bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Dewis newydd o emynau i'r ffyddloniaid

Er bod y capeli'n gwagio mae gwerthiant llyfr emynau newydd yn anhygoel. . .
Pan gyhoeddir Caneuon Ffydd, llyfr emynau cyd-enwadol cyntaf Cymru yr wythnos hon, bydd eisoes wedi gwerthu dros 53,000 o gopiau.

Yr enwadau yn dod at ei gilydd

Daeth y Presbyteriaid, Wesleaid, Annibynwyr, Bedyddwyr a’r Eglwys yng Nghymru at ei gilydd i gyhoeddi'r llyfr.

“Cafwyd ymholiad gan y Pabyddion ond yr oedd pethau wedi symud ymlaen yn rhy bell iddyn nhw wneud cyfraniad i’r gyfrol,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Golygyddol, Dr Brynley Roberts, y cyn lyfrgellydd cenedlaethol.

“Yr hyn ofynnwyd i ni ei wneud gan yr enwadau oedd cynhyrchu llyfr emynau fyddai’n adlewyrchu rhychwant gweddol eang y traddodiad Trindodaidd.

“Mae’r gyfrol yn cynnwys bron i 900 o emynau, 700 o donau ac 80 o emynau Saesneg.

"Heblaw emynau mae yma gynorthwyon addoli, ymatebion i weddïau, y Te Deum a’r Salmau - mi fuaswn i’n dymuno ein gweld ni’n mynd ’nôl i ganu mwy ohonyn nhw yn ein gwasanaethau,” meddai.

Dywedodd y Dr Roberts, sy’n gyn-Athro’r Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, a chyn-Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, ac yn perthyn i enwad y Presbyteriaid fod yn y gyfrol lawer o emynau cyfarwydd o’r traddodiad Cymreig.

Emynau newydd gan feirdd cyfoes

“Estynwyd gwahoddiad cyffredinol am emynau yn arbennig lle roedden ni’n gweld bylchau. Mae yn y gyfrol weithiau newydd gan feirdd fel Rhys Nicholas, Tudor Davies, John Gwilym Jones. Brynley Roberts

"Mae emynau ar themâu mwy cyfoes - ag iddyn nhw naws fwy carismataidd, mwy myfyriol a rhythmau mwy cyfoes,” ychwanegodd.

Ymysg y themâu mwy cyfoes mae yna bwyslais ar y dyngarol fel ag yn emyn Peter Thomas, gweinidog gyda’r Wesleaid, a’r dôn gan Tecwyn Ifan sy'n enghraifft dda o gydweithio rhwng yr enwadau.

“Y mae’r llyfr ei hun yn dystiolaeth i gydweithio,” meddai y Dr Roberts “ond y mae emynau unigol sy’n pwysleisio hynny mewn cyfnod pan fo galw ar eglwysi i gyd-weithio, cyd-gerdded a chyd-foli.”

Emynau Saesneg

Ynglyn â’r emynau Saesneg, dywedodd fod nifer o eglwysi Cymraeg sydd hefyd yn addoli yn Saesneg.

“Erbyn hyn mae yna blant sy’n fwy rhugl eu Cymraeg na’u rhieni ac y mae’r llyfr yn darparu rhychwant go dda o ddeunydd ar gyfer gwasanaethau dwyieithog.”

Ychwanegodd ei bod yn drawiadol bod cynifer eisiau copïau o’r llyfr a hynny mewn cyfnod pryd yr honnir bod y rhain yn ddyddiau du ar grefydd yng Nghymru.

Cyhoeddir Caneuon y Ffydd gan Wasg Gomer.

• Holi Brynley Roberts - cliciwch Yma.

 
Wythnosau Blaenorol:


Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a BBC Cymru'r Byd






About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy