BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Rhyddhau'r Golau Caeth
Adolygiad o Cerddi Bryan Martin Davies (Barddas, 2003, £13.00, tt 228).gan Grahame Davies.


Câi rhywun yr argraff gyda rhai beirdd mai ysgrifennu er mwyn gwneud argraff ar y beirniaid y maent, au harddull yn llawn triciau arwynebol heb fod unrhyw reidrwydd mewnol yn cymell y cyfan.

Nid felly gyda Bryan Martin Davies. Nid rhyw ymarfer llenyddol-academaidd mo barddoniaeth iddo ef, ond rhywbeth sy'n codi o argyfwng dirfodol, poenus o real, ac o amgylchiadau personol dirdynnol.

Fel bardd, bu fwy neu lai'n fud am y pymtheg mlynedd diwethaf - cyfnod a fu'n cydfynd gyda salwch ei wraig, Gwenda, a fu'n dioddef o multiple sclerosis ac a fu farw ym 1996.

Trueni fyddai pe bai'r tawedogrwydd diweddar hwn yn golygu bod darllenwyr y presennol yn colli cysylltiad gyda bardd sydd ymysg y mwyaf yng Nghymru yn ail hanner yr Ugeinfed ganrif.

Dyna felly pam mae'r gyfrol hon yn un i'w chroesawu. Ac yntau'n dathlu oed yr addewid eleni, dyma, am y tro cyntaf, holl gerddi'r bardd o Frynaman rhwng dau glawr. Cofnod teilwng o fardd sylweddol iawn.

Daeth Bryan Martin Davies i sylw gyntaf oll pan enillodd y goron ym mhrifwyl ei fro enedigol yn 1970 gyda dilyniant nodedig 'Darluniau ar Gynfas', a oedd yn bortread byw o gymeriad diwydiannol yr ardal.

Daeth i'r brig yn Eisteddfod Pantyfedwen y flwyddyn honno hefyd, gyda chyfres ar bwnc tebyg. A'r flwyddyn ganlynol fe enillodd ail goron ym Mhrifwyl Bangor gyda dilyniant nodedig arall, 'Y Golau Caeth', lle defnyddiwyd delweddau o'n llên cynnar i oleuo ein dealltwriaeth o'r natur ddynol.

Ceir cynnyrch y tair eisteddfod honno yn y gyfrol hon, yn gyfnod o ferw creadigrwydd y bardd yn y saithdegau cynnar.

Clawr y llyfrErbyn ei drydedd gyfrol, 'Deuoliaethau', ymddangos yn 1976, roedd y bardd wedi symud i ardal y Clawdd, sef Rhiwabon a Wrecsam, lle bu'n athro Cymraeg. Yn raddol, daw cefndir yr ardal ffiniol honno i'w gerddi.

Yn 'Lleoedd', o 1984, gwelir ffrwyth rhai o deithiau'r bardd i leoliadau gan gynnwys dwyrain Ewrop, a gwelir nifer o gerddi er cof am gydnabod a oedd wedi ein gadael.

Ei gyfrol ddiweddaraf hyd yn hyn oedd 'Pan Oedd y Nos yn Wenfflam', a ymddangosodd yn 1988. Erbyn hynny, roedd cysgod salwch personol a theuluol yn drwm iawn ar ei waith.

Gogoniant y gyfrol ddiweddaraf hon yw'r ffordd yr ymatebodd y bardd i'r her dywyll honno, sef canfod yng ngwreiddiau bro ddiwydiannol ei febyd, ac yn y Gristnogaeth a fu fel haen werthfawr o ysbrydoliaeth dan wyneb y gymdogaeth, y gobaith a'r hyder i ymladd yn ôl.

Yn fy marn i, mae Ymson Trisco, prif gerdd y gyfrol honno, yn un o gynyrchiadau cryfaf a mwyaf arwyddocaol barddoniaeth Gymraeg y chwarter canrif ddiwethaf. Mae'n werth prynu'r gyfrol hon yn unig er mwyn ei darllen.

Mae 'Cerddi Bryan Martin Davies' yn cloi gyda'r unig ddwy gerdd sydd wedi ymddangos o'i law ers 'Pan Oedd y Nos yn Wenfflam'. Dwy gerdd er cof am ei wraig ydynt a rhai effeithiol a grymus iawn ydynt hefyd.

Mae'r gyfrol hon yn un ingol, ddirdynnol, a real, ac yn deilwng o waith un o'n beirdd modern pwysicaf.


Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy