BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dathlu Calan Gaeaf
Cawl gwaed, bwyd bwganod a llawer o hwyl
Coginio cawl gwaed, gwneud bwyd bwganod a diodydd dieflig - do, bu'n ddiwrnod dychrynllyd ym Machynlleth i gyd-fynd â chyhoeddi llyfr Cymraeg newydd am arferion Calan Gaeaf.

Fore Iau, Medi 15 2005 yr oedd disgyblion ysgolion Glantwymyn a Chaersws wedi dod at ei gilydd yn Celtica, Machynlleth, i gael blas ar bob math o ddathliadau Calan Gaeaf yn sgil cyhoeddi Dathlu Calan Gaeaf gan Wasg Carreg Gwalch.

Dweud stori - Malachy DoyleRoedd y prifardd Myrddin ap Dafydd, perchennog y wasg, yno gyda Malachy Doyle i gynnal gweithdai adrodd straeon a chreu ar lafar gyda'r plant.

Hefyd, yr oedd Ruth Jên, yr artist o Dal-y-bont, Ceredigion, yn cynnal gweithdai crefft Calan Gaeaf.

Mae'r gyfrol newydd yn liwgar ac "yn llawn o hwyl a sbri arswydus" gan gynnwys syniadau sut i fwynhau ias y noson.

"Mae'r gyfrol yn cynnig llawer o weithgareddau i'r plant eu mwynhau," meddai Gordon Jones, golygydd llyfrau plant Gwasg Carreg Gwalch.

Myrddin ap DafyddDywedodd mai hon yw'r gyfrol gyntaf yng nghyfres 'Hwyl Gŵyl' gan Wasg Carreg Gwalch.

"Ynddi, gallant ddysgu sut i wneud Lantern-Pen-Bwgan; sut i goginio cawl gwaed, gwneud bwyd bwganod a diodydd dieflig; pa wisgoedd gwych y gellir eu gwisgo; pa grefftau y gellir eu creu ar gyfer addurno stafell barti a pha gêmau arswyd y gellir eu mwynhau.

Gwenud lluniau - Ruth Jên"Mae yma straeon ysbryd; sôn am yr arfer o chwarae triciau; cerddi difyr; disgrifiadau o gêmau afalau traddodiadol.

"Ac hefyd, cawn ddarllen pam fod pawb yn dathlu Calan Gaeaf a sut y dechreuodd y cyfan amser maith yn ôl," meddai.

Yn y cyswllt hwnnw, ychwanegodd fod gŵyl Calan Gaeaf a'i holl weithgareddau o dynnu coes a dychryn yn rhywbeth sy'n llawer hŷn na'r chwarae 'lol neu lwc' sydd wedi croesi'r Iwerydd yn ôl yma o'r America yn ddiweddar.


Clawr y llyfr
  • Dathlu Calan Gaeaf, Celebrating a Celtic Halloween. 64 tudalen o hwyl a dehongli. Golygydd: Gordon Jones, pris £6.95
  • Gwybodaeth ar Gwales Cliciwch



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy