BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Rara Avis
Campwaith nofelydd aeddfed
Adolygiad Hafina Clwyd o Rara Avis gan Manon Rhys. Gwasg Gomer. £7.99

I'r dienwaededig (hynny yw y rhai anffodus na chafodd gyfle i wneud Lladin yn yr ysgol) ystyr teitl nofel newydd Manon yw 'aderyn prin'.

A dyna'n union yw prif gymeriad y gyfrol anghyffredin, athrylithgar hon.

Branwen Dyddgu Roberts yw ei henw ac y mae'r enw hwnnw yn ei gosod ar wahân yn y cwm lle mae hi'n byw.

Clawr y llyfr Mae hi'n wahanol am ei bod hi'n siarad Cymraeg, am nad oes ganddi dad, am bod ei mam yn alcoholig, am ei bod yn eneth fach unig a myfyrgar.

Ei hoff fan chwarae yw'r fynwent ger ei chartref. Yn y fan honno y mae hi'n cael cysur.

Magwraeth Cwm Rhondda
Y peth cyntaf a ddaw i'r meddwl yw cofio mai magwraeth yng Nghwm Rhondda gafodd Manon ac felly caiff un ei demtio i gredu mai math ar hunangofiant yw hwn.
Ond na! dim o gwbl.

Wrth reswm y mae hi wedi dibynnu llawer ar ei hatgofion fel plentyn yn Nhrealaw ac wedi "defnyddio" rhai o'r cymeriadau mae'n siŵr.

Ond nid hi yw Branwen. Oherwydd gwyddom i Manon gael ei magu mewn cartref dedwydd a diwylliedig yn ferch i Kitchener a Mair Davies.

Bywyd gwahanol iawn i Branwen druan fach.

Bywyd digysur
Ceir yma ddarlun byw o fywyd y cymoedd yn y 50au pan oedd yr iaith bron â diflannu a'r cwm yn afiach a bywyd yn ddigon digysur yn aml iawn.

Adlewyrchir hyn drwy ddefnyddio peth wmbredd o Saesneg yn y sgwrsio.

Ar y cyntaf yr oeddwn yn meddwl; O! na! - ond rhaid cyfaddef bod y Saesneg a siaredid yn wahanol ac yn lliwgar.

Mewn gwirionedd un o'r nodweddion mwyaf Cymreig yn yr gyfrol yw'r dafodiaith Saesneg. Mae'r Saesneg yn ddoniol ac yn drist ar yr un pryd. E.e.:"Top-an-bottom-every-other we do sleep. More room like 'at. But there's always someone's smelly feet right in my face."

Ac meddai ei ffrind Jonathan wrthi:
"....Still got my royal mug I 'ave. Bit cracked it is. Mikey sold 'is one to Mac the Madman down the road. Two bob the poor bugger paid 'im. My Dad smashed Phil's one on the floor - tryin to pinch some mney from it 'e was.... Still got yours?"
"I didn ave 'one."
"Everybody 'ad one mun."

Pleser pur
Yr oedd darllen tafodiaith ryfeddol y cwm yn bleser pur ac yr oeddwn yn gorfoleddu yng nghlust fain yr awdur.

Y mae'r gystrawen a'r modd y mae'r brawddegau'n cael eu ystumio yn dangos dylanwad y Gymraeg ar eu Saesneg.

Yr ydym yn aml yn cael ein hatgoffa o Wenglish John Edwards.

Ac fel y dywed yr awdur ei hun:
"Y mae hanes yr iaith Gymraeg yn y cymoedd diwydiannol yn hudol. Daethant yn beiriau ieithyddol wedi iddynt gael eu llethu gan fewnddyfodiaid o Brydain benbaladr a thu hwnt.

"Ond hefyd rwy'n cofio clywed fel plentyn hen bobl yn siarad 'patois' neu 'gloran' gwreiddiol y cymoedd. Roeddwn eisiau cyfleu'r holl amrywiaeth ieithyddol ryfeddol hon yn y nofel."

Ac y mae hi wedi llwyddo.

Byddai Branwen Dyddgu'n llawer mwy cartrefol y dyddiau hyn gan fod y Gymraeg yn ffynnu unwaith eto. Dyma lle mae'r elfen o obaith yn bod yn y nofel. Nid oedd modd i Branwen wybod y byddai yna lawer llai o rara vis yn y dyfodol ond mi wyddom ni.

Yn gampwaith
Mae hon yn gampwaith gan nofelydd aeddfed a chraff.

Ni ddarllenais ddim byd tebyg erioed yn y Gymraeg ac yr wyf yn siŵr y bydd hon yn uchel ar restr Llyfr y Flwyddyn am eleni.

Bydd Branwen Dyddgu yn un o gymeriadau mawr y ganrif.

Adolygiad ar Gwales: Cliciwch



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy