BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llên
Islwyn Ffowc Elis
Islwyn Ffowc Elis

Ganwyd: 1924, Wrecsam

Magwyd: Dyffryn Ceiriog

Addysg: Ysgol Nantyr, Ysgol Uwchradd Llangollen, Coleg Prifysgol Cymru, Bangor.


Nofelydd poblogaidd ac arloesol

Yr awdur Cymraeg mwyaf llwyddiannus yn ystod y pum degau a'r chwedegau oedd Islwyn Ffowc Elis.

Yn wir, dywedir ei fod wedi achub y nofel Gymraeg trwy ennill cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr ifainc a oedd mewn perygl o gefnu ar ddarllen llyfrau yn yr iaith.

Gyda hyn mewn golwg, aeth ati'n ddyfal i ysgrifennu nofelau a fyddai'n apelio at bobl oedd yn awchus am lyfrau gwahanol i'r rhai sych ac hen-ffasiwn oedd ar gael yn y Gymraeg yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a hynny mewn ieithwedd ystwyth a darllenadwy, a chafodd yr awdur talentog hwn lwyddiant mawr yn hynny o beth.

Mab fferm

Ganwyd Islwyn Ffowc Elis yn Wrecsam ym 1924 ond fe'i magwyd yn fab fferm yn Nyffryn Ceiriog, a'i addysgu yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.

Bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llanfair Caereinion, Sir Drefaldwyn, ac yn Niwbwrch, yn Sir Fôn, ond roedd e'n anhapus ac yn teimlo'n anniddig, fel mae ei gofianydd Robin Chapman wedi ei ddangos.

Cafodd nifer o swyddi wedyn, gan gynnwys gwaith cynhyrchu gyda'r BBC, fel darlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ac fel golygydd gyda'r Cyngor Llyfrau.

Yn ystod ei amser yng Ngholeg y Drindod roedd yn weithgar iawn ar ran Plaid Cymru a chyfrannodd yn ddisglair i fuddugoliaeth Gwynfor Evans yn Sir Gaerfyrddin ym 1966.

Diymhongar

Wedi cyfnod o bedair mlynedd yn awdur amser-llawn - ac yn byw yn Wrecsam - fe'i penodwyd ym 1975 yn ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ac yno yr arhosodd nes iddo ymddeol.

Er ei fod yn gorfod ymgymryd â'r swyddi hyn er mwyn ennill ei damaid, ei unig foddhad oedd mewn ysgrifennu.

Eto i gyd, teimlodd nad oedd wedi ymroi'n ddigonol i'w grefft ac, yn greadur diymhongar dros ben, nid oedd yn teimlo, meddai, ei fod yn lenor o bwys.

Ei lwyddiant mawr

Daeth Islwyn Ffowc Elis i sylw y cyhoedd pan ennillodd y Fedal Rhyddiaith yn Eisteddfod Gendlaethol 1951 am ei gyfrol o ysgrifau Cyn Oeri'r Gwaed (1952).

Ond gyda dwy nofel am deulu amaethyddol yn Sir Drefaldwyn ennillodd fri fel awdur poblogaidd dros ben. Yn Cysgod y Cryman (1953) ac Yn Ol i Leifior (1956) cafwyd stori Harri Vaughan a'i wrth-ryfela'n erbyn gwerthoedd traddodiadol ei dad a cheisio sefydlu rhyw fath o gymuned gydweithredol ar eu fferm.

Mae'r nofel yn portreadu nifer o gymeriadau llai sy'n hynod atyniadol a chofiadwy.

Gwerthu miloedd

Gwerthwyd copïau o'r ddwy nofel yn eu miloedd ac maent mewn print o hyd, wedi eu addasu'n ddrama ar gyfer y radio a'r teledu, wedi eu cyfieithu i'r Saesneg, ac wedi eu rhoi ar sylabws yr ysgolion.

Wedi llwyddiant nofelau Lleifior, cyhoeddodd Islwyn Ffowc Elis nofel bron bob blwyddyn am ychydig: Ffenestri tua'r Gwyll (1955), Wythnos yng Nghymru Fydd (1957), Blas y Cynfyd (1958), a Tabyrddau'r Babongo (1961).

Ni chafodd yr un o'r rhain yr un gwerthiant ysgubol a'u rhagflaenwyr ond fe sefydlwyd eu hawdur fel meistr ar ryddiaith Cymraeg a storiwr heb ei ail.

Gwaith hwyr

Wedi tawelu am rai blynyddoedd, dychwelodd i'w briod waith fel awdur llyfrau poblogaidd, gan gyhoeddi Y Blaned Dirion (1968), Y Gromlech yn yr Haidd (1971), drama am Howel Harris (1973), a chasgliad o straeon byrion, Marwydos (1974). Cyfansoddodd yn ogystal nifer o ganeuon poblogaidd.

Dywedir o dro i dro fod Islwyn Ffowc Elis, ar gyfrif ei ymgais dygn i ddenu rhagor o ddarllenwyr i lyfrau Cymraeg, wedi cyfyngu ar werth llenyddol ei waith.

Boed hynny fel y bo, cytunir yn ddigamsyniol ei fod wedi braenaru'r tir ar gyfer y nofelwyr niferus a'i dilynodd yn ystod y ddau ddegawd nesaf.

Gwelir yn glir erbyn hyn bod nofelau Lleifior yn garreg filltir yn natblygiad y nofel Gymraeg.

Bu farw ym 2004.

Meic Stephens


Cyfrannwch

Annette Strauch o Fachynlleth
Astudiais i'r gwaith Islwyn Ffowc Elis.
Tue Feb 10 15:29:38 2009


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy