BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cerddi i gerddwyr Eryri
Mi fydd Parc Cenedlaethol Eryri yn hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol yr ardal drwy roi darnau o farddoniaeth ar giatiau, camfeydd a meinciau.


Y syniad yw rhoi rheswm arall i gerddwyr ddod i'r ardal sydd wedi ysbrydoli rhai o feirdd mwyaf Cymru gan gynnwys Syr T H Parry-Williams a Hedd Wyn.

Mae'r Parc yn gwahodd pobol i yrru eu hawgrymiadau am gerddi addas i'w harddangos.

"Mi rydyn ni eisiau i bobol fod yn ymwybodol o ddiwylliant yr ardal pan yn mwynhau'r wlad," meddai John Ablitt, pennaeth hamdden a chyfathrebu'r parc.

"Ac mae'r ffaith fod beirdd ac awduron wedi ysgrifennu am yr ardal yn helpu pobol, yn lleol ac yn ymwelwyr, i ddeall fod hon yn ardal wahanol efo diwylliant unigryw ei hun.

"Mae'r olygfa o gopa'r Wyddfa yn ysbrydoli llawer o farddoniaeth ac mae cael gweld beth mae rhai pobol wedi'i ysgrifennu a sut iddyn nhw gael eu hysbrydoli gan y tirwedd yn rhywbeth all fod o fudd i bawb."

Mi fydd y Parc yn casglu'r cerddi dros y gaeaf ac yna mi fyddan nhw'n cael eu gosod drwy'r ardal.

Dylid gyrru unrhyw awgrymiadau i Llinos Angharad, Parc Cenedlaethol Eryri, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL48 6LF neu i [email protected]

Cliciwch i ddweud wrthym am eich hoff gerdd chi am wahanol rannau o Gymru gan gynnwys Eryri.


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy