Sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru
"Beth wnawn ni blant Cymru, i gadw'r iaith yn fyw? Sefydlwn Urdd newydd a cheisiwn gael pob plentyn dan ddeunaw i ymuno â ni." Ganwyd Ifan ab Owen Edwards yn Llanuwchllyn ger y Bala yng Ngwynedd yn 1895. Owen Morgan Edwards, yr addysgwr uchel ei barch, oedd ei dad.Yn ŵr ifanc, aeth Ifan i Goleg y Brifysgol Aberystwyth i astudio hanes.
Gwasanaethodd fel milwr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna fel athro yn Nolgellau. Fel ei dad o'i flaen, roedd yn awyddus i ddiogelu'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Sefydlodd gylchgrawn i'r plant sef Cymru'r Plant ac mewn erthygl yn 1922 fe wnaeth gais anarferol. Beth wnawn ni blant Cymru, i gadw'r iaith yn fyw? Sefydlwn Urdd newydd a cheisiwn gael pob plentyn dan ddeunaw i ymuno â ni.
Yn sgîl yr apêl hon, sefydlodd Urdd Gobaith Cymru. Dim ond 700 o aelodau oedd gan y mudiad yn 1922 ond erbyn heddiw mae'r ffigwr yn nes at 50,000. Treuliodd Syr Ifan weddill ei oes yn hyrwyddo'r mudiad ar egwyddorion sylfaenol roddodd fod i'r mudiad sef gwasanaethu Cymru, cyd-ddyn a Christ. Fe'i gwnaethpwyd yn farchog yn 1947.
Yr Ysgol Gymraeg gyntaf
Ymsefydlodd Ifan ab Owen Edwards a'i deulu yn Aberystwyth ac yn 1939 agorodd yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yng Nghymru yno. Dim ond saith oedd ar y gofrestr a'r diweddar Norah Isaac oedd yr athrawes.Erbyn diwedd y rhyfel, roedd yna 81 o blant a phedwar athro yn Ysgol Lluest. Er mai ysgol breifat oedd yr ysgol, cydnabyddir mai'r ysgol hon arweiniodd at sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg eraill ar draws Cymru.
Arloeswr Ffilm
Roedd Syr Ifan yn arloeswr ffilm hefyd. Ef yn wir oedd y cyntaf i wneud ffilm Gymraeg, sef Y Chwarelwr a ddangoswyd am y tro cyntaf yn 1937. Fel rhan o'i gynllun i hyrwyddo'r Gymraeg, fe deithiodd Syr Ifan Gymru benbaladr yn dangos y ffilm. Mae'r ddau fab hefyd wedi bod yn amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru.
Owen Edwards oedd Cyfarwyddwr cyntaf S4C yn 1982 ac mae ei frawd Prys Edwards yn ddyn busnes amlwg, yn gyn Gadeirydd Bwrdd Twristiaeth Cymru ac yn Llywydd Anrhydeddus yr Urdd. Lleolwyd prif ganolfan yr Urdd yn Aberystwyth ers 1933.