BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Os Mêts
Adolygiad Carys Mair Davies o Os Mêts gan Bethan Gwanas. Lolfa. £1.99.


'Stori sydyn' yw Os Mêts gan Bethan Gwanas ac un sy'n cynnwys elfennau o antur, rhamant a thwyll.

Ac mae'r cyfanwaith yn un arbennig.

Stori yw hi am benwythnos cywennod eithaf anarferol.

Nid limosîn gwyn, sgleiniog, i Gaer ar gyfer partio gwyllt ac yfed gwylltach sydd wedi'i drefnu ond penwythnos o ddringo a chanŵio yn Llanddewi Brefi!!

Clawr y llyfr Nid yw'r merched eraill yn hapus iawn gyda'r trefniadau ar y dechrau ac mae Ceri, prif gymeriad y stori a chwaer ifanc y ddarpar briodferch, bron â thorri'i bol eisiau mynd yn ôl i glydwch cyfarwydd ei chartref.

Ond yn raddol mae'r merched yn dechrau mwynhau eu hunain ac yn cael yr hwyl ryfeddaf yn cymryd rhan yn y gwahanol weithgareddau sydd dan ofal Brendan, yr hyfforddwr golygus sydd â'i fryd ar y ddarpar briodferch.

Ond yng nghanol y sbort a'r sbri, y miri a'r mwynhau, daw gwe o gelwyddau i'r amlwg a thwyll yn teyrnasu a hynny'n gadael y darllenwyr mewn penbleth a fydd y briodas yn cario 'mlaen?

Mae Os Mêts yn llyfryn gwych ar gyfer ymlacio a'r plot yn symud yn gyflym iawn a'r naws yn ysgafn a buaswn yn ei argymell i unrhyw un o unrhyw oedran.

Mae'r plot a'r iaith yn syml ac yn ddealladwy ac nid oes rhegfeydd na chynnwys anweddus. Er mai iaith ogleddol sydd i'r llyfr; yn wahanol i lyfrau fel Hi yw fy Ffrinddim ond ychydig iawn o dafodiaith sydd yna.

Fy hoff gymeriad i yw Ann, merch gref a chadarn yn foesol.

Nid yw byth yn gwylltio er taw hi sydd wedi'i brifo fwyaf.

Caiff ei disgrifio fel y ferch berffaith ac ar adegau tybiwn ei bod yn rhy ddelfrydol oherwydd ei diffyg ffaeleddau - ond mae gan y cymeriadau eraill ddigon o ffaeleddau ar gyfer pawb ac i bara oes!!

Ni chewch eich siomi gyda'r stori hon.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy