BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Calendr ffermwyr noeth
Ffermwyr ifanc yn dangos eu hunain
Mae rhai o ffermwyr ifanc cyhyrog Bro Ddyfi wedi cael tynnu eu lluniau'n noeth ar gyfer calendr arbennig i godi arian.

Ymhlith y rhai sy'n ymddangos yng nghalendr y clwb ffermwyr ifanc, mae'r cneifiwr amlwg o Fachynlleth, Aeron Pugh.

"Y gobaith yw mai merched yn unig fydd yn gwirioni ar y calendr," meddai gan chwerthin.

Daeth y syniad i aelodau'r clwb flynyddoedd lawer yn ôl ond fe gymerodd tan ddiwedd 2004 i'r criw fagu ddigon o hyder i fod yn borcyn o flaen y camera.

"Roedd na griw reit fawr ohono ni yn barod i fentro o flaen y camera llynedd er mwyn casglu arian i'r clwb, ac mi oedden ni'n lwcus bod chwaer un ohona ni, Elin Vaughan Jones, yn ffotograffydd ac yn barod i weithio gyda ni i sicrhau'r calendr, eithaf safonol," meddai.

Clawr y llyfr Bu'r criw yn casglu arian i dalu am y gwaith argraffu gan sicrhau noddwr gwahanol ar gyfer pob mis.

Tynnwyd lluniau yn cerdded mynyddoedd, yn sefyll tu allan i'r dafarn ac yn gweithio yn hollol noeth, tra bo Elin yn brysur a'i chamera.

"Mae'r holl beth wedi bod yn gymaint o hwyl, ac rydym ni'n lwcus fod pob un ohona ni yn dipyn o idiots ac yn nabod ein gilydd ers yr ysgol feithrin.

"Wrth gwrs mae'r darnau pwysig yn cael eu cuddio tu ôl i ges, papur newydd neu ddafad. Mae'r lluniau yn ddoniol ond eto yn eithaf soffistigedig.

"Cafodd mil o'r calendrau eu hargraffu ac mae tua 900 wedi eu gwerthu heb sôn am y rhai sydd wedi cael eu cadw wrth gefn i gwsmeriaid.

"Y gobaith yw casglu oddeutu £4,000 i'r clwb ffermwyr ifanc." "Mae pob cam o'r calendr wedi bod yn hwyl, hyd yn oed gwerthu dau gant yn sefyll am deirawr yn Lo-cost. Roedd pawb yn fodlon talu, felly mae'n rhaid bod gynno ni rywbeth sy'n apelio at y cyhoedd," meddai gan chwerthin.Ond er cymaint y llwyddiant does dim bwriad gwneud hwn yn achlysur blynyddol!!



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy