BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Mair Wynn Hughes
Sgwrs gydag enillydd Gwobr Mary Vaughan Jones
Cadw ei gwaith ar ei chof yr oedd un o awduron prysuraf Cymru pan ddechreuodd hi lunio straeon.

A dywedodd mai sylw gan ddisgybl yn yr ysgol nad oedd yn ailadrodd ei straeon yr un ffordd bob tro a'i sbardunodd i roi ei straeon i lawr ar bapur.

Yr oedd Mair Wynn Hughes yn siarad ar Raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru rai dyddiau cyn derbyn Gwobr Mary Vaughan Jones 2007.


gwrandoDetholiad o sgwrs Mair Wynn Hughes gyda Dei Tomos ar BBC Radio Cymru, nos Sul, Mawrth 4, 2007


Fe'i dyfarnwyd iddi am ei chyfraniad maith i faes llyfrau plant a hithau wedi cyhoeddi dros 80 o lyfrau yn amrywio o rai i'r plant lleiaf i nofelau hanes sy'n cael eu darllen gan oedolion yn ogystal â phlant.

Stori cyn mynd adref
"Roeddwn i'n dechrau dysgu yn y Pumdegau," meddai wrth Dei Tomos, "a'r adeg honno roeddwn i yn dweud stori wrth y plant (pump i saith oed) cyn mynd adra.

"Ond prin iawn oedd y llyfrau yn y Gymraeg ar gyfer dweud stori felly mi wnes i ddechrau dyfeisio rhyw gymeriadau bach a dweud stori amdanyn nhw - ond y drwg oedd doeddwn i ddim yn sgrifennu y straeon yna i lawr ond yn eu hadeiladu wrth eu dweud ac felly ddim yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd.

"Ac felly yr ydw i yn sgrifennu o hyd, dydw i ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd mewn stori pan ydw i'n cychwyn," meddai.

Dywedodd y bydd yn wynebu "wal frics" ar adegau a gorfod mynd "i lanhau ffenest neu smwddio" er mwyn cael ei meddwl yn glir.

Wedi anghofio
Dywedodd mai bachgen yn ei dosbarth - Derfel - a'i gorfododd i ddechrau rhoi ei straeon ar bapur:

"Fe fyddai'r plant yn gofyn am stori eto, ond y drwg oedd os nad ydych wedi sgwennu pethau i lawr yr ydych wedi anghofio rhediad y stori a chyn gynted ag y byddwn i wedi agor fy ngheg fe fyddai Derfel yn rhoi ei law i fyny a dweud Plis Miss nid felna wnaethoch chi deud hi tro dwytha.

"Wedyn bu'n rhaid imi ddechrau eu sgrifennu nhw'i lawr ac wedi dechrau sgrifennu a gweld y stori yn tyfu ar bapur ac yn enwedig wedi cael cyhoeddi [roedd yn deimlad braf]."

Ychwanegodd fod y balchder o gael llyfr mewn print yn parhau hyd heddiw a bod yna bleser arbennig mewn cael copïau cyntaf o'i llyfrau oddi wrth y cyhoeddwyr.

Darllen ar yr aelwyd
Er yn byw ar Ynys Môn yn awr, un o Eifionydd yw Mair Wynn Hughes ac wedi ei magu ar aelwyd lle'r oedd llawer o ddarllen.

Dywedodd ei bod yn cofio'r teulu cyfan "a'u trwyn mewn llyfrau" yn darllen yng ngolau lamp olew pan oedd hi'n blentyn.

"Yr oedd darllen ar hyd y blynyddoedd wedi chwarae rhan bwysig iawn yn fy mywyd i," meddai.

Darllenau "bob peth" allai hi gael gafael arno gan gynnwys llyfrau cowbois yr oedd ei thad yn eu darllen!

Byddai hefyd yn cael benthyg llyfrau gan weinidog ym Mryncir.

"Fy hoff lyfr Cymraeg oedd Nansi'r Ditectif," meddai. Ond ychwanegodd nad oedd yn ystyried sgrifennu ei hun ar y pryd.

"Ond yr oedd Mam yn ysgrifennu llawer ac yn cystadlu llawer ar straeon byrion mewn steddfodau bach a phan oeddwn i'n hŷn fyddwn i byth yn cystadlu ar goginio a gwnio ond fe fyddwn i'n cystadlu ar sgrifennu rhyw stori fach," meddai gan ddweud iddi ennill unwaith neu ddwy hefyd.

Nid yn unig cafodd anogaeth yn yr ysgol i sgrifennu ond gallodd fanteisio hefyd ar y ffaith fod John Gwilym Jones yn gefnder i'w mam ac yn edrych ar ei gwaith "ac yn pigo ar y gwallau yn y Gymtraeg ."

"Ond yr oedd o'n falch iawn dwi'n meddwl o ngweld i yn sgrifennu," meddai wrth Dei Tomos.

Mynd yn athrawes
Wedi'r Coleg Normal a mynd yn athrawes y dechreuodd lunio straeon ar gyfer y plant dan ei gofal.

Mae rhai o'r llyfrau a sgrifennodd wedi golygu cryn waith ymchwil - yn aml, i feysydd oedd yn ddieithr iddi cyn cychwyn ar y gwaith.

Ond mae mwy i sgrifennu nac ymchwil:
"Hyd yn oed ar ôl gwneud y gwaith ymchwil beth sy'n anodd iawn ydi dod a naws y cyfnod yr ydych chi'n sôn amdano fo - a'ch bod chi'n rhoi y plentyn, pan mae o'n darllen, yn y cyfnod i hunan".

Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd didol a dethol ffeithiau yn hytrach na chynnwys popeth a gasglwyd yn ystod yr ymhwil.

Cymeriadau gyntaf
Ychwanegodd mai'r cymeriadau yn hytrach na'r stori sy'n dod gyntaf iddi.

"Ac fe fyddaf yn treulio tipyn o amser yn meddwl am y cymeriadau ac yn eu portreadu yn fy meddwl [ond] fyddai ddim yn sgrifennu rhestr [o nodweddion y cymeriadau fel mae rhai awduron yn gwneud] ond fe fyddaf yn meddwl a throi a throsi [am y cymeriad]," meddai.

Chwalodd hefyd y syniad mai gwaith unig yw sgrifennu:
"Pan oeddwn i'n dechrau sgrifennu roeddwn i'n meddwl mai rhywbeth digon unig oedd bod yn awdur ond mae yna rwydwaith o gefnogaeth i awduron - mae yna gefnogaeth gan y Cyngor Llyfrau, mae yna gefnogaeth gan y gweisg," meddai.

Cysylltiadau Perthnasol
  • Gwobrwyo Mair Wynn Hughes

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy