BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ar Bwys
Cael y geiriau hud i blant
  • Adolygiad Linda Edwards o Ar Bwys gan Mererid Hopwood. Gomer. £4.99.


  • Ganed Mererid Hopwood yng Nghaerdydd ond mae'n byw ar hyn o bryd yng Nghaerfyrddin gyda'i gŵr, Martin, a'u tri plentyn.

    Clawr y llyfr Daeth i amlygrwydd yn 2001 fel y ferch gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ers hynny, mae wedi ennill y Goron ac wedi bod yn Fardd Plant Cymru yn 2005-2006.

    Mae'n awdur nifer o lyfrau; Singing in Chains, Yr Ynys Hud, ac O'r Môr i Ben y Mynydd.

    Mae ei chyfrol ddiweddaraf, Ar Bwys, wedi ei hanelu at blant o saith i 11 oed ac yn un y bydd plant ym mhobman yn ei mwynhau - ynghyd â phawb sy'n cofio bod yn blentyn!

    Mae agor y tudalennau a darllen y cerddi yn bleser pur, a lluniau Susie Grindey yn atodiad gwych i'r geiriau.

    Mae'r bardd yn gallu deall ac uniaethu â byd a bywyd plentyn i'r dim.

    Faint o blant sydd wedi diflasu ar gael eu galw'n rhywbeth ond eu henwau gan oedolion?
    Faint sydd wedi dweud, "Dim ond digwydd" mynd heibio o'n i pan fo rhywbeth yn mynd o'i le?
    Faint sydd wedi bod ofn y bwgan "dan y gwely'"?
    Faint o blant sydd wedi bod wrth eu boddau pan fo nain yn 'darllen stori', ac yn casáu 'molchi' a 'gwaith cartref'?

    Mae'r profiadau hyn i gyd yma, yn syml a chofiadwy.

    Ond mae mwy na hyn yma hefyd - mae byd Peter Pan yma- yn y gerdd Dianc:
    Mae man yn nwfn pob mynwes
    lle all wneud y pell yn nes
    cerbyd hud dim ond i ti
    gael hedfan fan a fynni.

    Ac yn Anturiaethau'r Awyr Uwchben
    Mae Cymru'n ymddangos, a bys hir Pen Llŷn
    yn cyffwrdd Trwyn Dewi cyn diflannu o'r llun.
    wrth i ddychymyg plentyn weld darluniau'n y cymylau.

    Yn ei cherdd deyrnged i T.Llew Jones mae'n gofyn:
    Ga i lais y llygaid gleision
    Ga i iaith y stori i gyd
    Ga i wres yr hen hanesion
    Ga i'r hwyl, ga i'r geiriau hud?

    Dywedwn i ei bod wedi eu cael a'i bod hi fel T Llew Jones yn gallu'n tywys trwy ryfeddodau byd plentyn, ac, fel T Llew, yn gallu'n swyno ni wrth wneud hynny.

    Mynnwch y gyfrol hon i'ch plant, i'ch wyrion a'ch wyresau, neiaint a nithod ac i blant eich ffrindiau.

    A beth bynnag wnewch chi, prynwch gopi i chi eich hun hefyd gan fod pori yn y tudalennau yn brofiad bendigedig ac yn bleser pur.

  • Gweler Gwales Cliciwch



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy