BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Llyfrau prin ar ocsiwn
Pum mil o lyfrau i borthi'r darllenwyr
Daeth yn benwythnos Ffair Lyfrau Cymdeithas Bob Owen yn Y Bala unwaith eto.


Daeth yn benwythnos Ffair Lyfrau Cymdeithas Bob Owen yn Y Bala unwaith eto.

Cynhelir ffair 2008 ar Fedi 20 yn Ysgol y Berwyn o 10 o'r gloch y bore tan bedwar y prynhawn.

Yn y prynhawn, bydd Ocsiwn gyda'n agos i 100 o eitemau amrywiol yn cael eu cynnig.

Yn eu plith bydd cerdd Gwenallt - Cwm yr Eglwys yn ei lawysgrifen ei hun, llyfrau Gwerthfawr fel
  • Mona Antiqua Restorata - An Archaelogical Discourse on the Antiquities, Natural and Historical, of the Isle of Anglesey gan Henry Rowlands 1723 gyda phris cadw o £250,
  • Cambrobrytannicae Cymraecaeue Linguae Institutiones neu Eiriadur Sion Dafydd Rhys 1592, gwerth oddeutu £1,400;
  • Cambria Depicta - A Tour Through North Wales 1816 £12,000,
  • Tours in Wales 1778 , Thomas Pennant (£450);
  • Archaelogia Britannica, Edward Llwyd 1707;
  • llythyrau cyhoeddi diwrnod cyntaf (first day issue) ee Cynan 1895 - 1970 wedi'i nodi yn yr Eisteddfod yn Rhydaman;
  • Llun mawr o Salem mewn ffrâm.

    "Mae'r darlun Salem, sydd wedi cael ei baentio gan Curnow Vosper yn dathlu ei gant oed eleni a bydd yna gystadlu brwd amdano. Gellir gweld y gwreiddiol yng Ngaleri y Fonesig Lever yn Port Sunlight," meddai Mel Williams, Golygydd Y Casglwr, newyddiadur Cymdeithas Bob Owen, a threfnydd y ffair.

    Ychwanegodd Mr Williams y bydd tua 30 o fyrddau gwerthu eleni gyda rhyw 5,000 o lyfrau Cymraeg a Chymreig ar werth.

    "Ceir stondinwyr newydd bob blwyddyn ac mae hynny'n arwydd o boblogrwydd y ffair flynyddol hon," meddai.

    Sefydlwyd Cymdeithas Bob Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Aberteifi yn 1976 a'i henwi ar ôl y llyfrbryf Bob Owen, Croesor. Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf cylchgrawn y gymdeithas fis Mawrth 1977 dan olygyddiaeth John Roberts Williams.

    Erbyn hyn mae dros 1,000 o aelodau.

    "Ac ar gyfartaledd mae 30 o aelodau newydd yn ymuno bob blwyddyn," meddai Mr Williams a ddywedodd y cynhelir y Gymdeithas yn hollol ddi-grant ers blynyddoedd.

    Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn.

  • I gysylltu â Mel Williams Cliciwch



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy