BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Heather Jones
Richard Rees yn adolygu ei chofiant

  • Adolygiad radio gan Richard Rees o Gwrando ar fy Nghân gan Heather Jones (gyda Caron Wyn Edwards). Dref Wen. £9.99.


  • Disgrifiwyd Heather Jones fel person "annwyl, agored ac onest" a gafodd amser anodd o ran gyrfa a bywyd personol yn y Saithdegau gan gyfaill iddi a fu'n sôn am yr hunangofiant a gyhoeddodd y gantores yn ddiweddar.

    Yr oedd Richard Rees yn siarad am y llyfr ar raglen Lisa Gwilym, 16 Rhagfyr 2007 ar BBC Radio Cymru.

    Canmolodd ef a Lisa Gwilym y gantores am ei honestrwydd wrth iddi drafod cyfnodau anodd yn ei bywyd yn bersonol ac yn broffesiynol.

    gwrandoRichard Rees yn siarad am Gofiant Heather Jones ar raglen Lisa Gwilym, 16 Rhagfyr 2007 - y sgwrs yn gyflawn.

    "Dwi'n teimlo ei bod hi wedi bod yn onest iawn yn y llyfr yma - fel y bydde ti'n disgwyl iddi hi fod achos mae hi'n berson hollol strêt, yn berson hollol agored ac mae'r llyfr mewn ambell i le yn eithaf cignoeth hefyd lle mae hi'n sôn am ei hysgariad er enghraifft," meddai Richard Rees.

    "Mae ffeithiau'r ysgariad a manylion yr ysgariad - doedd dim syniad 'da fi ei fod wedi bod mor boenus ac mor anodd," meddai.

    Cyfeiriodd hefyd at yr arwyddion o ansicrwydd ynglŷn a'i gallu ei hun ac o ddiffyg hunan hyder sydd yn y llyfr er iddi gyflawni cymaint fel cantores:

    "Peth arall sy'n dod o'r llyfr yw . . . [bod] . . . yna ddiffyg hunanhyder rhyfedd . . . heb unrhyw reswm o gwbl achos yr ydym ni i gyd yn gwybod am y llais cyfareddol yna sydd ganddi - llais sydd ddim wedi gwaethygu o gwbl dros y blynyddoedd," meddai.

    Clawr y llyfr Ond er gwaethaf y cyfnodau du ac anodd, lle mae'n ei disgrifio yn gorfod troi cefn ar y sîn Gymraeg dywed fod yr hunangofiant yn gorffen ar nodyn gobeithiol.
    Wrth gytuno â Lisa Gwilym i Heather Jones fod yn ddewr iawn yn cyhoeddi ei hanes hanes dywedodd:

    "Dwi'n siŵr iddo fod yn boenus iawn iddi hi achos mae hi'n berson reit sensitif. Dyw hi ddim yn berson sy'n hoffi cwympo mas a dadlau a dwi'n siŵr ei bod hi wedi bod yn ddewr.

    "Ond beth sy'n braf yw fod yna, tua diwedd y llyfr, sôn am y presennol ac am y dyfodol ac mae sôn am y plant . . . ac yn ymfalchïo yn y teulu . . . Ac er ei bod yn dod at ei 60 mae'n dweud nad oes dim awydd ganddi hi roi lan a thra bo'r llais yn para mae hi'n mynd i bara ac rwyt yn cael yr argraff fod tro ar fyd wedi bod," meddai.

    Cyfarfod gyntaf
    Ar ddechrau eu sgwrs soniodd Richard Rees sut y cyfarfu gyntaf â Heather ddechrau'r Saithdegau.

    "Yn y cyfnod yna roeddwn i'n cyfansoddi caneuon ac yn canu gyda gitâr ac mi wnes i benderfynu cystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 1972, yn 16 oed.

    "Ac roeddwn wedi bod yn canu yn yr un cyngerdd neu Noson Lawen â Heather ac wedi bod yn siarad â hi ac fe fûm i'n ddigon ewn i ofyn iddi a fyddai hi'n fodlon canu gyda mi ar y tâp at y gystadleuaeth [ac fe gytunodd]," meddai.

    "Felly, un dydd Sadwrn dyma fi'n dala'r trên lan i Gaerdydd gyda gitâr yn un llaw a pheiriant tâp yn y llall. A phan wyt ti'n sôn am beiriant tâp y Saithdegau rwyt ti'n sôn am wampyn o beth!

    "Cario hwnna ar draws Caerdydd. Cnocio ar ddrws y tŷ a Heather a Geraint yna a hi'n jyst fy nghroesawu fi mewn i'r tŷ, rhoi paned o de imi, gwrando arnai'n canu'r gân unwaith; harmoneiddio'r peth yn berffaith yn y fan a'r lle.

    "Dyma fi'n rhoi'r peiriant tâp ymlaen - roeddwn i'n eistedd ar un gadair, Heather ar y llall, a'r meicroffon bach sgwâr llwyd yma yn y canol a jyst rhoi'r gân ar y tâp.,br>
    "A dyma fi'n danfon y tâp off i'r gystadleuaeth. A dyna'r diwethaf glywais i amdano fe!" meddai.

    Ychwanegodd mai Dewi Pws enillodd gyda Nwy yn y Nen y flwyddyn honno gyda Heather ei hun yn fuddugol y flwyddyn wedyn gyda Pan Ddaw'r Dydd.

    "Ond dyna pryd dechreuodd perthynas Heather a minnau," meddai gan ddweud fod yr achlysur yn enghraifft o'i pharodrwydd bob amser i helpu a chynorthwyo eraill.

    Rhoi lliw i straeon
    Wrth ymhelaethu am gynnwys y llyfr dywedodd bod llawer o'r straeon nad ydynt yn newydd iddo ond bod nifer o ffeithiau ychwanegol difyr i'w lliwio.

    "Roedd yna lot o ffeithiau difyr yn newydd. Er enghraifft . . . Bara Menyn. Yr oeddwn i'n gwybod ei bod hi a Geraint wedi cyfarfod Meic Stevens mewn siop chips yn Y Drenewydd ond . . . yn y llyfr [mae'n] sôn ei bod hi a Geraint yn gwisgo dillad Marks & Spencer . . . a'u bod nhw'n dod ar draws y rhith yma! Y math o glorwth o foi yma, [yn] gwisgo dillad du, gwallt hir, het am i ben ac yn cario gitâr.

    "Mewn ffordd roedden nhw'n gymysgedd annhebyg iawn na fydde ti wedi disgwyl eu bod nhw wedi dod 'mlaen heb sôn am ddod at ei gilydd. Ond does dim amheuaeth fod Meic wedi cael dylanwad mawr ar Heather a Geraint o ran cerddoriaeth ac yn bersonol achos dydw i ddim credu fod Heather (16 oed) wedi gweld y math hyn o beth o'r blaen," meddai.

    "Mae'n sôn yn y llyfr ei bod hi'n athrawes Ysgol Sul ac wedi cael bywyd, nid cul, ond eithaf normal . . . lan at y pwynt pryd roedd hi a Geraint yn cyfarfod Meic Stevens ac wedyn rwyt ti'n cael yr argraff fod popeth wedi newid o hynny ymlaen.

    "Felly, roeddwn i'n gwybod am y stori ond mae lot mwy o liw ar y stori yn y llyfr," meddai.

    'Pebble Mill'
    Cyfeiriodd hefyd at ei chyfnod ar Pebble Mill at One.

    "Yn y cyfnod hwnnw roedd hi'n canu ar Pebble Mill at One - oedd yn mynd allan bob amser cinio ar y rhwydwaith ar draws Prydain Fawr.

    "Ac roedd hi'n canu ar y rhaglen hon unwaith yr wythnos ac felly roedd hi hyd yn oed yn y byd Saesneg yn ffigwr cenedlaethol. Roedd hi'n enwog yn y byd Saesneg hefyd," meddai.

    Stori yn y gyfrol na wyddai amdani, meddai, yw am ei chyfeillgarwch ag Annie Lennox. Ymddengys bod gan honno stondin gwerthu dillad mewn marchnad yn Llundain a'i bod yn dod ag unrhyw beth oedd yn rhy fach i'w werthu i Heather gan ei bod hi mor fechan.

    "Felly, mae cyfeillgarwch yma â lot o bobl enwog iawn. Ond o siarad â Heather fyddai hi byth yn dweud hynny wrthyt ti," meddai.

    Ond er cyflawni cymaint yr oedd yn ferch mor ansicr ohoni'i hun y teimlodd bod angen torri cysylltiad â'r byd roc yng Nghymru yn dilyn ei hysgariad ac wrth i Geraint ddod i fwy o amlygrwydd.

    "A'r canlyniad oedd troi at y band Wine and Roses yn canu caneuon Abba!

    "Ac mae'n dweud i hynny fod yn rhyddhad iddi ac yn help - ond wedyn eto mae'r ansicrwydd yma yn ei gwneud yn anodd iddi ddod yn ôl i'r sîn roc Gymraeg a chychwyn o'r cychwyn yn canu llais cefndir i'r Brodyr Gregory er enghraifft.

    "Ac o'r llyfr mae'n amlwg bod yna siom fan yna a bod elfen o ddifaru iddi fod bant gymaint a'i bod yn gorfod ymladd mor galed i ddod nôl," meddai.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Heather Jones

  • Caerdydd

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy