BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Grwpiau llyfrau ar i fyny
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi llunio pecyn arbennig i helpu grwpiau darllen.
Yn ôl y Cyngor mae bri mawr ar grwpiau darllen yng Nghymru y dyddiau hyn a grwpiau newydd yn cael eu sefydlu ledled y wlad.

Maen nhw'n cyfarfod mewn lleoedd mor amrywiol â llyfrgelloedd, tafarndai a chartrefi!

Clawr y llyfr Er mwyn cynorthwyo arweinwyr y grwpiau hyn gofynnodd y Cyngor Llyfrau i Bethan M. Hughes o Wasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych baratoi pecyn adnoddau arbennig.

Bydd y pecyn, Rhannu'r Wefr, yn gymorth i unrhyw un sy'n dymuno sefydlu grŵp newydd, yn ogystal â chynnig syniadau newydd i grwpiau sydd eisoes wedi eu sefydlu.

"Mae grwpiau darllen yn cynyddu yn eu poblogrwydd unwaith eto," meddai Phil Davies ar ran y Cyngor Llyfrau, "ac rydym yn falch iawn o gael paratoi'r pecyn yma ar gyfer yr arweinwyr."

Daw'r syniadau a'r cynghorion ymarferol o brofiad uniongyrchol o ymwneud â grwpiau darllen, a bydd pawb yn siŵr o fwynhau'r ymarferion gwreiddiol a hwyliog sydd yn y pecyn.

"Mae pawb sy'n aelod o grŵp darllen yn sôn am yr hwyl a'r pleser y maent yn ei gael o ddarllen ystod eang o lyfrau. A dyma nod y pecyn - sef cyflwyno'r pleser o ddarllen," meddai Bethan M. Hughes.

"Ambell waith y mae'r aelodau yn darllen llyfr na fyddent byth wedi breuddwydio ei ddewis - ac yn ei fwynhau. Dyma gyfrinach y grwpiau darllen, mwynhau'r cyfle i arbrofi a thrafod."

Am fwy o fanylion am y pecyn grwpiau darllen cysylltwch â Bethan Hughes ar 01824 708207 [email protected].



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy