 |
John Roberts Williams Cyfarfod i dalu teyrnged i newyddiadurwr
Talwyd teyrnged i bob agwedd o waith y newyddiadurwr a'r darlledwr John Roberts Williams mewn cyfarfod yng nghanol ei hen gynefin yn Eifionydd ddydd Sadwrn, Mai 7, 2005.
Y tair agwedd o'i waith a gafodd y sylw pennaf oedd:
- Ei gyfraniad fel newyddiadurwr blaengar, yn bennaf fel golygydd Y Cymro yn ystod cyfnod hynod o lewyrchus yn hanes y papur hwnnw.
- Ei gyfraniad arloesol ym myd ffilm, yn arbennig gyda'i ffilm Gymraeg werthfawr Yr Etifeddiaeth
- Ei gyfraniad ym myd teledu a darlledu yn gyffredinol.
Y tri siaradwr oedd: Yr Athro Aled Gruffydd Jones o Adran Hanes Prifysgol Cymru Aberystwyth; y Dr Gwenno Ffrancon, darlithydd mewn ffilm ym Mhrifysgol Cymru Bangor a Geraint Stanley Jones, cyn bennaeth S4C a'r BBC yng Nghymru.
Trefnwyd a llywyddwyd y cyfarfod gan y Dr Meredydd Evans, un o gyfeillion mynwesol John Roberts Williams ac un a fu'n cydweithio ag ef ar Y Cymro.
Darllenwyd rhannau o'i waith gan John Ogwen a Maureen Rhys.
Pwysigrwydd bro Cyfeiriodd y Dr Evans at bwysigrwydd bro ei febyd a'i fagwraeth yn Eifionydd i John Roberts Williams.
"Aeth a'r lle yma efo fo i ble bynnag y bu o'n byw weddill ei oes - gwerthoedd yr ardal hon a'i cynhaliodd," meddai.
Y newyddiadurwr Disgrifwyd John Roberts Williams y newyddiadurwr fel "un o leisiau mwyaf treiddgar a chreadigol Cymru'r ugeinfed ganrif" gan yr Athro Aled Gruffudd Jones wrth dalu teyrnged hael i gyfraniad newyddiadurol John Roberts Williams.
Cyfeiriodd yn arbennig at ei flaengarwch a'i weledigaeth arbennig yn ystod ei gyfnod yn olygydd Y Cymro a'i reddf i fedru llunio papur oedd yn apelio at bobl.
"Yr oedd o hefyd yn un o'r golygyddion cyntaf i gymryd ffotograffiaeth o ddifrif," meddai.
Ac oherwydd eu parch personol tuag ato llwyddodd hefyd i ddenu newyddiadurwyr a sgrifenwyr blaenllaw i gyfrannu i'r papur.
Creodd, meddai, lwyfan newydd i'r iaith Gymraeg a hynny ar adeg dyngedfennol yn ein hanes.
Y dyn ffilm Wrth olrhain ei gyfraniad arloesol ym myd ffilm disgrifiodd y Dr Gwenno Ffrancon ffilm a wnaeth John Roberts Williams mewn partneriaeth â ffotograffydd Y Cymro, Geoff Charles, fel cofnod gwerthfawr o ffordd o fyw oedd yn prysur ddiflannu ac o'r etifeddiaeth Gymraeg a oedd erbyn hynny "yn cael ei llesteirio gan ddylanwadau estron."
"Camp fawr John Roberts Williams oedd darlunio a chofnodi bywyd oedd yn cael ei sathru dan draed gan ruthr amser," meddai.
Teledu a radio Atgofion dwys a difrif am "uchelgais, obsesiwn a dawn" John Roberts Williams fel newyddiadurwr teledu oedd gan Geraint Stanley Jones.
Bu'n sôn am ei gysylltiad â'r fenter fyrhoedlog honno, Teledu Cymru, ac wedyn ei gyfraniad gyda Heddiw a rhaglenni teledu eraill y BBC gan orffen ei gyfnod gyda'r gorfforaeth yn dod a bywyd newydd i radio Cymraeg fel pennaeth y BBC ym Mangor lle y'i hanfonwyd, meddai, "i atgyfodi ysbryd Sam Jones" .
Ymhlith ei rinweddau, meddai, yr oedd "eangder meddwl rhyfeddol o soffistigedig" ac elfen o ddoniolwch.
"Yr oedd ganddo hefyd, y ddawn i ysbrydoli pobl ifanc," meddai.
"Y mae'r profiad o weithio efo fo wedi cyfoethogi eu bywydau a gadawodd ei ôl ar genhedlaeth ohonom ni," ychwanegodd.
Hyd yn oed wedi ei ymddeoliad arhosodd dylanwad y gŵr "mwyaf swil a phreifat" hwn gyda'i sgyrsiau Dros fy Sbectol.
"Daeth Dros fy Sbectol yn sefydliad radio oedd yn rhoi cyfle iddo aros yn y dirgel a bod yn gyhoeddus yr un pryd," meddai.
Brogarwr Cafodd y cyfarfod ei gloi gan Dyfed Evans, un o gyn gydweithwyr John Roberts Williams a benodwyd ganddo yn ohebydd ar Y Cymro.
Cyfeiriodd yntau hefyd at frogarwch hynod John Roberts Williams.
"Er iddo fyw mewn ardaloedd eraill yma yr oedd calon John gydol yr amser," meddai.
A chanddo ef y cafwyd, mae'n debyg, stori orau'r cyfarfod am gynrychiolydd yr hen Herald of Wales yn gwerthu copïau o'r Cymro ar faes Eisteddfod Caerffili 1950 trwy ddangos llun dalen lawn o Elfed, 90 oed, gan gweiddi: "Y Cymro, Y Cymro. Read all about it. He might be dead by next year."
"Ond fe fu Elfed fyw dair blynedd arall fel mae'n digwydd!," meddai Dyfed.
Lluniau o'r cyfarfod
Cysylltiadau Perthnasol
Gwenno Ffrancon yn trafod Yr Etifeddiaeth

Teyrnged Geraint Stanley Jones

 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|