BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cof Cenedl XX - adolygiad
Mynd a dod yng Nghymru
Cof Cenedl XX. Ysgrifau ar Hanes Cymru. Golygydd, Geraint H Jenkins. Gomer £8.50.

Clawr y llyfr Pwy fyddai wedi meddwl fod beicio unwaith yn cael ei weld fel ffordd o "wareiddio" Cymru.

Meddai Steven Thompson yn ei ysgrif, Chwiw Feicio'r Cymru'r 1890au:
"Yr oedd yr honiad hwn yn arbennig o berthnasol yng nghyd-destun y cymunedau newydd a ffurfiwyd yng nghymoedd de Cymru a'r bygythiad ymddangosiadol i foesau preswylwyr y cymoedd gan eu hamgylchiadau."

Diolch i ddiddordeb newydd mewn beicio "yr oedd yn bosibl," meddai, "i'r bobl hyn adael y cymoedd culion, llychlyd a gorlawn ac i fwynhau ardaloedd gwledig llesol a gwyrdd."

Cryfhau corff ac ysbryd
Dywed mai'r disgwyl oedd y byddai glowyr yn dychwelyd i'w gwaith wedi penwythnos o feicio yn wŷr cryfach, bywioach ac iachach.

"Yn ôl cefnogwyr beicio, cyfrwng i gryfhau'r corff a'r ysbryd ydoedd. Drwy feicio gellid ymlid iselder ysbryd a datblygu cryfder corff a meddwl a fyddai'n galluogi gweithwyr i wynebu unrhyw dasg," meddai.

Ochr arall y geiniog oedd fod "ceffyl y dyn tlawd" yn gyfle hefyd drigolion y wlad, hwythau, ffoi rhag unigedd y bywyd gwledig i brysurdeb y trefi.

Creu pobl heb draed!
Nid pawb, fodd bynnag, oedd yn canu clodydd y beic:
"Yn ôl un gwyddonydd, Dr Jung o Geneva, byddai hil newydd o ddynion yn esblygu o ganlyniad i feicio."
Ac yn un â damcaniaeth Darwain " byddai traed beicwyr yn diflannu, y byddai eu breichiau yn ymestyn o ganlyniad i lywio a brecio, ac y byddent yn dod yn gefngrwm oherwydd eu tuedd i bwyso dros y cyrn."Yn ôl y bobl hyn yr oedd beicio "yn fygythiad i ddyfodol yr hil ddynol," meddai Steven Thompson sy'n ddarlithydd yn Adran Hanes Prifysgol Cymru Aberystwyth.

Hamddena a chystadlu
Bid a bo hynny, tyfodd cymdeithasau beicio fel madarch ymhlith dosbarth canol deheudir Cymru.

Jimmy Michael a'i hyfforddwr, Choppy Warburton Yr oedd apêl beicio i'r dosbarth gweithiol rywfaint yn wahanol gyda'r pwyslais yn eu plith hwy ar gystadlu yn hytrach na hamddena.

A bydd yn newyddion i lawer ohonom, i Gymry fod yn gystadleuwyr tra llwyddiannus.

Ymhlith y llwyddiannus yr oedd gweithiwr glo "swil a thawedog" o'r enw Arthur Linton a drechodd rai o feicwyr gorau Ewrop a dod yn bencampwr byd!

Bu Jimmy Michael o Aberaman a fedyddiwyd "the Welsh midget yn fwy llwyddiannus fyth gan ennill yn ôl y New York Times "dazzling stacks of American dollars".

Dihangfa mewn ystyr wahanol iawn i un y dosbarth canol oedd beicio i'r rhai:

"Am gyfnod ystyrid beicio, megis bocsio, yn ddull o alluogi dynion dosbarth gweithiol i ddianc rhag eu cefndir . . . o ddianc rhag tlodi a chaledi eu hamgylchiadau ac i ennill mwy o arian nag oedd bosibl yn eu gwaith beunyddiol."

Chwyldro'r haiarnfarch
Dull arall o gludiant sy'n cael sylw yn y rhifyn hwn o Cof Cenedl yw'r "haiarnfarch".

Nid oes amheuaeth fod dylanwadau'r trên yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn bell gyrhaeddol iawn gyda 1,429 milltir o reilffyrdd yn cael hagor yng Nghymru rhwng 1840 ac 1870!

"Rhan o apêl y rheilffyrdd oedd eu bod yn dwyn manteision i bob carfan gymdeithasol, o'r aelod seneddol a fyddai'n teithio'n ôl ac ymlaen i Lundain, i'r masnachwr a dderbyniai nwyddau rhatach o lawer.

"Byddai tenantiaid ffermydd yn elwa'n fwy na neb yn sgil lledaenu dulliau newydd o amaethu," meddai Hywel Gethin Rhys o sy'n fyfyriwr ymchwil yn Ardan Hanes Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Yr oedd manteision i hyd yn oed bregethwyr yn teithio i gadw cyhoeddiadau:
"Arbedent wythnosau mewn blwyddyn . . . yr hwn a wastreffid wrth deithio."

Dim rhyfedd i ddyfodiad y trên gael ei ystyried yn chwyldro a drodd y wlad ben i waered gyda phob math o gynlluniau uchelgeisiol - fel cysylltu'r Rhyl ac Aberdâr yn cael eu gwyntyllu!

Pwyso a mesur y Diwygiad
Chwyldro tra gwahanol ond un cyn hynoted ac mor ysgytwol yn ei ffordd sy'n cael sylw Yr Athro D Densil Morgan - diwygiad crefyddol 1904-05.

A diddorol yw'r sylw nad oedd, pan ddaeth, mor annisgwyl ac y byddai rhywun sy'n anghyfarwydd a'r cyfnod wedi tybio heddiw.
" . . . yr oedd yn amlwg fod pobl wedi paratoi ar ei gyfer," meddai'r Athro Morgan o Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Bangor.

Evan Roberts yng Nghemaes, Mehefin 1905 Mae o'n tynnu sylw hefyd am y rhan a chwaraewyd gan y wasg:

"Y ffaith fod y wasg wedi rhoi sylw i'w brofiadau syfrdanol a droes Evan Roberts o fod yn bregethwr ifanc dibrofiad a dinod i fod yn arweinydd, i bob golwg, y Diwygiad hwn."

Yn hyn o beth codir pwnc sy'n un dadleuol hyd y dydd heddiw, ynglŷn â thuedd gwasg i fflamio digwyddiadau wrth ohebu amdanyn nhw.

Methiant hefyd
Ond os llwyddodd Y Diwygiad i gyffroi'r Cymry gellid dadlau mai aflwyddiant a fu yn ddiwinyddol ac yn gymdeithasol.

"Ni chododd cenhedlaeth newydd o feddylwyr Cristnogol yng Nghymru yn sgil y Diwygiad ac ni chynhyrchwyd to newydd o ddiwinyddiaeth o'r radd flaenaf," meddai'r Athro Morgan gan ychwanegu:

"Yr un mor ddifrifol, onid mwy difrifol na'r diffyg athrawiaethol oedd methiant y Diwygiad i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol a gwleidyddol Cymru ar y pryd."

Siôn a Iolo
Chwe chyfraniad i gyd sydd yn y gyfrol hon gyda dau o gymeriadau hynotaf ein llên a'n chwedloniaeth ymhlith y rhai sy'n cael sylw.

Yn ei ysgrif ef mae M Paul Bryant-Quinn, cymrawd ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig yn edrych ar astrusrwydd aml-ganghennog Siôn Cent ac y mae Geraint H Jenkins yn sôn am gysylltiad Iolo Morganwg a'r mudiad Undodaidd.

Ceri Davies, o Adran y Clasuron a Hen Hanes Prifysgol Abertawe yw awdur yr erthygl sy'n weddill, Polidore Vergil, Syr John Prise ac Urddas y Cymry.
gan Glyn Evans

Cysylltiadau Perthnasol
Dathlu ugain mlynedd o Cof Cenedl


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy