 |
Cysgodion y Coed Codi awydd am ddilyniant
Adolygiad Llinos Dafydd o Cysgodion y Coed gan Sian Eirian Rees Davies.
Rhaid imi gyfadde', cyn mynd ati i ddarllen y nofel fer yma, roeddwn i'n amau na fyddwn yn ei mwynhau gan nad oedd I Fyd Sydd Well, nofel gynta'r awdur a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau yn 2005, wedi cydio ynof o gwbwl.
Ond dyna'r paragraff cyntaf un yn fy mhrofi'n anghywir.
Mae unrhyw awdur gwerth ei halen yn cipio dychymyg y darllenydd o'r dechrau un ac yn ei wneud yn rhan o'r stori...
"Rwyt ti'n disgwyl stori, yn dwyt ti? Wrth gwrs dy fod di! Pam arall faset ti'n codi'r hen lyfr 'ma? Wel mae gen i stori i ti...Dw i eisiau dy sylw di i gyd. Dw i eisiau mwy na hynny. Dw i'n mynnu dy ddewrder di, dy ddychymyg chwim a dy galon di..."
Dyma osod naws y nofel o'r cychwyn ac mae gan yr awdur ddawn arbennig o ddisgrifio'r ynys siâp deigryn, a'r daith yno'n "...un hynod o hardd..." gyda changhennau'r coedd "yn drwm o ffrwythau tew, blasus..." ac "wrth nesau at y pentref gallwch deimlo'r awel gynnes drwy eich gwallt ac arogli persawr blodau'r goedwig."
Ond nid yw pentref Bryn Bahirawa yn fêl i gyd, ac mae yna gymeriad peryglus iawn, Madam Neja, yn llechu ac yn trio rheoli'r ynys gyfan trwy ddeffro Bwystfil Bryn Bahirawa.
Hi yw dynes ddoeth Bryn Bahirawa, y pentref "...lle mae cariad mor brin â dwr...", wedi cymryd yr awenau yn dilyn diflaniad y gŵr doeth gwreiddiol, Tada Amin.
Ond mae'n cymryd mantais o'i statws ac yn trin pawb yn y pentref fel caethweision gyda'i chansen fambŵ.
Antur tri phlentyn sydd yma, wrth iddyn nhw neidio ar gefn Cioma'r eliffant i geisio datrys dirgelwch diflaniad Tada Amin a dianc o grafangau erchyll Madam Neja.
Ond pwy sy'n anfon y negeseuon iddyn nhw drwy'r amser? Rhai fel:
"Rhaid stopio Bwystfil Bryn Bahirawa Rhag ddeffro o'i ogof dywylla - Mae'r chwedl yn wir, Gall yr awyr cyn hir Syrthio dan swyn Madam Neja."
Yn bodoli Ac a yw Cysgodion y Coed wir yn bodoli a pham fod Dwlani, chwaer fach Athani, sydd ddim yn llawn llathen, yn ailadrodd "Nima-adat-eam-ell" yn ei chwsg bob nos?
Mae'r atebion yn glir erbyn diwedd y nofel ac mae'n daith gwerth ei dilyn i ddarganfod a yw'r plant yn llwyddo i drechu Madam Neja.
Mae Sian Eirian Rees Davies wedi llwyddo i lifo'r stori'n dda, a darlunio Madam Neja mewn ffordd afiach, gyda "...phlygiadau ei bloneg yn torri'n donnau am ei chanol wrth iddi siglo'i phen-ôl i rhythm rhyw gân ddychmygol."
Ceir disgrifiadau bach hynod, fel "...pryfed yn sgrialu mewn sawl sgarmes..."sy'n dangos bod ganddi glust dda am sŵn y geiriau, ac mae'n ychwanegu naws i'r darlun.
Darllen mwy Erbyn cyrraedd y diweddglo, roeddwn i'n ysu am ddarllen mwy ac mae yna sgôp enfawr ar gyfer dilyniant.
Yn wir, mae'r awdur ei hun yn disgwyl gweld rhyw fath o antur ar yr ynys unwaith eto:
"Efallai y bydd Madam Neja'n rhoi cynnig arall ar ddeffro Bwystfil Bryn Bahirawa rywdro...gyda chymorth Tada Amin, Sanswca, Dwlani a Cioma, dw i'n gwybod y bydda i'n barod am unrhyw antur a ddaw i'w rhan ar yr ynys ryfeddol hon..." meddai.
Nofel gwerth chweil a'm cadwodd ar flaenau fy nhraed o'r eiliad gyntaf - dwi eisiau gweld dilyniant plîs!
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad: I Fyd Sydd Well

 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|