BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Graffiti
Graffiti ar y we i ddisgyblion ysgol
Adolygiad Caron Wyn Edwards o Graffiti gan Angharad Devonald (Dref Wen).

Nid tasg rwydd yw ysgrifennu i bobl ifanc yn eu harddegau. Yn fwy nag unrhyw ystod oedran arall, mae'n rhychwantu gallu ac aeddfedrwydd - gyda'r rheiny'n amrywio'n aruthrol o un i'r llall.

Fodd bynnag, mae Angharad Devonald, sy'n un o don newydd o leisiau yng Nghymru, wedi llwyddo i greu gwaith sy'n afaelgar, yn feiddgar ac yn gyfoes.

Mae Graffiti - sy'n anelu at ddarllenwyr rhwng 12 a 16 yn fy nhyb i - yn nofel sy'n dilyn hynt a helynt criw o bump o ddisgyblion ysgol wrth iddynt ddechrau tymor newydd wedi'r haf, a hynny yn y Chweched Dosbarth.

Mae'r pump yn cynnwys dwy ferch, Helen a Gwen, a thri o fechgyn, Neil, Gareth a Steff, ac mae'r stori'n cylchdroi'n bennaf o gwmpas cymeriad Gwen.

Ymhell o fod yn bur
Yn wahanol i'r hyn a awgryma ei henw, mae Gwen ymhell o fod yn bur a pherffaith. Er yn beniog, ac yn llwyddiannus yn ei gwaith academaidd, nid yw'n fodlon ei byd.

Wedi dechrau ymhél â bachgen hŷn o'r enw Jac, mae'n canfod ei hun mewn llond gwlad o broblemau.

Dechreua pethau fynd o chwith pan gaiff ei diarddel o'r ysgol wedi iddi gael ei dal yn ysmygu ac yfed dan oed mewn tafarn yn y dref. Ond diarddel ai peidio, mae'n parhau i fod yn ddisgybl poblogaidd iawn yn yr ysgol, ac mae'r pedwar arall yn penderfynu gweithredu i'w chael yn ôl.

Ffurfio gwefan
Caiff Steff y syniad o ffurfio gwefan - 'Graffiti' - anhysbys, y gall pobl ymweld â hi i arwyddo deiseb yn cefnogi croesawu Gwen yn ôl i'r ysgol.

Wedi i hyn brofi'n llwyddiant ysgubol, mae'r criw yn penderfynu dyfalbarhau â'r wefan a chreu rhyw fath o dudalen gymorth i ddisgyblion eraill.

O ganlyniad, ceir trafodaeth ar feichiogrwydd dan oed, ac o bynciau sy'n cyffwrdd â chamdrin yn y cartref, a chyffuriau a pheth wmbreth o bynciau eraill.

A thrwy'r cyfan, mae ymdriniaeth yr awdur â'r pynciau anodd hyn, yn sensetif a chydwybodol a byth yn cael ei ddefnyddio er effaith.

Amserol dros ben
Mae'r nofel yn un amserol dros ben ac i gefnogi'r thema gyfoes, defnyddia'r awdur dechnegau diweddar megis negeseuon testun ac e-byst i gyfleu'r stori.

Mae hyn yn hynod effeithiol gan ei fod yn creu math ar ddeialog rhwng cymeriadau, a hynny mewn ffordd amwys iawn.

Rydym ni fel darllenwyr yn aml gam ar y blaen i'r cymeriadau, ac mae hyn yn ysgogi rhywun i barhau i ddarllen ac yn wir, i edrych ymlaen at droi'r dudalen a chanfod beth sy'n digwydd nesaf.Mae'r arddull ar y cyfan yn eitha' moel, ac yn atgoffa rhywun ar brydiau, o nofel Pam Fi Duw?

Rhywbeth a allai beri problem i ddarllenwyr o'r gogledd yw fod cryn dipyn o ddefnydd o dafodiaeth ddeheuol yn y nofel er, yn bersonol, nid oedd hyn yn amharu dim ar fy mwynhad o'r llyfr - a dydy'r nofel ddim hyd yn oed wedi ei hanelu ataf i!

Mae Graffiti yn nofel fyddai'n apelio i ystod eang o blant gyda gwahanol lefelau o ddealltwriaeth. Ac er na fyddai hwyrach yn ymestyn rhai o'r garfan hynaf o ddarllenwyr, mae hi'n nofel y gall plant ymhob blwyddyn yn yr ysgol uwchradd, ei mwynhau a'i gwerthfawrogi.

Cysylltiadau Perthnasol
Barn disgyblion Gwynllyw
Holi'r awdur

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy