Yn y rhith fro
Sion Jobbins yn dod o hyd i fro Gymraeg ar y We
Os oedd 2004 yn flwyddyn lwyddiannus i'r we Gymraeg, mae un o brif wefeistri Cymru yn darogan y bydd 2005 yn un well byth. Yn ôl Nic Dafis, gwefeistr y fforwm drafod eiconig, maes-e.com, bu'r ddwy flynedd, diwethaf - a'r llynedd yn enwedig - yn llwyddiant mawr ond mae dal llawer o waith i'w wneud.
Pobl y gwrando
Ac ymysg y rhwydwaith ar-lein ifanc, mae barn Nic Dafis yn farn mae pobl yn gwrando arni.
Nid gormodiaeth fyddai dweud i maes-e fod yn sbardun ar gyfer creu sîn gwe Gymraeg, ac i nifer o we-borwyr ifainc Cymraeg, maes-e yw prif ffocws y Rhith-fro.
Mae gan maes-e dros 1,200 o aelodau.
Dydy hi ddim yn costio ceiniog i ymaelodi â'r fforwm nac i anfon neges a dim ond i rywun beidio ag enllibio neu sarhau yna caiff fwy neu lai unrhyw neges ei harddangos ar y maes.
Ac mae'r negeseuon yno'n amrywiol a'r pynciau'n ymestyn o fwyd a diod i'r Sîn Roc Gymraeg, o chwaraeon i adolygiadau llyfrau a rhaglenni teledu gan ennyn trafodaeth frwd a di-flewyn-ar-dafod - rhinwedd sydd mor brin yn y Gymru Gymraeg.
Dyfeisgarwch a hiwmor
Ac os yw unrhyw un yn meddwl fod traddodiad llysenwau Cymreig wedi marw gyda'r ceffyl gwedd, yna does ond eisiau bwrw golwg ar enwau rhai o'r cyfranwyr i weld fod dyfeisgarwch a hiwmor (heb sôn am destun doethuriaeth gyfan ar ystyr Freudaidd rhai ohonynt) yn fyw ac yn iach.
Cymaint yw llwyddiant maes-e ers ei sefydlu yn Awst 2002 fel bod bellach dros 135,000 o negeseuon yno.
Ond mae sôn am bwysigrwydd maes-e yn unig fel fforwm drafod fel sôn am bwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn unig oherwydd seremoniau'r coroni a'r cadeirio.
Gwir lwyddiant maes-e yw ei fod yn fan cwrdd ar gyfer cenhedlaeth gyfan o bobl ifanc (a ddim cweit mor ifanc) i greu gwe fannau uniaith Gymraeg heb na sybsidi na sensoriaeth. Dyma a olygir gan y Rhith-fro neu'r Sîn We Gymraeg. Unwaith eto, mae Nic Dafis ymhlith yr arloeswyr neu 'drist-ddynion', chwedl yntau, sydd wedi mynd ati i gyfieithu systemau gwe ac i greu mudiad cyffrous, hwyliog, diddorol ac optimistaidd yn y Gymraeg.
Does dim sefydliad fel y cyfryw ond rhwydwaith o flogiau, fforymau a gwefannau annibynnol gyda'r ddolen o fod yn uniaith Gymraeg.
I nifer o'r gwefanwyr, mae unieithrwydd ar-lein yn hollbwysig ac mae'r cynnyrch yn chwa o awyr iach.
Blogiau gorau
Fel pe na byddai bugeilio maes-e yn ddigon o waith, mae Nic Dafis hefyd yn gyfrifol am un o'r blogiau Cymraeg gorau (os nad Y blog gorau yn y Gymraeg) sef morfablog.com.
Math o ddyddiadur, neu lyfr lloffion personol, yw blog a chyfle i'r awdur daro ar y sgrin unrhyw beth sy'n codi ei ffansi. Mae myfyrdodau morfablog yn amrywio o ffilmiau i ieithoedd, tra bo Ble Mae'r Gath yn rhoi gogwydd Iddewig a Llundeinig yn y Gymraeg a bellach (yn rhannol am fod Nic Dafis wedi cyfieithu testun meddalwedd rhydd blog phpBB i'r Gymraeg) mae dwsinau o flogiau Cymraeg o'u cymharu â llond dwrn flwyddyn yn ôl.
'Mae 600,000 o siaradwyr Cymraeg, ac mae ganddo ni rhyw 50 o flogiau Cymraeg, sy'n wych o beth. Ond mae 300,000 o siaradwyr Islandeg ac mae ganddyn nhw rhyw 5,000 o flogiau. Dyw pobl ddim yn sylweddoli pa mor hawdd yw sefydlu gwefan neu flog.
Dy'n ni wedi profi nad oes angen mynd drwy'r hwpiau arferol o sicrhau cyllid cyn dechrau gwefan Gymraeg. Yr unig beth sy'n stopio rhywun ydy chi eich hun,' meddai'r dyn sydd yn ei ffurf gig a gwaed yn byw yn Llangrannog yng Ngheredigion.
Iach a blasus
O'r gwe fannau uniaith Gymraeg newydd sydd wedi eu sefydlu dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf mae'r amrywiaeth yn iach a blasus. Mae unarddeg.com yn trafod y Sîn Roc Gymraeg gyda'r hiwmor a'r difrifoldeb mae'n ei haeddu tra bo dimcwsg.com yn fforwm ar gyfer rhai sy'n magu plant (ac am rannu'r pleser a'r boen). 
Mae dyffrynaeron.com yn cynnig taith o bentrefi'r fro honno, tra bopishyn.com yn dod â Chymry cariadus at ei gilydd, a'r Rhegiadur Cymraeg yn eu gwahanu.
Ac un o'r datblygiadau mwyaf uchelgeisiol diweddar yw sefydlu fersiwn Cymraeg o'r gwyddoniadur rhydd ar-lein, y Wicipedia - cyfle i bobl ddarllen a chyfrannu erthyglau ar unrhyw bwnc dan haul.
'Ewch ati i greu . . .'
Neges y dyn a sefydlodd faes-e a morfablog er mwyn gwella ei Gymraeg yw; 'Ewch ati i greu eich gwefan eich hun - mae'n haws nag a fyddech yn disgwyl.'
Hoff wefannau Cymraeg Nic Dafis:
Google
Wicipedia
Casglu'r Tlysau
Hoff flogiau Cymraeg Nic Dafis:
Lol LwLw
Mordecai
Pictiwrs
Bachgen o Bontllanfraith