BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Fy Mrawd a Minnau
Hiraeth am yr hyn sy'n bod
  • Adolygiad Eiry Miles o Fy Mrawd a Minnau gan Alun Jones. Gwasg Gomer. £8.99.


  • Ar ddiwedd Fy Mrawd a Minnau, cawn ddyfyniad gan Elis Gwyn, sef, "hiraeth am yr hyn sy'n bod."

    Mae'r dyfyniad hwn yn crynhoi hanfod y nofel, oherwydd ei bod yn ymdrin yn bennaf â hiraeth Teifryn - y prif gymeriad - am Gwydion, ei frawd.

    Clawr y llyfr Diflannodd Gwydion rai blynyddoedd ynghynt, ond erys yn gwbl fyw ym meddwl Teifryn a chaiff ei atgoffa amdano bob tro y gwêl rywun a "phen cyrliog du".

    Mae hiraeth yn pwyso ar gymeriadau eraill hefyd - hiraeth am deulu ac am ffordd draddodiadol o fyw sy'n prysur ddiflannu.

    Cychwyn trawiadol
    Dechreua'r nofel mewn modd hynod drawiadol.
    Ym Murllydan - cartref cyffredin ar lan y môr ym Mhen Llŷn - mae Mathias ar ei wely angau - ond nid yw ei wraig, Laura, na'i feibion Sionyn a Gwil, yn teimlo unrhyw dristwch. Yn wir, aiff y tri i chwarae bingo yn nhafarn y Crythor wrth aros iddo 'ymadael'.

    Yn syth, caiff chwilfrydedd y darllenydd ei danio - pam fod y tri yn ymddwyn mor ddifater?
    Beth wnaeth yr hen ŵr i haeddu ffarwel mor oeraidd?
    Cynyddir y tensiwn pan welwn Laura'n taflu ei lwch rywsut-rywsut i'r afon.

    Ymhen tipyn, gwelwn fod dicter y teulu tuag at Mathias yn gysylltiedig â marwolaeth y trydydd mab - Robat - a foddodd pan oedd yn llanc yn ei arddegau, ddeng mlynedd ar hugain yn ôl a daw yn amlwg fod cyswllt rhwng hanes trist Robat â diflaniad Gwydion.

    Troi'n obsesiwn
    Cawn weddill y stori o safbwynt Teifryn.
    Athro Hanes ydyw, sy'n ceisio annog ei ddisgyblion i feddwl drostynt eu hunain a chwestiynu'r fersiwn o 'hanes' a gyflwynir iddynt yn eu gwerslyfrau.

    Ond ar ôl gwrthdaro â'r prifathro, daw gyrfa ddysgu Teifryn i ben ac wedi hynny dechreua ymhél fwyfwy yng ngorffennol trist Murllydan a diflaniad ei frawd nes bod y cyfan bron â throi'n obsesiwn.

    Sŵn ac awyrgylch y môr
    Un o gryfderau'r nofel yw dawn yr awdur i greu sŵn ac awyrgylch y môr ac mae'n amlwg i'w fagwraeth ym Mhen Llŷn ddylanwadu'n drwm arno.

    Y môr a'i bysgod sy'n rhoi bywoliaeth i Sionyn, ond mae bywyd y môr yn rhan annatod o atgofion a phrofiadau cymeriadau eraill hefyd.

    Mewn ôl fflachiadau, cawn hanes Teifryn a Gwydion yn 'hel gwichiaid', a'r hwyl a gawsant yn chwilota am drysor yn yr ogofau.

    Tensiynau gwledig
    Mae'r awdur hefyd yn llwyr ymwybodol o'r problemau sy'n wynebu cymunedau gwledig gogledd Cymru.

    Yn gefnlen i'r brif stori, gwelwn y tensiynau a achosir yn y gymuned wrth i deuluoedd a fu yno ers cenedlaethau geisio cydfyw â'r mewnfudwyr.

    Mae Selina, cymdoges fusneslyd Laura, yn barod bob amser i ddefnyddio'i Saesneg carbwl i blesio'r Saeson.

    Ar y llaw arall, gwrthod siarad Saesneg wna Sionyn ac mae'n gas ganddo ddefnyddio'r siop leol sy'n cael ei rhedeg gan Saeson gwrth Gymreig.

    Cymuned yn dadfeilio
    Teimlwn fod y gymuned o'u cwmpas yn dadfeilio - yr unig fusnesau llwyddiannus yw busnes eirch Dic ac iard gerrig beddi Gwil ac mae'r capel bron yn wag - heblaw am y selogion, sy'n cynnwys rhagrithwyr fel Rhun Davies.

    Mae dyfodol hyd yn oed y dafarn yn y fantol ond, daw haul ar fryn wrth i'r gymdogaeth gydweithio i ailagor garej y pentref.

    Mae hyd yn oed Sionyn, a oedd mor llipa ac anobeithiol ar ddechrau'r nofel, yn datgan yn hyderus, "Mi fywiogwn ni'r lle 'ma, tasa fo'r peth dwytha wnawn ni!"

    Ymhen dim, daw'r garej â gwaith i bobl leol, ac mae sôn y bydd teuluoedd ifainc Cymraeg eu hiaith yn symud yn ôl i'r ardal.

    Heb argyhoeddi
    Yn anffodus, ni all yr awdur ail-greu sefyllfaoedd eraill â chymaint o argyhoeddiad.

    Ni lwydda i gyfleu naws ystafell ddosbarth yng ngolygfeydd yr ysgol ac mae'r disgrifiad o fachgen yn codi dwrn yn yr awyr i gytuno â'i athro braidd yn anghredadwy.

    'Teipiau' yw'r disgyblion yn y dosbarth megis yr 'hogan galad' ac ni wneir unrhyw ymgais i'w troi'n gymeriadau o gig a gwaed.

    Nid oedd cymeriad Teifryn yn argyhoeddi chwaith gyda'i ffordd o siarad a'i ymddygiad yn henaidd ac fe gymerodd beth amser imi ddeall mai chwech ar hugain oed ydoedd.

    O ganlyniad, llaciodd y nofel ei gafael arnaf ac ni chefais gystal blas arni â'r disgwyl.

    Y sgyrsiau
    Nid yw'r ddeialog yn taro deuddeg bob amser chwaith.

    Er mor swynol oedd rhai o'r ymadroddion tafodieithol, megis 'sbaena' a 'gwneud twmplan' a 'peth mwdradd o hwyl', mae sgyrsiau'r cymeriadau'n rhy ddifrifddwys.

    Enghraifft o hyn yw geiriau Gwil wrth Teifryn: "Annibyniaeth ydi peidio â chymryd dy demtio i chwenychu tegana na fedri di mo'u fforddio."

    Prin iawn yw'r hiwmor yn y nofel ac er mor dywyll yw ei thestun, credaf y byddai ambell olygfa ysgafn yn chwa o awyr iach ac yn fodd o ddwysau'r golygfeydd trist.

    Ni chawn ddatrysiad twt i hanes Robat a Gwydion.
    Serch hynny, mae diweddglo'r nofel yn gynnil ac yn gelfydd - ac, yn wahanol i'r disgwyl, nid yw'n gwbl ddu.

    Er na fydd pall ar hiraeth y cymeriadau, mae gobaith, o leiaf, am ddyfodol gwell iddyn nhw a'u cymuned.
  • Gweler Gwales Cliciwch



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy