BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cês Hana
Merch fach yn nwylo'r Natsiaid
Glyn Evans yn sôn am, Cês Hana gan Karen Levine. Wedi ei addasu i'r Gymraeg gan Eigra Lewis Roberts. Gomer. £5.99.


Mae hanes cês Hana yn cychwyn yn Tokyo, Siapan, yng ngwanwyn y flwyddyn 2000.

Mae'n cychwyn hefyd yn nhref Nove Mestro yn yr hen Tsiecoslofacia yn nhridegau'r ugeinfed ganrif.

Clawr y llyfrYng ngwanwyn 2000 derbyniodd Fumiko Ishioka, cyfarwyddwraig amgueddfa Holocost fechan yn Tokyo gês bychan yn dwyn y geiriau "Hanna Brady - Waisenkind" a'r dyddiad geni, Mai 16, 1931 arno.

Anfonwyd y cês yn dilyn cais a wnaeth Fumiko i amgueddfa Auschwitz am fenthyg creiriau i'w harddangos.

O'r munud y'i gwelodd y cês gwag a'r gair a ddisgrifiai Hana fel plentyn amddifad yr oedd Fumiko Ishioka wedi ei chyfareddu a threuliodd dros flwyddyn yn ceisio atebion i'r cwestiynau;
Pwy oedd Hana Brady?
O ble'r oedd hi'n dod?
Sut ferch oedd hi?
Ac yn bwysicach na dim, o gofio o ble daeth y cês, Beth â ddigwyddodd i Hana?

Ddim yn hawdd
Fu canfod yr atebion ddim yn hawdd fel y gwelir oddi wrth y gyfrol deimladwy hon a sgrifennwyd gan newyddiadurwraig o Ganada ac a droswyd i'r Gymraeg gan Eigra Lewis Roberts.

Y cês Dewisodd Karen Levine greu plethiad o ddau gyfnod ar gyfer dweud y stori gan sôn bob yn ail pennod am ymchwil Fumiko Ishioka heddiw a hanes y plentyn o Iddewes, Hana Brady, dan iau Natsiaeth yn Ewrop y tri a'r pedwar degau.

Adroddwyd y stori gyntaf fel rhaglen radio gan CBC yng Nghanada, Hana's Suitcase.

Hynny oherwydd mai yn y wlad honno y mae George, brawd Hana, yn byw erbyn hyn.

Drwg a dyrchafol
Y mae'n stori ysgytiol a dirdynnol yn dangos y natur ddynol ar ei gwaethaf ar y naill law a'i dewraf a mwyaf dyrchafol ar y llall wrth inni ddod yn ymwybodol o'r hanes o safbwynt nid yn unig Hana ond hefyd ei brawd a Fumiko Ishioka y ferch o Siapan sydd am gadw'r cof yn fyw Siapan heddiw am erchylltra'r Holocost.

Mae'n stori wefreiddiol gwerth cael y fersiwn Gymraeg hon ohoni yn darlunio i'n plant a'n pobl ifainc y pwysigrwydd o fod yn gyson effro i arwyddion o ddifrawder ymhlith dynion.

Gwybodaeth ar Gwales Cliciwch

Cysylltiadau Perthnasol
  • Rhagor am y llyfr


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy