BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hedd Wyn ac Eisteddfod Penbedw
Alan Llwyd yn trafod Hedd Wyn y bardd, Eisteddfod Penbedw ac agweddau at ryfel

Tri chlip sain i wrando arnynt
Pe byddai Hedd Wyn wedi ennill y gadair yr oedd yn ei haeddu yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1916 mae'n gwbl bosibl na fyddai yn 'Eisteddfod y Gadair Ddu' ym Mhenbedw y flwyddyn wedyn.

Ond ail ddaeth y bardd yn Aberystwyth a hynny yn ôl y Prifardd Alan Llwyd a barodd iddo gystadlu eto yn 1917 gan wybod y gallai hwn fod ei gyfle olaf ac yntau' wedi ei anfon yn filwr i ymladd yn y ffosydd yn Ffrainc.

"Ond pe byddai wedi ennill yn Aberystwyth mae'n gwbl bosibl na fyddai o wedi trafferthu cystadlu yn 1917," meddai Alan Llwyd wrth drafod gwahanol agweddau o waith Hedd Wyn ac Eisteddfod y Gadair Ddu ar raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru, nos Sul 16 Medi 2007.

Gellir gwrando ar rannau o'r sgwrs isod:

  • Seremoni ddwys arall yr un diwrnod yn Eisteddfod Penbedw:

  • Dywedodd Alan Llwyd, yr arbenigwr pennaf ar Hedd Wyn ac awdur y ciofiant Gwae Fi fy Myw bod seremoni arall hynod o ddwys a "dirdynnol" ar lwyfan Eisteddfod Penbedw y bore cyn seremoni Y Gadair Ddu.

    "Ond fe gafodd y seremoni honno ei anghofio oherwydd beth a ddigwyddodd yn y pnawn," meddai.

    gwrandoAlan Llwyd yn sôn am y seremoni 'ddirdynnol' a aeth yn anghof yn Eisteddfod penbedw 1917.


  • Seremoni'r Gadair Ddu

  • Yn ôl Alan Llwyd yr oedd rhywun wedi ei ddewis i gynrychioli Hedd Wyn yn seremoni'r cadeirio ym Mhenbedw - Rolant Wyn a oedd yn perthyn i deulu'r Ysgwrn ac yn ysgrifennydd pwyllgor yr Orsedd yn yr Eisteddfod.


    gwrandoAlan Llwyd yn sôn am yr awyrgylch yn ystod seremoni Y Gadair Ddu.


    Ond ar y munud olaf ni chafodd ei alw a gorchuddiwyd y gadair a lliain du.

    Ac yn ôl Alan Llwyd yr oedd sibrydion o gwmpas y maes y bore hwnnw mai felly y byddai gydag un papur newydd Saesneg wedi enwi Hedd Wyn fel y bardd buddugol a'r ffaith iddo gael ei ladd yn Ffrainc.

    Ar y llwyfan ar gyfer yr achlysur yr oedd Syr John Morris-Jones a'r Parchedig John Williams Brynsiencyn a fu'n amlwg yn yr ymdrech i berswadio Cymry ifainc i ymuno â'r lluoedd arfog.

    Ond un o feirniaid y gystadleuaeth oedd T Gwynn Jones, heddychwr pybyr a oedd "yn ffieiddio" rhyfel ac yn gignoeth ei feirniadaeth Morris-Jones a John Williams a sentimentalrwydd yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y seremoni.

    Yr oedd eironi arbennig yn y ffaith fod y ddau a recriwtuiodd gymaint o Gymry ifainc yn eu dagrau ar y llwyfan.

    Yr oedd y gynulleidfa fawr, hithau, yn ei dagrau hefyd gyda bron bob aelod ohoni yn siŵr o fod wedi colli rhywun yn y rhyfel hefyd ac yn gallu uniaethu a theulu'r bardd.

    "Achos mi ddaeth [y digwyddiad] a'r rhyfel reit i lwyfan y Genedlaethol efo'r un person yna yn cynrychioli cehedlaethol [o fechgyn a gollwyd]," meddai Alan Llwyd.

  • Hedd Wyn - yr olaf o'r beirdd rhamantaidd. Cymharu 'Yr Arwr' a 'Mab y bwthyn', Cynan.

  • Disgrifiwyd Hedd Wyn fel yr olaf o'r beirdd rhamantaidd yng Nghymru gan Alan Llwyd.

    gwrandoAlan Llwyd yn sôn am Hedd Wyn y bardd a'r ffaith iddo gael cam yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1916.


    "Yr oedd dylanwad Shelley yn gryf iawn arno," meddai.

    Dywedodd mai am ei gerddi llai y bydd yn cael ei gofio yn hytrach nag awdl 'Yr Arwr' a chymharodd yr ymateb i honno i'r ymateb a fu i bryddest gwrth ryfel arall, 'Mab y Bwthyn, gan Cynan.

    Ychwanegodd mai Hedd Wyn ddylai fod wedi cael y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1916 gydag un o'r beirniaid, J J Williams eisiau ei wobrwyo ond Syr John Morris-Jones o blaid ymgais J Ellis Williams a gadeiriwyd.

    Yn ôl Alan Llwyd mae'n gwbl bosibl na fyddai Hedd wyn wedi ymgeisio eto pe byddai wedi ennill yn Aberystwyth.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Darganfod 'llythyr Rhywle yn Ffrainc'

  • Hanes Hedd Wyn

  • Cofio tren y Gadair Ddu

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy