mae llawer o fyfyrwyr yno. Gellir astudio gwahanol bynciau yn amrywio o Athroniaeth i Gymraeg a Ffilm a Theledu.
Beth sy'n digwydd yn Llambed?
Mae yna lawer o ddigwyddiadau yn digwydd gydol y flwyddyn yn y dref hon. Bob blwyddyn cynhelir Carnifal ac mae sioe Llambed yn un mawr a phoblogaidd ac mae llawer mwy o wahanol bethau yn digwydd yno.
Pan mae'r Carnifal yn cael ei gynnal yn y dref, mae mwyafrif y siopau yn cael eu addurno ac yn gwneud fflôts, mae hyn yn digwydd ym mis Mai. Mae yna ŵyl fwyd flynyddol ar safle'r coleg, lle mae llawer o bobl yn dod o bell ac agos i flasu gwahanol fwydydd.
Beth sydd yn Llambed?
Mae llawer o wahanol bethau yn Llambed - megis siopau, caffis, coleg a thafarnau.
Mae yna bopty yng nghanol y dref a siopau yn gwerthu gemwaith.
Barn disgyblion ysgol Llambed am y dref
Gofynnwyd i rai o ddisgyblion yr ysgol beth maent yn ei feddwl o dref Llambed a dyma eu hatebion.
"Rwy'n meddwl bod angen mwy o bethau i wneud yn Llambed. Mae angen clybiau ieuenctid i'n hoedran ni gan nad oes dim byd i'w wneud yn ein amser rhydd."
Bobby Wilson, disgybl o Ysgol Gyfun Llambed
"Nid oes llawer o siopau dillad yn Llambed. Nid ydych yn gallu gwneud llawer o siopa yma, mae'n rhaid mynd i Gaerfyrddin er mwyn gwneud hyn."
Erthygl gan Ffion Evans
Dyma beth mae rhai o ddisgyblion yr ysgol yn meddwl o Lambed. Beth ydych chi'n feddwl? Oes eisiau mwy o bethau i'w wneud yn Llambed, oes eisiau mwy o siopau a gweithgareddau? Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â hyn? Mynegwch eich barn am Lambed isod.
Erthygl gan Stephanie James, Ysgol Llambed