Adolygiad Hafina Clwyd o lliwiau liw nos gan Fflur Dafydd. Lolfa £6.95
Mae yna ambell flwyddyn gofiadwy yn hanes pawb ohonom. Ambell dro am resymau trist, dro arall ceir dyddiau llythyren goch.
Credaf mai blwyddyn llythyren goch a gafodd Fflur Dafydd eleni. Am y tro cyntaf anfonodd ymgais i gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith a dod yn agos i'r brig.
Mwy na hynny cafodd eiriau canmoliaethus oddi wrth feirniaid sydd yn gwybod be di be.
"Trwy ddychymyg ffrwythlon yr awdur llwyddir i roi inni olwg newydd sbon ar themâu megis cariad, anffyddlondeb ac eiddigedd..."
Ac yng ngeiriau Meinir Pierce Jones "nofel gyfoes a soffistigedig..... ysgrifennu sensitif...caiff y darllenydd bleser rhyfeddol...."
Dawn gerddorol Anlwc fawr Fflur oedd bod Dylan Iorwerth wedi anfon Darnau i mewn.
Mi wyddem am ei dawn gerddorol ac eleni hefyd y lansiodd ei halbwm cyntaf, Coch am weddill fy Oes.
Heb glywed yr albwm ni allaf ddirnad beth yw ystyr y 'coch' yn y teitl.
Mae un peth yn wir: nid yw ei llenyddiaeth yn goch - yn ystyr ogleddol y gair. Mae hon yn nofel feistrolgar os anodd ei darllen ar brydiau.
Bloc o fflatiau Y cefndir yw bloc o fflatiau ac o fewn tair fflat ceir trigolion llawn cyfrinachau.
Mae yna unigedd a thwyll ac eiddigedd a ffetish.
Mae enwau'r trigolion yn dweud rhywbeth wrthym amdanynt.
Dyna Gwydion y gŵr priod sydd yn cario 'mlaen hefo'r ferch yn y fflat uchaf. Mae'r enw Gwydion yn awgrymu Cymro dosbarth canol gyda phwerau arbennig - y gallu i ddenu merched efallai. Ffotograffydd ydyw a gwêl bopeth yn ddu a gwyn.
Lena yw ei wraig - enw cyffredin yn creu darlun o lygoden fach. Mae Gwydion yn medru bod yn ddigon difeddwl a miniog ei dafod hefo Lena. "Beth wyt ti'n ei weld wrth edrych arna i?" hola Lena. "Wal" meddai a cherdded allan o'r ystafell. Nid wyf yn hoffi Gwydion o gwbl.
Ni cheir enw'r ddynes ffansi ac y mae hynny hefyd yn arwyddocaol; cyfrinach, wyneb mewn edrych, y tu ôl i'r llenni. Ond llawn cyfrwystra a hi a chwaraeodd y tric mwyaf annynol ar Lena druan.
Yn y fflat ganol y mae Cain.
Y mae ef fel y Cain gwreiddiol yn ddyn trist a chymhleth; mae ganddo berthynas od a'i fam. Perthynas odiach a Julie (enw arall ddewiswyd yn ofalus) y ferch adawodd wrth yr allor ond sydd yn disgwyl ei blentyn. Mae gan hwn obsesiynau afiach ac yr ydym i gyd yn adnabod dynion digon tebyg.
Mae'r ddeialog rhyngddo ef a Julie uwch y pryd bwyd yn y gwesty yn orchestol ac yn rhoi inni ddarlun llawn o'i bersonoliaeth.
Gweledigaeth a dyfnder Mae yma stori afaelgar a chymhleth. Mae yma weledigaeth a dyfnder.
Ac eto yr wyf yn teimlo bod yr holl angst yn peri bod y darllen yn llafurus ar brydiau.
Teimlwn hefyd nad yw pobl gyffredin yn meddwl ac yn pensynnu fel y cymeriadau yn y nofel hon.
Anodd hefyd yw cymryd at yr un ohonyn nhw ac erbyn y diwedd yr oeddwn yn teimlo eu bod i gyd yn cael yr hyn a haeddent.
Heblaw am fab Gwydion efallai.
Mae un peth yn sicr. Mae Fflur yn sicr o fynd o nerth i nerth ac fe gawn fwy o waith disglair ganddi yn y dyfodol.