BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Llwybr Gobaith
Pererindod ryfeddol meddyg o Gymru
  • Sylwadau ar Llwybr Gobaith - Antur Cymodi o Gymru i'r Byd gan Rhiannon Lloyd (Golygwyd gan John Emyr). Gwasg Pantycelyn. £10.

    Yn y gyfrol hon cawn wybod sut y bu i adnabyddiaeth newydd o Dduw newid bywyd person.

    A sut y bu i ddylanwadau Cristnogol Cymreig arwain at gyfraniad "arloesol" Cymraes ym maes cymod rhyngwladol.

    Y bardd Eingl Gymreig, Harri Webb, a ddywedodd mai anffawd mawr Cymru oedd bod yn rhy agos at Loegr ac yn rhy bell oddi wrth Dduw.

    Clawr y llyfr Beth bynnag am yr agosrwydd at Loegr fe fyddai'r meddyg Rhiannon Lloyd yn cytuno gant a chant ag ail osodiad Mr Webb am y dieithrwch â Duw.

    Pryderu am Gymru
    Wrth gloi cyfrol lle mae'n siarad yn agored ac yn onest am lwybrau ei bywyd a'r anawsterau a gafodd i ddod i 'adnabod' Duw yn iawn y mae tristwch yn ei llais pan yw'n mynd ati i bwyso a mesur cyflwr crefyddol Cymru heddiw.

    Ym mhennod olaf Llwybr Gobaith dywed:
    "Rwy'n ei chael hi'n haws i weddïo am ddiwygiad yn Rwanda, a chredu y daw, nag i gredu y daw diwygiad i Gymru."

    Ei gofid yw fod "cefnu" ar Gristnogaeth wedi digwydd ar raddfa mor fawr yng Nghymru dros y blynyddoedd.

    "Mae rhywfaint o grefydd ar ôl, ond ychydig iawn, ac mae'n capeli'n cael eu cau ym mhobman," meddai.

    "Mae pobl wedi colli diddordeb am fod Cristnogaeth real a byw - yn hytrach na chrefydd ddiwylliannol - bron a bod yn gywilydd ac embaras.

    "I Gymry Cymraeg , mae siarad am yr efengyl yr un fath a siarad am ryw i bobl oes Fictoria. Mae yna swildod ofnadwy ac ymdeimlad nad yw'n beth gweddus i siarad am bethau'r galon a'r efengyl," meddai.

    Teimlo'n anghyfforddus
    Ac am yr union resymau hynny diau y bydd ei gonestrwydd hi am ei phererindod Gristnogol yn gwneud i rai deimlo yn anghyfforddus wrth ddarllen y gyfrol hon.

    Fel y mae hi ei hun yn awgrymu, yn y dyfyniad uchod, mae clywed Cristnogion yn sôn yn agored am "adnabod" Duw a Christ ac am gael eu "harwain" gan Dduw a bod yn rhan o rhyw gynllun sydd ganddo ar eu cyfer yn gwneud i rai nad ydynt yn gyfarwydd â'r cysyniadau a'r profiadau hyn deimlo'n anesmwyth ac weithiau'n peri annifyrrwch hyd yn oed.

    Ond y mae'r syniad o fod â pherthynas uniongyrchol â Duw ac adnabyddiaeth bersonol ohono a'r syniad o Dduw yn agor drysau yn eu bywydau ac o gael "neges" ganddo yn un hynod o ddiddorol - hyd yn oed i'r anghred.

    Mae'r Dr Rhiannon Lloyd yn olrhain yn fanwl a diffuant y daith honno tuag at adnabyddiaeth gan ddangos sut y bu i amgylchiadau personol fod yn rhwystr ac yn stwmbwl iddi am gyfnod.

    Rhiannon Lloyd Er wedi ei magu ar aelwyd Gristnogol, grefyddol, ac "wastad wedi 'credu'," chwedl hithau; darlun o Fod cas a dialgar oedd ei hun hi o Dduw.

    Cryn ddioddef
    Lliwiwyd - a llywiwyd - y farn honno gan salwch hir ei mam a gaethiwyd i gadair olwyn a chan salwch mawr a'i goresgynnod hi ei hun ac amgylchiadau a salwch ei chwaer yr oedd mor hoff ohoni.

    "Daeth cryn ddioddef i'n rhan fel teulu," meddai "gydag amheuon yn codi" a "llawer o boen a chwestiynau" mewnol i'w llethu.

    "Rwy'n cofio meddwl unwaith, 'Tybed a ydym ni o dan ryw felltith fel teulu?'," meddai.

    Aeth cyn belled a meddwl fod Duw yn "ymfalchïo" yn nhrallodion pobl ac mewn rhoi baich ar eu hysgwyddau.

    "Yn ystod y cyfnod dan sylw, wedi imi sylweddoli bod yr holl gyhuddiadau yn fy nghalon, byddwn yn gofyn i'r Arglwydd bob bore i ddatguddio ei hun i mi a dweud wrthyf beth yr oedd ef yn ei deimlo a'i feddwl. Rhaid imi d'adnabod di. Rwyf wedi blino ar chwarae gemau crefyddol. Mae arnaf eisiau gwybod beth ydi realiti a phwy ydi fy Nuw," meddai wrth gyfleu ei gwewyr personol.

    Trwy weddi, dwys fyfyrio ac astudio'r ysgrythurau y daeth maes o law i adnabod Duw yn iawn.

    Mae'n trafod y broses honno a arweiniodd at weddnewid ei bywyd yn agored ac yn ddiffuant wrth gael ei holi gan John Emyr ar gyfer y gyfrol hon.

    Modd i fendithio eraill
    Y sylweddoliad mawr oedd mai arfau yn nwylo Duw "i fendithio eraill" yw y dioddefus ac i hynny cael ei amlygu iddi hi yn nioddefaint ei chwaer.

    "Gallaf weld bod Duw yn ei defnyddio hi i fendithio bobl (sic) eraill," meddai.

    A hynny yn ei harwain at ddod "o'r lle o gyhuddo Duw i'r lle y gallaf ddweud mod i'n caru Duw a'i edmygu â'm holl galon," meddai.

    Yn Affrica
    Wrth gwrs cyn bwysiced bob tamaid â sylweddoliad rhywun o wir natur ei dduw yw beth mae rhywun yn ei wneud wedyn.

    Yn Affrica, yn Rwanda yn benodol, y bu cyfraniad ymarferol mawr Rhiannon Lloyd yn "hyrwyddo cariad lle bu casineb ac i ledaenu cymod lle bu lladd".

    Aeth i wasanaethu yn Rwanda yn fuan wedi hil-laddiad enbyd 1994.

    Ac yn ôl rhagymadrodd i'r gyfrol hon; "Fe lwyddodd Rhiannon i ddatblygu dull arloesol sydd bellach o ddiddordeb mawr i'r rhai sy'n gweithio ym maes cymodi."

    Ychwanegir: "Bellach mae llawer o wledydd eraill eisiau cymhwyso'r gwersi a ddysgwyd yn Rwanda."

    Heb os, cyfraniad nid bychan fu cael du a gwyn, Hwtw a Thwtsi, i gofleidio ei gilydd yn llythrennol ac yn haniaethol.

    Bwriad y gyfrol yw cyfleu'r "ias a'r antur a ddaeth i ran yr awdur wrth iddi fynnu rhoi ei ffydd Gristnogol ar waith" ac y mae hynny'n cael ei wneud yn glir ac yn ddifyr trwy fabwysiadu dull holi ac ateb gyda John Emyr yn holi a Rhiannon Lloyd yn ateb.

    Mae'n gyfrol fydd yn ysbrydoli rhai - bydd yn agoriad llygad i bawb.

    Teimlo cynnwrf
    Ac er gwaethaf rhai sylwadau digalon am gyflwr crefydd yng Nghymru heddiw; ar nodyn gobeithiol mae'r llyfr yn cloi:
    "Mae gen i ryw gynnwrf yn fy nghalon fod gan Dduw rywbeth ar droed! Gallaf weld bod yr Ysbryd Glân ar waith yn ddistaw bach yng Nghymru ac mae arwyddion calonogol i'w gweld.

    "Mae hi fel petai'r rhew ar ôl gaeaf hir iawn yn dechrau dadmer. Ac rwy'n teimlo cymhelliad i beidio â bod mewn gwleydd tramor gymaint, ond i fod fwy ar gael yng Nghymru. Credaf y gwelwn eto fendith Duw ar ein cenedl," meddai.

    Byddai'n dro rhyfedd ar fyd: Cymraes yn mynd a'i gweithredoedd da a'i gweledigaeth o ewyllys Duw i Rwanda a'r "goleuni" wedyn "yn mynd o Rwanda i wledydd eraill lle mae tywyllwch" . . . gan gynnwys Cymru!

    Yng ngeiriau'r emyn; Trwy ddirgel ffyrdd. . .

  • Adolygiad ar Gwales Cliciwch



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy