BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dathlu Gŵyl Ddewi
Plant yn rhoi llyfr ar waith
Cafodd disgyblion dosbarth 5 a 6 Ysgol Gynradd Llanfairpwll fodd i fyw yn paratoi ar gyfer dydd Gŵyl Dewi 2007 gyda llyfr newydd Elin Meek, Dathlu Gŵyl Ddewi.

Ac er mai coch yw'r wisg ysgol roedd y dosbarth dan ei sang o felyn a gwyrdd erbyn diwedd y prynhawn!

Am ladd Dewi!
I'w hysbrydoli ar gyfer y gwaith llaw bu i'w hathro, Gethin Thomas, ddarllen Cynllwyn i Ladd Dewi, un o'r hanesion a gynhwysir yn y llyfr, am hanes bywyd ein nawddsant, ac un o'r nifer o hanesion sydd hwyrach heb fod yn hysbys iawn hyd yma.

Dyma un o'r chwedlau rhyfeddaf am Ddewi ac fe gyfareddwyd y plant gan hanes tri mynach drwg yn cynllwynio i wenwyno Dewi ar Sul y Pasg!

  • Meddai James, 11 oed:
    "Mae Mr Thomas wedi bod yn darllen y llyfr i ni a dwi di mwynhau clywed y chwedlau - y rhan fwyaf ohonyn nhw dydw i ddim wedi eu clywed o'r blaen. Dwi'n meddwl mai fy hoff un i ydy hanes Dewi yn aros yng Nglyn Rhosyn adag y tân..."

    A dywedodd mai hoff chwedl oeded, "Yr un efo'r bara."

  • Ychwanegodd Harri, 10 oed:
    "Dydy mam a dad ddim yn gwybod lot am ddydd Gwyl Dewi, ond fydda i'n gallu mynd adra a deud y stori wrthyn nhw rwan."

    Gwneud cennin pedr
    Wedi'r storïo daeth yn bryd arfogi eu hunain gyda selotêp, gliw a phob math o drugareddau gwaith llaw ar gyfer gwneud eu cennin pedr eu hunain trwy ddilyn cyfarwyddiadau lliwgar y gyfrol.

    Dathlu Gŵyl Ddewi yw'r ail gyfrol yng Nghyfres Hwyl Gŵyl a daw yn sgil llwyddiant y gyntaf, Dathlu Calan Gaeaf.

    Meddai Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch
    "Fel rhiant fy hun - dwi'n teimlo'i bod hi'n hanfodol bwysig ein bod yn cynnig ymwybyddiaeth o'n traddodiadau, ein harferion a'n hanesion i'r genhedlaeth iau."

    Ei obaith gyda Hwyl Gŵyl yw gwneud hynny mewn ffordd ddifyr a diddorol.

    "Ac fel rhywbeth y gall rhieni a'u plant, neu ddosbarthiadau ysgol, wneud gyda'i gilydd," meddai.

    Mae gan y gyfrol hefyd rywbeth i'w gynnig ar gyfer gweddill y flwyddyn wedi Mawrth 1.

  • Lluniau o'r diwrnod



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy