BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Dylluan Wen
Nofel yn gafael er gwaetha'r clawr!
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Y Dylluan Wen gan Angharad Jones. Gomer. £6.95.


  • Rhaid i bawb sy'n sefyll arholiad Cymraeg iaith gyntaf TGAU siarad am lyfr mewn grŵp a thrwy hynny y bu i mi ddarllen Y Dylluan Wen gan Angharad Jones.

    I fod yn onest, nid oeddwn yn edrych ymlaen at ei ddarllen er fy mod yn mwynhau ymgolli rhwng cloriau llyfrau fel arfer.

    Clawr y llyfr Roedd y clawr yn awgrymu llyfr diflas gydag elfennau swreal a minnau'n tybio taw gorchwyl yn hytrach na phleser oedd o'm blaen!

    Ond am sioc a gefais!
    Nid oedd y clawr yn gwneud cyfiawnder o gwbl â phlot, arddull, themâu na chymeriadau'r nofel ac fe fwynheais y stori yn ofnadwy ac ers hynny rwyf wedi'i darllen eto ac eto.

    Teimlo ar goll
    Mae'r stori'n dilyn tylluan sydd ar daith dialedd merch o'r enw Myfi gydag ymson y dylluan fel edau yn clymu llinynnau'r stori wrth ei gilydd.

    Yn fy marn i, mae'r stori'n gwella wrth fynd yn ei blaen. Yn wir, doeddwn i ddim yn or-hoff o'r agoriad oherwydd y teimlwn ar goll.

    Ni wyddwn beth oedd swyddogaeth y dylluan yn y nofel na beth oedd hi'n geisio'i esbonio.

    Ond yna, er mawr ryddhad, dyma ni yn y presennol a chanolbwynt y stori.

    Mae Y Dylluan Wen yn glamp o stori afaelgar wedi'i llunio gan lenor sy'n sicr o'i chrefft ac yn gwybod sut mae chwarae ar y du a'r gwyn, y daioni a'r drygioni sy'n lliwio pob un o'n bywydau.

    Credaf taw arwydd o gamp yr awdures yw ei gallu i gydymdeimlo â'r holl gymeriadau yn eu gwendidau a'u cryfderau. Gwêl ddwy ochr pob sefyllfa sydd yn islais drwy'r nofel.

    Cuddio tu ôl i fasgiau
    Nid oes gen i hoff gymeriad yn y nofel - a dweud y gwir, nid wyf yn hoffi llawer o'r cymeriadau o gwbl gan eu bod i gyd yn cuddio y tu ôl i fasgiau tywyll rhagrith a thwyll.

    Maent i gyd wedi pechu neu wedi'u pechu a phawb yn chwilio am gyfiawnder hefyd mewn nofel dywyll sy'n delio â themâu cymhleth wedi'u trin mewn modd hynod o gelfydd.

    Gan fod addasiad ffilm o Y Dylluan Wen gwyliais hwnnw ar ôl darllen y llyfr ond y nofel sy'n rhagori gan fod manylion bach - ond allweddol - wedi newid yn y ffilm.

    Mae'r cysylltiad rhwng y teitl a'r ffilm wedi diflannu hefyd.

    Rwy'n argymell i bawb ddarllen Y Dylluan Wen. Mae'n stori sy'n agos at yr asgwrn gyda ddarlun gwych o wahanol haenau o gymdeithas gyda'r cymeriadau yn amrywio o'r ystrydebol, fel Meri, y wraig tŷ ffyddlon, a Mrs Rowlands, y ddynes lanhau, i Myfi, y prif gymeriad unigryw.



  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy