BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ar lwyfan Amser
Drama bywyd ifaciwi
  • Adolygiad Glyn Evans o Ar Lwyfan Amser, hunangofiant J O Roberts. Cyfres y Cewri 29. Gwasg Gwynedd. £6.95.


  • Ac yntau'n actor o fri, byddai ambell un yn dweud wrthych chi rhwng difrif a chwarae mai un o'r cynyrchiadau mwyaf y cymerodd J O Roberts ran ynddo oedd yr un a lwyfannwyd gan Wasg Gwynedd i gyhoeddi yr hunangofiant hwn!

    Clawr y llyfr Ymhlith y gynulleidfa sylweddol a ddaeth ynghyd yr oedd Côr y Traeth, Anette Bryn Parry, Hogia'r Wyddfa, Trebor Evans, Gwanas, Hywel Gwynfryn, John Ogwen, Gwilym Owen, Vaughan Hughes, Sonia Edwards ac, yn eistedd yn y cefn o olwg pawb, Bryn Terfel.

    Yr oedd hi'n noson i'w chofio yn ôl yr hyn a glywais i gyda Gwilym Owen, a gyhoeddodd ei gofiant yntau yn yr un gyfres ddwy flynedd yn ôl, yn dipyn o star turn wrth dynnu coes ei hen gyfaill.

    Diau, fod actor a wnaeth ddiwrnod mor dda o waith ar lwyfan ac ar sgrîn yng Nghymru yn haeddu cynhyrchiad o'r fath ar gyfer cyhoeddi ei lyfr.

    Yr hyn na sylweddola'r gynulleidfa gyfoes yw i gymaint o'i gyfraniad i'r theatr fod cyn iddo ddod yn actor fel petai.

    Fel y dywed yma, ym myd addysg y bu'n gweithio am ddeng mlynedd ar hugain cyn ymddeol yn gynnar o fod yn ddarlithydd yn Y Coleg Normal a dod yn actor amser llawn.

    Cynt, actor rhan amser fu o ar lwyfan, radio a theledu.

    Cymeriadau o bob math
    Rhy cyfres o luniau yng nghanol y gyfrol hon amcan o'r amrywiaeth o gymeriadau a chwaraewyd ganddo - o'r pennaf o'n harwyr cenedlaethol, Owain Glyndŵr i un o drigolion Carreg Boeth straeon Harri Parri i laddwr proffesiynol yng ngwasanaeth y Llywodraeth.

    Yn wir, prin y gellid adnabod JO o ran pryd a gwedd yn y rhan honno yng Nghysgodion Gdansk .

    Ac meddai ef ei hun: "Bu i lawer o'm cydnabod naill ai fethu f'adnabod . . . neu'm hanwybyddu'n fwriadol gan feddwl fy mod yn dechrau gwirioni neu'n mynd trwy'r 'male menopause'!" meddai.

    Cofiaf innau fod mewn cynhadledd i'r wasg a alwyd gan banel artistig Theatr Gwynedd Bangor yr adeg honno heb sylweddoli pwy oedd y gŵr ar ben y bwrdd o'n blaenau nes iddo ddechrau siarad!
    Trodd newyddiadurwraig ataf i holi mewn syndod, "Be goblyn sydd wedi digwydd i J O Roberts?"

    Yn anffodus, yn fy meddwl i, claear fu'r croeso i Gdansk a saernïwyd mor gelfydd a mentrus gan Dafydd Huw Williams ac Ifor Wyn Williams ac er i un gyfres arall debyg ddilyn,Barbarossa, nid oedd yn arbrawf y bwriodd S4C ymlaen ag ef.

    "Roedd y gyfres ar lawer cyfrif yn newydd ac o flaen ei hamser," meddai J O Roberts yn ei hunangofiant ond yr oedd yn gyfres a blesiodd lawer ohonom a thrueni i S4C wangalonni.

    Ychydig o le
    Dim ond ychydig o amser â dreulia J O Roberts yn yn Ar Lwyfan Amser i sôn am y cyfnod hwn yn ei yrfa - ond y mae'r bennod Trwy Ddŵr a Thân a Phethau Eraill, lle mae'n sôn am ei wahanol brofiadau yn gwneud ei 'stynts' ei hun mewn ffilmiau, yn un ddigon difyr.

    Mi fyddwn i wedi hoffi cael mwy am y cyfnod hwn sy'n cael ei wasgu i ddalennau olaf yr hunangofiant.

    Heb amheuaeth byddai ganddo sylwadau adeiladol a gwerthfawr i'w gwneud am ddatblygiad a chyflwr theatr a theledu Cymraeg ac mae'n drueni iddo ymatal rhag gwneud hynny yn y gyfrol hon. Troeon gyrfa
    Fel gyda chymaint o hunangofiannau mae perygl i'r hanes droi'n gatalogaidd ar adegau wrth i droeon gyrfa gael eu rhestru ac mae'n siŵr gen i y gall ceisio osgoi hynny fod yn boen i awdur.

    Mae'r rhan helaethaf o'r hunangofiant wedi ei neilltuo i fachgendod a llencyndod ac mi fydd yn syndod i sawl un ddarganfod mai 'ifaciwi' o Lerpwl ydi'r actor o Fôn y mae ei Gymraeg llafar mor wefreiddiol o gyfoethog a'i ymwybyddiaeth o deithi'r iaith mor sicr.

    Ond ym mherfeddion Môn yr oedd y cyff teuluol ac yno yr anfonwyd yr ifaciwi bach i ddiogelwch rhag bomiau Hitler.

    Mae'n cyfaddef nad oedd y dianc yn wynfyd - yr hiraeth o fod ar wahân i'w rieni a arhosodd yn Lerpwl lle'r oedd ei fam yn nyrs a'i dad yn weithiwr yn y dociau; cael ei gam-drin fel hogyn diarth yn yr ysgol a'r holl anhawster o ddygymod ag arferion gwlad yn dilyn bywyd tref.

    Ond gall Cymru fod yn ddiolchgar i John Lerpwl ddod yn John Corsyreira, John Haulfre a John Ty'n Llan dros y blynyddoedd a manteisio ar y cyfle a roddodd hynny iddo ymddiddori, ymhyfrydu a llwyddo ym myd drama gan ddod gyda'r coethaf o lefarwyr y Gymraeg.

    Wrth eu lleisiau
    Ni ddylai synnu neb mai trwy eu nodweddion llais a gair y mae'r actor J O Roberts yn darlunio yn y llyfr gymeriadau lliwgar cymdeithas wledig ei fagwraeth. Cymdeithas wâr o ddiwylliant naturiol ond un nad oedd yn brin o ddigrifwch a thynnu coes hefyd.

    Go brin bod stori well yn y gyfrol nag un beirniadaeth cystadleuaeth gwneud tyllau botymau a roddwyd i'w darllen i ysgrifennydd eisteddfod leol, na allai ddweud R:
    "Twll Maftha," darllena. "Fhy hifgfwn o lawef iawn, Maftha, a fawf o siâp afno fo."

    Gallwch ddychmygu i ba gyfeiriad mae'r stori yn mynd wrth iddo dafoli tyllau merched eraill y gystadleuaeth!

    J O Roberts fyddai'r cyntaf i gydnabod pa mor ffodus y bu i fod yn rhan o gymdeithas wledig, ddiwylliedig - a hynny ar adeg pan oedd cwmnïau drama lleol ar eu hanterth yn perfformio nid yn unig ar hyd a lled ynys Môn ond drwy Gymru ac yn Lloegr.

    "Hwn oedd y cyfnod pan ddaeth y ddrama'n rhan o batrwm bywyd a rhoi pleser oedd i fod yn ddylanwad drwy'r blynyddoedd," meddai.

    Yn yr ysgol
    Bu'n ffodus wedyn o gael yr athrylith hwnnw ym myd y ddrama amatur, George Fisher, yn athro arno yn yr ysgol uwchradd ac mae ei deyrnged iddo yn un hael a chynnes.

    "Fydda fo byth yn derbyn 'ba' gan neb ac roedd hi'n amhosibl gwrthod dyn oedd yn berwi o frwdfrydedd," meddai amdano, gan ychwanegu:

    "Perffeithydd fel cyfarwyddwr, dyn o flaen ei oes - ac un a fyddai wedi bod yn impressario penigamp!."

    Tua'r diwedd mae pennod ddwys - ysgytwol, yn wir - am farwolaeth ei wraig a'r hunllef o geisio ailafael mewn bywyd wedi'r fath rwyg.

    Mae Ar Lwyfan Amser yn gyfrol deilwng gan actor teilwng mewn cyfres deilwng.

  • Adolygiad ar Gwales Cliciwch



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy