BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cofiannau
Trafod y chwant am gofiannau
Ers rhai blynyddoedd bellach daeth bu cofiannau a hunangofiannau yn rhan anhepgor o arlwy'r Nadolig gan gyhoeddwyr Cymru.

Nid yw hi ddim gwahanol yn 2007 gyda Gareth Edwards, Jenny Ogwen, Heatrher Jones, Rol Williams a Ray Davies ymhlith y rhai y cyhoeddwyd llyfrau amdanyn nhw.

A hwythau yn amlwg yn "un o hoff gyfryngau cyhoeddi yn y Gymraeg" cofiannau a hunangofiannau oedd testun trafodaeth ar Raglen Dei Tomos, nos Sul, 2 Tachwedd 2007 gyda Dan Puw a gyhoeddodd ei hunangofiant y llynedd, Beca Brown a sgrifennodd hunangofiant dros Glyn Wise yn gynharach eleni, Bethan Mair sy'n gweithio i Wasg Gomer a Branwen Jarvis sy'n ddarlithydd prifysgol ac yn feirniad llenyddol yn cymryd rhan.


gwrandoDei Tomos yn trafod cofiannau gyda Dan Puw, Beca Brown, Bethan Mair a Branwen Jarvis nos Sul 2 Tachwedd 2007.


Tri math
Dywedodd Bethan Mair fod y prynu a'r darllen sydd ar gofiannau yn cyfiawnhau'r niferoedd sy'n cael eu cyhoeddi.

Cyfeiriodd at dri math o gofiant:

  • Cofiannau y rhai hynny sydd yn llygad y cyhoedd ac ar y teledu.
  • Cofiannau ffigurau cenedlaethol.
  • Cofiannau rhai sy'n adnabyddus o fewn eu milltir sgwâr.

    Ychwanegodd nad yw'r hyn a ddisgrifiodd fel "hunangofiant llenyddol" mor amlwg ag y bu.

    Y gorau
    Disgrifiodd Branwen Jarvis o Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor ei hun fel un sy'n hoff o gofiannau.

    "Ond at ei gilydd mae'n well gen i hunangofiannau sydd wedi eu sgrifennu gan yr awduron eu hunain [o gymharu a rhai wedi eu rhith sgrifennu]," meddai.

    Dywedodd mai'r cofiant gorau a ddarllenodd yn ddiweddar oedd Bywyd Bach gan Gwyn Thomas a ddisgrifiodd fel "clasur" gyda "stori ardderchog mewn Cymraeg cyhyrog".

    Pa mor onest
    Bu'r pedwar yn trafod yr elfen o onestrwydd y gellir ei ddisgwyl mewn hunangofiant gyda Dan Puw yn dweud i bethau gael eu gadael allan o'i lyfr ef oherwydd bod rhai pethau nad yw "eisiau i bobl wybod amdanaf i".

    Ond pwysleisiodd Branwen Jarvis nad yw pob hunangofiant Cymraeg yn gwbl ddi-liw ac annonest gan ddweud fod tipyn o "gas wirionedd" yng nghofiant Gerallt Lloyd Owen a gyhoeddwyd rai blynyddoedd yn ôl.

    Ond yr oedd yn cydnabod mai "eithriadau mae'n debyg" yw'r rheini ac ychwanegodd Bethan Mair hunangofiant Wynford Ellis Owen sy'n cynnwys llawer o "gaswir chwerw" am ei frwydr yn erbyn y ddiod at y rhestr honno.

    Rhith sgrifennu
    Ofnai Branwen Jarvis nad yw'r gwirionedd i gyd yn dod i'r amlwg trwy rith sgrifennu ychwaith ond awgrymwyd y gall rhith sgrifennwr weithiau brocio person a'i wthio i gyfeiriad efallai na fyddai o wedi meddwl y byddai'n hoffi mynd gan beri iddo ddweud mwy o'r herwydd.

    Eglurodd Beca Brown iddi hi rith sgrifennu hunangofiant Glyn Wise ar sail oriau o gyfweliadau a dapiodd gydag ef.

    "Roedd yn eitha sialens gwneud hanes rhywun oedd ddim ond yn 18 oed," meddai gan gyfeirio hefyd at densiwn a allai fodoli rhwng rhith sgrifennwr a'r gwrthrych, er na ddigwyddodd hynny yn yr achos arbennig hwn gan eu bod ill ddau yn unfarn sut lyfr oedden nhw am ei gyhoeddi.

    "Mae yna densiwn yn mynd i fod rhwng yr hyn ydach chi fel person o'r tu allan yn i weld yn ddifyr a'r hyn mae'r person iso cael ei wybod amdanyn nhw neu'r ddelwedd mae'r person yna eisiau cael ei rhoi gerbron," meddai.

    Disgrifiodd "gamp" Glyn Wise fel un "unigryw" ac yn ddarlun o hogyn ifanc yn tyfu'i fyny ac yn dod yn ddyn.

    "Felly mae themâu sydd o ddiddordeb i bawb [yn y llyfr]," meddai.

    . Dywedodd Bethan Mair nad yw'r hunangofiant seleb yn yr ystyr Seisnig yn un sydd wedi cydio yn nychymyg darllenwyr Cymraeg o gymharu a'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr.

    Cyfeiriodddd Branwen Jarvis at "hen hen draddodiad o sgwennu am fywydau pobl" yng Nghymru ac yn ystod y drafodaeth dywedodd Beca Brown bod angen pob math o gofiannau a hunangofiannau.


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy