BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ychydig Is Na'r Angylion
Dewis nofel clwb darllen
Disgrifwyd nofel ddiweddaraf Aled Jones Williams sydd yn y ras am fod yn Llyfr y Flwyddyn 2007 fel un "anodd ond efo rhinweddau pendant".

Y nofel hon, Ychydig Is Na'r Angylion, oedd un o'r llyfrau a ddewiswyd gan glwb darllen rhaglen radio Gaynor Davies ar gyfer mis Mawrth 2007.

Fe'i dewiswyd gan Dyfrig Jones a oedd newydd ei benodi yn olygydd newydd Barn

Yn trafod gydag ef yn y stiwdio roedd Fflur Dafydd, enillydd Medal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2006.

Er yn nofel ddyrys a chymhleth dywedodd Dyfrig Jones iddo gael pleser o ddarllen Ychydig Is Na'r Angylion.

gwrandoY sgwrs yn gyflawn rhwng Dyfrig Jones, Fflur Dafydd a Gaynor Davies, Mawrth 26, 2007.

Colli teulu
"Mae'n anodd iawn crynhoi y stori - mae'n nofel ddyrys yn llawn o gymeriadau sy'n byw bywydau sy'n rhyw gydblethu ond eto yn eithaf ar wahân.

"Ond yn y bôn stori am ddyn yn colli'r rhan fwyaf o'i deulu ydi hi.

"Mae ei berthynas a'i wraig yn un eithaf anodd ac mae hi yn mynd â dau o'u plant i'r ysgol un bore gan ei adael o yn y tŷ efo mab anabl ac mae hi'n crasio'r car a'r tri yn cael eu lladd ac [yntau'n] cael ei adael . . . i ymdopi efo bywyd ac edrych ar ôl yr hogyn mewn cadair olwyn.

"Ac yng nghanol hyn i gyd mae o'n ffendio pentwr o lythyrau sy'n datgelu fod ei wraig wedi bod yn cael affêr [a hyn yn ei arwain i geisio] dod i adnabod ei wraig.

"Mae'n mynd i gyfarfod rhai o gymeriadau yr ardal ac yn trio cael dealltwriaeth well o pwy oedd hi," meddai.

Ond ychwanegodd nad yw'n stori sy'n cael ei dweud yn syml ac yn uniongyrchol:
Gwneud pethau'n anodd
"Mae rhywun sydd wedi bod yn gweld un o ddramâu Aled Jones Williams yn gwybod nad ydi o byth yn gwneud dim byd yn hawdd - mae o'n lecio tywyllwch a chymhlethdod ac mae yna ddigonedd o'r ddau beth yma," meddai.

Mae'r nofel, meddai, yn dilyn llwybr "digon igam ogam".

Serch hynny, dywedodd iddo ei mwynhau.

"Dydi o ddim yn llyfr perffaith ond mae Aled yn medru sgwennu ac mae unrhyw un sydd wedi gweld ei ddramâu yn gwybod ei fod yn un sy'n medru saernïo stori . . .

"Ac ar adegau mae cyfrwng y nofel yn ei siwtio yn dda iawn gan ei bod yn rhoi lot mwy o le i fynd i mewn i ymennydd cymeriad.

"Ond ar adegau eraill roeddwn i'n teimlo ei fod yn sgwennu gormod yn arddull ei ddramâu - er enghraifft, mae ganddo'r peth yma y mae o'n wastad yn ei wneud yn ei ddramâu lle mae atgofion digon dinod o orffennol yn cael eu hailadrodd ac yn adeiladu ac adeiladu.

"Ac wrth iddo adeiladu y manion yma at ei gilydd mae'n dod yn amlwg fod un o'r manion ag arwyddocâd.

"Mae hyn yn rhywbeth y mae'n hawdd i actor ei wneud gan fod actor yn rhoi y pwyslais ar y mân beth sy'n bwysig ond mae'n medru bod yn beth anodd i'w ddarllen pan fo'r llith yma o fân atgofion yn dod ar ben ei gilydd ac angen i chi ddewis pan un sy'n arwyddocaol.

"Ond ar y cyfan dwi'n credu ei fod wedi addasu ei arddull yn dda iawn i'r nofel."

Nid i'r gwangalon
Dywedodd Fflur Dafydd, hithau, nad yw hon yn nofel "ar gyfer y gwangalon" a bod yn rhaid ymroi i'w darllen.

"Mae'n nofel ddyrys ac yn nofel gymhleth, athronyddol, ac mae yna lot fawr o syniadau ac mae'r gyfeiriadaeth yn eang iawn," meddai.

Ond ychwanegodd y gall darllenwyr fwynhau mynd dan groen y nofel hon.

"Mae'r iaith yn goeth iawn - mae'n dirgrynu ar y dudalen," meddai.

"Ac fe wnes i fwynhau y gyfeiriadaeth hefyd. Ar ddechrau'r nofel mae'n sôn am Three Colours Blue ac roeddwn i'n meddwl fod hwnna'n eithaf clyfar y ffordd mae'n clymu'r stori yna gyda'r hyn sy'n digwydd i'w wraig a'i blant," meddai.

Ond ychwanegodd y gall y gyfeiriadaeth fynd yn llafurus ar adegau.

Dychanu'r Gymru newydd
Cyfeiriodd Dyfrig Jones hefyd at elfennau dychanol a hoffodd yn y nofel - a hwnnw'n ddychan o'r hyn a alwodd yn "Gymru newydd".

"Ac mae lot o'r cymeriadau yn gwneud rhyw bethau trendi, cyfryngol, artistig,," meddai gan ddisgrifio'r nofel fel caricatur o Gymru rhyw bum mlynedd yn y dyfodol.

"Ac mae o'n gwneud hynny yn arbennig o dda,".meddai.

"Yr oedd yr elfen yna o ddychanu y Gymru ddosbarth canol gelfyddydol hunan bwysig yn eithaf da," meddai.

Wrth grynhoi disgrifiodd y nofel fel:
"Llyfr anwastad ac anodd ond efo rhinweddau pendant".

A chymeradwyodd Fflur Dafydd fynd yn ôl i ddarllen rhai darnau gan nad ydych "yn cael popeth ar y darlleniad cyntaf".

Cysylltiadau Perthnasol
  • Cyhoeddi Ychydig Is Na'r Angylion

  • Llyfr y Flwyddyn 2007


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy