BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Grefft o Dan-y-Groes
Hwch o fewn trwch blewyn i gadair y Steddfod!
  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Y Grefft o Dan-y-Groes. Golygydd: Idris Reynolds, Gwasg Carreg Gwalch. £7.

    Am andros o stori!
    Dosbarth cynganeddion y Prifardd Dic Jones yn llunio awdl ar y cyd a'i hanfon i gystadleuaeth Cadair Eisteddfod Cwm Rhymni 1990.

    Y ffugenw oedd Lleng a'r enw'n yr amlen oedd Blodwen Evans, Gwesty'r Emlyn, Tanygroes, Ceredigion.Ond hwch morwyn John yr Emlyn - man cyfarfod y dosbarth - oedd Blodwen!

    Cawn holl hanes yr awdl o'i chynllunio hyd banics ddydd y Cadeirio gan Dic Jones ei hun yn y gyfrol Y Grefft o Dan-y-groes.

    Clawr y llyfr Y testun yng Nghwm Rhymni oedd Gwythiennau, a barn y dosbarth oedd fod yn rhaid wrth rywbeth bach i blesio pob un o'r tri beirniaid.

    Ychydig o wyddoniaeth i foddio Emrys Roberts, ychydig am bysgota ac afon yn abwyd i'r cyn botsiwr T. Llew Jones a chyfeiriad parchus at John Elfed Jones, Cadeirydd y Bwrdd Dŵr, noddwr y Babell Lên a chyfaill y trydydd beirniad, Gerallt Lloyd Owen.

    A bant â'r cart, fel y dwedir yn y parthau hynny.

    Holl gyffro'r creu
    Fe gawn holl gyffro'r creu. Un o'r aelodau, Emyr Oernant, yn cyrraedd un noson gyda chadwyn gyfan o englynion.

    Yr oedd, meddai Dic, "fel ennill y loteri heb brynu tocyn".

    Daeth dydd y Cadeirio a beirdd Tan-y-groes yn astud o gwmpas uchelseinyddion y maes yn gwrando ar T. Llew yn traddodi.

    Mae'r chwysu'n cyrraedd ei uchafbwynt pan fo'r Llew yn cyrraedd y Dosbarth Cyntaf ac heb hyd yn oed sôn am awdl Lleng.

    Mae tair awdl o gwmpas y brig - pob un yn deilwng o'r Gadair.

    Cyrraedd y twlc
    Beth os bu i'r llythyr gyrraedd twlc Blodwen heb i neb ei weld?
    A oedd Blodwen wedi ei ddarllen a chadw'r gyfrinach, yn unol â gorchymyn y llythyr?
    A oedd un o deulu parchus perchyll Tom Troed-yr-aur ar drothwy anfarwoldeb?
    Fyddai helynt Ianws a dwy awdl Aberteifi ddim ynddi o gymharu â hwch yn ennill Cadair y Genedlaethol!

    Ochenaid o ryddhad
    Daeth ochenaid - mochenaid? - enfawr o ryddhad oddi wrth feirdd Tan-y-groes pan ddechreuodd y Llew draethu am rinweddau Lleng - arfer beirniaid yw sôn am y gerdd orau yn olaf, ac yr oedd dwy i ddod.

    Ac os oedd T Llew yn ei morio hi a'r dorf yn eu dyblau gallai gwŷr Tanygroes anadlu'n rhydd o wybod bod deunydd, os nad gwell, fwy addas i ddod.

    Ond fel y dywed Dic, beth byddai'n flwyddyn wan? Beth pe byddai Myrddin ap Dafydd heb gystadlu a Tudur Dylan wedi anghofio postio ei awdl!
    Mae'r dychymyg yn rhedeg reiat.

    Yn ogystal â'r stori ardderchog hon fe gynhwysir awdl ddifyr, ddychanol a hynod ddarllenadwy Lleng yn y gyfrol.

    Mae'n gyfoes iawn, hefyd, yn mynd i'r afael - ymysg pethau eraill - â llygredd ein planed.

    Mwyaf o hwyl
    Petai hynny i gyd ddim digon i wneud Y Grefft o Dan-y-groes yn werth £7, mae yma lawer, lawer, mwy.

    Heb os, dyma'r llyfr a roddodd fwyaf o hwyl a llawenydd imi ers degawdau.

    Cyfrol o farddoniaeth yn nhraddodiad afieithus y gymdeithas â ymgasglodd o gwmpas Bois y Cilie 'slawer dydd.

    Cerddi gan feirdd yn cymryd eu crefft, ond nid nhw eu hunain, o ddifri. Cerddi cyfarch, cerddi diolch, y llon, y lleddf - a llwythi o ddireidi.

    Mae yma lawer iawn o dynnu coes. Cerddi'n ateb cerddi. Tîm Talwrn Tan-y-groes yn pryfocio Tîm Crannog ac ati.

    Teimlwn fy mod yn adnabod cymeriadau fel Emyr Penrhiw, Dai Rees Davies ac Emyr Oernant.

    Cawn bigion o gynnyrch carlamus Stacan yr Awen, tudalen farddol papur bro Y Gambo, ynghyd â chefndir y cerddi.

    Pe dechreuwn ddyfynnu byddwn wrthi am byth. Dyna faled Jon Meirion Jones i gyfarch y Prifardd Dic Jones ar gyrraedd "oed yr addewid".
    Ni wn a ŵyr pawb fod Dic wedi arall gyfeirio a bod gwersyll gwyliau Tipi ar fferm Yr Hendre.

    Bydd eisiau Archdderwydd ar Gymru cyn hir,
    A phwy'n well na'r Hendre, Geronimo'n wir,
    Cadeirio mewn pow-wow, a dawns shwl-di-mwl -
    A phwff o gynghanedd o bîb Sitting Bull.

    Mae Dic yn wrthrych sawl cerdd, fel un Ifor Owen Evans yn dymuno gwellhad buan iddo ar ôl cael clun newydd:
    Mae cymaint ynddo bellach o steinles stîl, wir dduw -
    Mae dipyn yn fwy gwerthfawr fel sgrap nag yw e'n fyw.
    A phan 'mhen hir flynydde fe ddaw i ddiwedd oes
    Nid i Barc Gwyn yr eith e, ond i brecyrs Tan-y-groes.

    Cerddi caeth yw'r mwyafrif yma, gan gynnwys awdl gampus arall ar y cyd i fisoedd y flwyddyn - dau fesur i bob mis, pob un o'r pedwar mesur ar hugain.

    Ni anfonwyd hon i'r un eisteddfod!

    Englynion campus
    Hoffais gerddi byrion Ken Griffiths, sy'n dwyn Sarnicol i gof, ac y mae llu o englynion campus.

    T. Llew Jones yn diolch i John Davies, Aberporth am botel o win cartref gyda dau englyn. Dyma'r olaf o'r ddau:

    Daw gwin ffein o'r Rhein, a'r Rhôn, - rhai da iawn
    Yw'r Bordeaux a'r Mâcon;
    Molir y St. Emillion, -
    Gwell eto yw'r Château Siôn.

    Am ganmoliaeth!

    'Does dim yn y gyfrol nad yw'n talu'n llawn am ei le.

    Hanes y dosbarth
    Ceir gan y Prifardd Idris Reynolds hanes cychwyn y dosbarth a theyrnged i'w syflaenydd, y diweddar Roy Stephens, a fu'n gyfrifol am sefydlu nifer fawr o ddosbarthiadau Cerdd Dafod yng Ngheredigion.

    Darllenais y gyfrol o glawr i glawr heb ei rhoi o'r neilltu unwaith.

    Ni fydd hon yn ymuno â'r cyfrolau barddoniaeth eraill ar fy silffoedd. Caiff aros wrth fy mhenelin yn y stydi - i erlid y falen ymaith.

    Cyfrol ddisylw
    Teimlaf reidrwydd, er hynny, i daro nodyn neu ddau beirniadol, wedi eu hanelu at y cyhoeddwr.

    Oni bai i BBC Cymru'r Byd ofyn imi ei hadolygu mae'n annhebyg y buaswn wedi prynu'r gyfrol, llai fyth ei darllen.

    Wedi ei derbyn, aeth pythefnos heibio cyn i mi gychwyn arni.

    Nid yw clawr y gyfrol, er tlysed y llun, yn cyfleu dim o natur y cynnwys. Yr un modd y broliant difflach.

    Ac erbyn i mi gyrraedd tudalen 120 yr oedd y meingefn yn ymddatod!

    A chofier, nid nofel i'w darllen a'i lluchio yw hon, ond cyfrol i ddychwelyd ati dro ar ôl tro.

  • Adolygiad ar Gwales Cliciwch



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy