BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Elwyn Roberts - marw prifardd seicig
Yr oedd y Prifardd Elwyn Roberts yn ŵr o ddiddordebau eang ac anghyffredin.
Yn wyddonydd wrth ei alwedigaeth yr oedd hefyd yn fardd ac yn ymddiddori mewn ymchwil seicig o bob math.

Yn wyddonydd ifanc dyfeisiodd offer i fesur dirgryniadau ffrwydrad niwclear unrhyw le yn y byd. Dyfeisiodd a bu'n adeiladau organau electronig hefyd.

Yr oedd yn 72 pan fu farw ar Fehefin 9 a hynny yn ei bentref genedigol ym Mhen Llŷn er mai yn Rhydtalog ger Yr Wyddgrug yr oedd yn byw erbyn hyn.

Rai blynyddoedd yn ôl prynodd hen gapel ei febyd yn Llangian ger Pwllheli i'w droi'n dŷ gan wneud llawer iawn o'r gwaith ei hun.

Yr oedd yn un a'i wreiddiau yn ddwfn yn naear Llŷn a dylanwad ei fagwraeth draddodiadol Gymreig yn fawr iawn arno.

Er dywedodd mai ymhen blynyddoedd wedyn y daeth i wir werthfawrogi'r fagwraeth honno.

Ei gysylltiad â Phen Llŷn oedd hanfod dilyniant o gerddi, Pridd, a enillodd iddo Goron Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor yn 1975.

Cyhoeddwyd y cerddi hynny a rhai eraill o'i eiddo mewn cyfrol a gyhoeddwyd toc wedyn.

Yn ystod y cyfnod hwn yr oedd yn wyddonydd gyda'r Bwrdd Trydan Canolog yn Capenhurst ger Caer yn ymchwilio i effeithiau mellt.

Ond daeth i amlygrwydd hefyd oherwydd ei ddiddordeb yn y paranormal neu'r seicig a bu'n ymchwilio'n helaeth i achosion o ysbrydion, i ysbrydegaeth ac i ffenomenau fel hupnoteiddio a iachau. Yr oedd ganddo ddoniau seicig ei hun ac yn dilyn astudiaeth mewn seicoleg a seicotherapi daeth yn gymrawd cymdeithas genedlaethol o arbenigwyr yn y maes hwnnw ac yn seicotherapydd.

Ymddiddorai hefyd mewn meddygaeth amgen a chymrodd batent ar ddull o ddefnyddio perocsid fel meddyginiaeth.

Yn ystod ei ymchwiliadau seicig ymwelodd a sawl lle a aflonyddwyd gan ysbrydion gan dynnu i'r amlwg ar adegau wybodaeth a fyddai'n peri cryn ryfeddod. Bu cyfres deledu yn amlygu'r doniau hyn.

Pwysleisiai mai diddordeb y gwyddonydd oedd ei un ef yn hytrach na rhyw ymhél mympwyol ac yr oedd y gred yng ngoroesiad ein bodolaeth yn greiddiol i'w syniad o fywyd a lle dyn yn y bydysawd.

Yr oedd yn fardd cywrain a thelynegol er, weithiau, oherwydd y gyfeiriadaeth, yn peri trafferth o ran dehongliad.

Wrth ei wobrwyo ym Mro Dwyfor dywedodd un o'r beirniaid, Haydn Lewis, ei fod "yn nhraddodiad peth o ganu gorau Cymru, o gynildeb enbyd Llywarch Hen i dlysni angerddol y penillion telyn."

Aeth o ddim i goleg yn syth o'r ysgol ond dod yn brentis gyda chwmni trydan Manweb ac yr oedd wedi cwblhau ei wasanaeth cenedlaethol gyda'r fyddin cyn troi ei lygaid ar goleg gan raddio gydag anrhydedd o Adran Electroneg Coleg y Brifysgol, Bangor.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy