BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ar Lan y Môr
Pasport i wlad bell ac agos
  • Adolygiad Glyn Evans o Ar Lan y Môr - Plentyndod ym Môn gan Michael Williams. Carreg Gwalch. £4.50.
Tr'ad yn Tir gan Stan Jones. Y ddau yn gyfle inni loddesta rhywfaint ar ein ers talwm.

Er yn byw yn Eifionydd ers 37 o flynyddoedd hogyn Sir Fôn ydi Michael Williams ac wedi ei fagu gyda'i nain a'i daid ar fferm ar lan y môr yn ne orllewin yr ynys.

Ei atgofion o blentyndod tra gwahanol i heddiw, 70 o flynyddoedd yn ôl, yw cynnwys y gyfrol ddifyr a di-lol, Ar Lan y Môr.

Clawr y llyfrDaeth Michael Williams i sylw ddeng mlynedd yn ôl yn un o'r Cymry cyntaf i ennill arian o bwys ar Y Loteri - er dywedir yma na fu i hynny newid fawr ar ei fywyd.

Beth bynnag am gyfoeth ariannol mae ganddo gyfoeth gwerth chweil o atgofion ac o brofiadau yn deillio o'i fagwraeth mewn cymuned a chymdeithas Gymraeg draddodiadol. Cymdeithas y mae llawer yn rhamantu amdani ac yn gorfoleddu ynddi.

Enwau tai
Ta waeth am hynny, yr oedd yn gymdeithas drwyadl Gymraeg a hynny'n cael ei adlewyrchu yn enwau'r tai er enghraifft.

Y Blew oedd enw anghyffredin cartref taid Michael Williams ac mae'n cynnig yr eglurhad hwn am yr enw hwnnw:
"Byddai'n arferiad erstalwm i gloddio twll yn y ddaear a'i lenwi â chalch poeth ar gyfer adeiladu ac i blastro parwydydd tu mewn.
"I gryfhau'r calch rhoddid blew gwartheg ynddo. Mae'r gymysgfa i'w gweld hyd heddiw ym muriau rhai hen fythynnod ar hyd a lled y wlad.
"Byddai'r ffermwyr yn arfer crafu'r blew oddi ar y gwartheg bedair gwaith y flwyddyn a'i werthu i wneud mortar blew fel y'i gelwid."

Hynna oll a dydy ni ddim wedi troi o ddalen gyntaf y llyfr eto!

Henllys Fawr
Erbyn yr ail ddalen gwyddom i daid Michael Williams fod yn gofalu am geffylau ar un o ffermydd llenyddol fwyaf adnabyddus Cymru, yr Henllys Fawr, cartref W J Griffith awdur Storiâu'r Henllys Fawr a'r dyn a ogleisiodd gymaint ohonom gyda'r Hen Siandri!

Eglwys ar ynys
Un o hynodion y rhan hon o Fôn a nodwedd y bu iddi ran bwysig ym mywyd Michael Williams ydi Eglwys Cwyfan - eglwys a drowyd dros gyfnod o dair canrif yn un a safai ar ynys wedi i'r môr fwyta'r tir o'i chwmpas.

"Dirywiodd yr adeilad yn y stormydd ac aeth yn furddun, ond yn ffodus aeth nifer o hynafiaethwyr cefnog ati i roi to arni a chodwyd mur cerrig o'i chwmpas i'w gwarchod rhag y môr," meddai Michael Williams y bu ei daid yn glochydd yr hen eglwys ar yr ynys ac un newydd fwy hygyrch a godwyd ar y tir mawr.

Arferion gwledig
Mae'r gyfrol yn gyforiog o atgofion am arferion gwledig sydd wedi marw o'r tir bellach - rhai ohonynt heb fod y pethau mwyaf dyrchafol ychwaith. Camp Wil Jones 'Berffro, er enghraifft, oedd poeri sug baco.

"Roedd pob gwas fferm bryd hynny yn cnoi baco siag ac [yr oedd] Wil yn medru poeri sugn baco saith llath yn erbyn gwynt."

Ar aelwyd Taid a Nain Michael Williams yr oedd chwe merch a dau fab i gyd ac "fe gyrhaeddais innau , yn blentyn siawns, ac yn un arall i nain i'w fagu," meddai.

I ysgol Aberffraw yr aeth o -a honno'n daith o dair milltir bob ffordd ar hyd llwybrau ac ar draws caeau. Er, mewn gwirionedd, dim ond i ni heddiw y mae hynny'n ymddangos yn afresymol. Mewn cymunedau gwledig ddeugain a mwy o flynyddoedd yn ôl ni fyddai'n beth mor anarferol.

Y weirarles
Yr un modd bydd hanesion fel dyfodiad y weiarles - radio - gyntaf yn destun rhyfeddod i rai ond yn atgof byw i eraill ohonom a'r teclyn hwnnw yn cael ei ynni o fatri gwlyb - sef potel sgwâr llawn asid - y byddai angen mynd ag ef i rhyw garej neu gyffelyb i'w 'jarjio' unwaith yr wythnos.

Pesgi mochyn
Ar gyfer cynhaliaeth yr oedd mochyn yn anhepgor ar gyfer cadw chorff ac enaid wrth ei gilydd.

"Prynai taid fochyn bach yn un o'r ffermydd cyfagos a dod ag ef adref mewn sach ar ei gefn. Byddwn wrth fy modd yn gweld y mochyn yn cyrraedd a'i glywed yn gwichian wrth ymbalfalu o'r sach . . .
"Eisteddais oriau ar wal y cwt yn gwylio'r mochyn ac yn lluchio crystiau iddo. Mae'n syndod mor fuan y tyfai. Mewn dim deuai'n amser i fynd ag o i sêl yn Nhŷ Croes - a dyna esgus i golli'r ysgol eto. Roedd yna dair milltir o daith. Cerddwn i ar y blaen efo bwced fach yn un llaw a ffon yn y llaw arall i roi slap i'r bwced bob hyn a hyn. Y bwced a blawd ynddi oedd y cymhelliad i'r mochyn fy nilyn. Tu ôl cerddai Taid yn dal rhaff ynghlwm wrth droed ôl y mochyn . . ."

Dyfeisgarwch
Yr un peth na all beidio â gwneud argraff ar unrhyw un sydd wedi troi ymhlith ffermwyr yw eu dyfeisgarwch.

Wrth gwrs yr oedd yn rhaid iddynt fod felly. Yn aml ni fyddai arian wrth law i brynu offer felly byddai'n rhaid coblio rhywbeth at ei gilydd.

A phan fyddai peiriannau fel beindars, tractors ac yn y blaen yn nogio â thorri ni fyddai neb arall wrth law ym mherfeddion gwlad i drwsio a chywiro ond chi eich hun.

Perthynai'r dyfeisgarwch hwnnw i Michael Williams ac y mae sôn am rai o'i 'ddyfeisiadau' yma.

Lluniau difyr
Ganol y gyfrol mae casgliad o luniau difyr er, mae bob amser yn well gen i weld lluniau wedi eu gosod yn y lle perthnasol yn y stori - er yn sylweddoli pam, o safbwynt yr argraffydd ei bod yn hwylusach eu gosod yn docyn gyda'i gilydd.

Er mai cyfrol 'leol' ydi hon y mae hi'n lleol yn yr ystyr gorau ac fe fydd llawer o'r atgofion a'r arferion yn berthnasol i ardaloedd eraill ar hyd a lled Cymru.

Mae'n debyg mai i'r genhedlaeth hŷn y bydd hi o ddiddordeb pennaf gan roi iddynt gyfle i ail fyw pleserau a chaledi a fu.

A does dim byd o'i le yn hynny wrth gwrs - yn enwedig yng nghwmni rhywun mor rhadlon a Michael Williams.

Mae Ddoe yn wlad y mae pawb ohonom yn mwynhau ymweld â hi a dyma basport hwylus i'r wlad bell ac agos honno.

Adolygiad ar Gwales Cliciwch

Cysylltiadau Perthnasol
Tra'd yn Tir - Plentyndod yn Sir Benfro


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy