BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Llyfr Mawr Wcw a'i Ffrindiau
Llyfr lliwgar a bywiog
  • Golwg ar Llyfr Mawr Wcw a'i Ffrindiau, 2008. Gwasg Carreg Gwalch mewn cydweithrediad â Golwg Cyf. £6.95.


  • Byddai'n anodd dod o hyd i lyfr hosan Nadolig gwell na llyfr mawr Wcw a'i Ffrindiau ar gyfer plant - mewn unrhyw iaith!

    Mae'n flwyddlyfr gwerth chweil sy'n gyforiog o bob math o weithgareddau i blant ymgolli ynddyn nhw.

    Clawr y llyfr Ac fe fydd yn apelio at rai nad ydynt yn ddarllenwyr cyson y comic yn ogystal â'r ffyddloniaid.

    Yn ôl y disgwyl mae'r ffrindiau arferol yn britho'r dalennau lliwgar a bywiog: Twmff y Gath, yn cynnal syrcas; Sali Mali; Dewi'r Ddraig; Rwdlan; Mr Men; Taran a Fflach ar drywydd y Twrch Trwyth ac yn cyfarfod dyn sy'n baglu dros ei farf ei hun; Mabon a Mabli a hefyd mae yna Stori Fawr Wcw a stori stribed Planed Ribidiriwbob.

    Ond yr hyn sy'n gwneud y blwyddlyfr yn gymaint o bleser, yn ychwanegol at ei fywiogrwydd a'i liwiau, yw y nifer fawr o bosau a gemau - ambell un ohonyn nhw yn rhai y gall mwy nag un eu cyflawni ar yr un pryd ac yn destun hwyl ar yr aelwyd.

    Yn eu plith mae: Darganfod cymeriadau mewn llun poblog; Lluniau i'w lliwio; Creu lluniau trwy gysylltu dotiau; Darganfod darnau sydd ar goll o lun; Drysfeydd a phosau geiriau.

    Ac yn nhraddodiad gorau Blue Peter mae yna hefyd bethau i'w gwneud a resipi gwneud crempog yng nghegin Twts gyda Martyn Geraint.

    Yn y cefn mae dalennau Saesneg i hwyluso'r ffordd i ddysgwyr.

    Mewn llyfr prysur mae'r diwyg a'r cyflwyniad yn rhagorol ac yn cymharu'r ffafriol a'r goreuon o lyfrau o'r fath sydd ar gael.

    Ydi. Mae Llyfr Mawr Wcw yn un y bydd croeso mawr iddo.
    Glyn Evans


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy