 |
Smôc Gron Bach Argraffiad newydd sbon 2005
Adolygiad Lowri Rees o argraffiad newydd o Smôc Gron Bach. Y Lolfa. £6.95.
Mae'r profiad o ddarllen y nofel Smôc Gron Bach yn parhau yn fyw yn y cof er iddi gael ei chyhoeddi gyntaf dros ddeng mlynedd yn ôl, ym 1994 - a minnau yn dal yn fyfyrwraig ar y pryd.
Ac er bod hwnnw'n gyfnod anodd iawn cydio mewn llyfr a'i ddarllen i'w ddiwedd, llwyddodd Smôc Gron Bach i ddal fy niddordeb o'i dechrau i'w diwedd a braf iawn oedd gweld Y Lolfa yn argraffu'r nofel o'r newydd yn awr gan fy sbarduno i droi at y gwaith eto i weld a yw'n dal i blesio.
Yr apêl yn parhau Ac, yn wir, mae'n apêl yn parhau a phwnc y nofel mor berthnasol ag erioed yn ymdrin â thrais, rhyw a llosgach.
Mae'r stori yn troi o gwmpas cymeriadau stryd Crychlyn Uchaf, pedwar tŷ^ traddodiadol Gymreig - mewn rhes, gyda dwy ffenest llofft, ffenest barlwr i lawr y grisiau, a drws ffrynt i bob un ac, fel y dywedir yn y broliant, gyda chymysgfa dra gwahanol o gymeriadau yn byw ynddynt.
Colli mab Caiff y darllenydd ei gyflwyno'n araf i holl gymeriadau Crychlyn Uchaf gan gychwyn gyda Tom a Martha Ellis yn rhif pedwar sydd wedi bod yn briod am bymtheng mlynedd ar hugain , ac wedi colli eu mab, Gron Bach, yn ystod y cyfnod hwn.
Ceir disgrifiadau byw iawn o fywyd y ddau - nhw sy'n cynrychioli'r Cymry cyffredin yn y nofel.
"Yn y munudau hyn, roedd amser yn aros yn stond i Tom. Wedi'r ddefod o lunio llinyn tew brown ar ei bapur Rizla, a rhoi llyfiad sydyn â blaen ei dafod i gaethiwo'r baco yn ei smôc, roedd yn amser am y taniad cynta'. "Ni syflai ei lygaid o ryw smotyn anweledig filltiroedd lawer draw. Yr unig arwydd o fywyd o'i gwmpas oedd ambell gwmwl o fŵg a phan grwydrai ei feddwl at Gron Bach, gloywai'r llygaid am ennyd a deuai'r hunllef y nosweithiau enbyd hynny i gof."
Drwy Tom cawn ein cyflwyno i Padi, rhif dau, llipryn main, tal, hefo dannedd cwningen, plorod a sbectol pot jam, ac mae'n synnu'r darllenydd pan fu iddo ddenu llygad Tracey, merch y Cynghorydd Winstone Mason.
Yn rhif un mae Magi Sent a'i mab Robat John yn byw - y ddau yn berchen siop y pentref.
Bron nad yw'r darllenydd yn cydymdeimlo â'r mab am iddo fod yn byw dan amgylchiadau eithaf sinistr a'i fagwraeth wedi creu dyn gwan sydd yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn y cwt yn sbecian gan fyw mewn byd o freuddwydion ffôl am Tracey.
Ond mae landlord rhif dau a rhif pedwar, y Cynghorydd Mason, yn arglwyddiaethu dros y rhes i gyd ac mae cynlluniau a'r droed i droi Crychlyn Uchaf yn stiwdio deledu a hynny heb unrhyw ystyriaeth i fywydau a theimladau unigolion y rhes.
Yn amlwg mae'r diweddar Eurig Wyn wedi defnyddio a chreu gwahanol gymeriadau nodweddiadol o'r gymdeithas gyfoesl.
Mae gan bob ardal ei Tom Saer ei hunan, y dyn call, cyfrifol, egwyddorol, y Magi Sent sydd yn bowdwr a cholur i guddio hen bechodau ei bywyd yn arbennig ei pherthynas losgach â'i mab, ac, wrth gwrs, y Winstone Mason, y cynghorydd sy'n credu bod arian yn prynu pob dim ac yn teyrnasu dros y rhes a'r ardal.
Mae Smôc Gron Bach yn nofel afaelgar, hawdd ei darllen.
Ac er bod deng mlynedd ers ei chyhoeddi gyntaf mae'n parhau yn gwbl gyfoes a pherthnasol.
Cefais . fwynhad mawr o'i darllen eto a phrofi'r un wefr ag arfer wrth ddarllen unrhyw beth gan y diweddar Eirug Wyn.
Gwerthu'r cyfan Gwerthwyd yr holl gopïau o'r argraffiad cyntaf o fewn ychydig fisoedd iddo gael ei gyhoeddi a bu'r llyfr allan o brint ers hynny.
Cafodd y nofel ymateb gwych pan y'i cyhoeddwyd yn Awst 1994 gyda Golwg yn ei disgrifio fel: "Nofel dditectif, stori serch erotig, dadansoddiad cymdeithasol, sylwebaeth ddeifiol ar stad ein eiconau cenedlaethol cyfoes, comedi, trasiedi... Mae'r hyn sy'n weddill ar y diwedd yn codi'r nofel i lefel uchel iawn sy'n llwyddo i gyffwrdd yn emosiynol."
Dywedodd Y Lolfa i nifer o ysgolion fod yn holi am gopiau Yn sgil y ffaith fod nofel arall gan Eirug Wyn, I Ble'r Aeth Haul y Bore ar faes ysgolion uwchradd.
Yn gynharach eleni bu'n rhaid i'r Lolfa ail-argraffu cyfrol goffa Eirug Wyn, Cofio Eirug wedi i'r 2,000 copi a argraffwyd gael eu gwerthu yn syth.
Cysylltiadau Perthnasol
Teyrnged i Eirug Wyn

Buddugoliaeth Tyddewi

 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|