 |
Symudliw Byr ac i bwrpas
Gwerthfawrogiad Lowri Wyn Roberts o Symudliw gan Annes Glynn. Gwasg Gwynedd.
Yr oedd Symudliw , cyfrol fuddugol y fedal ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd y llynedd gan Annes Glynn yn un cwbl wahanol i'r hyn a gafwyd o'r blaen. Rydym oll yn gyfarwydd a'r stori fer - yn enwedig y clasuron gan rai fel Kate Roberts ond nid yw'r yw'r stori feicro a'i hysgrifennu'n gynnil mor gyfarwydd.
Hynny a wnaeth Symudliw, yn wahanol y gymysgedd yma rhwng cerdd a stori fer gyda'r pwyslais yn fwy nag erioed ar ddethol geirfa'n ofalus.
Yn wahanol i'r stori fer gyffredin nid oes unrhyw wastraff i'w weld yng ngwaith Annes Glynn ond ar y llaw arall does yna ddim, ychwaith, gyfle i'r awdur ddatblygu plot o fewn pob stori unigol sy'n aeddfedu wrth ddarllen ymlaen fel y gwelwn yn y stori fer draddodiadol.
Gall hyn am amharu'n fawr iawn ar farn rhai wrth ddarllen y gyfrol gan na theimlant eu bod yn cael gafael a blas pendant ar y storïau oherwydd eu byrder.
Peth arall i'w nodi yw cymysgedd arddull yr awdur, gwelwn gyflwyno nifer o'r storïau ar ffurf sgwrs ond mae eraill ar ffurf llythyr.
Ychwanega hyn amrywiaeth i'r gyfrol a rhoi rhywbeth sy'n addas ar gyfer dant pawb.
Hyd yn oed os nad yw pob stori yn taro deuddeg mae'n hynod o debyg y bydd nifer o rai eraill yn plesio'r darllenydd.
Ond wedi dweud hynny mae'n bosibl y bydd nifer sy'n ffafrio'r dulliau traddodiadol yn cwestiynu pwrpas y math yma o ysgrifennu ond, fy hun, rwy'n ffyddiog y byddent yn cael tröedigaeth ar ôl cael blas ar waith crefftus Annes Glynn.
Newidiadau dychrynllyd Sôn y gyfrol yma am y newidiadau dychrynllyd sy'n digwydd yn ein cymunedau heddiw a'u heffaith ar y gymdeithas Gymreig ac ar agweddau pobl. Egyr y gyfrol gyda dyfyniad sy'n graidd i'r holl storïau: Er anwadalwch byd, Yr un yw dyn o hyd.
Esbonia'r dyfyniad nad yw dyn yn newid mewn gwirionedd er bod y byd yn prysur ddatblygu o'i gwmpas a rhydd hyn deimlad o ofn i mi gan nad oes gobaith i ddyn newid er gwell o'r herwydd.
Tri phennawd Yn ogystal â'r dyfyniad agoriadol ceir tri phennawd sy'n gwahanu'r storïau. Efallai fod y penawdau hyn yn adlewyrchu'r holl fathau o newid sy'n digwydd o fewn ein cymdeithas ac yn cyflwyno'r storïau o ran eu pwysigrwydd, ond nid wyf yn sicr beth oedd pwrpas defnyddio'r penawdau i fod yn gwbl onest.
Heb amheuaeth rwy'n siŵr y byddwch oll yn teimlo'n drist wrth ddarllen y gyfrol yma am gyflwr y gymdeithas heddiw a ffawd y dyfodol.
Mae'n sefyllfa druenus gyda'r iaith yn dirywio, Saeson yn herio ein pentrefi ac agweddau'r ifanc yn newid o fod yn ddiniwed i fod yn heriol.
Mae hi'n bechod gweld pobl yn torri eu calonnau wedi dirywiad perthynas a pheth truenus yw gweld merch ifanc yn ceisio ymddwyn a bod fel oedolyn cyn ei hamser - ond mewn realiti hynny sy'n gyffredin yn ein gwlad heddiw a dyma'r realiti y mae Annes Glynn yn ei bortreadu.
Cyfleu yn gynnil Llwydda i gyfleu y newidiadau hyn mewn ffordd gynnil sy'n gwneud ichi feddwl ac ystyried yn bellach ond hefyd trwy ddefnyddio iaith sy'n addas ar gyfer y cyd destun ac sy'n galluogi'r darllenwyr i ddeall ei phwynt.
Er enghraifft, ceir defnydd pwrpasol o fratiaith Saesnig yn ambell stori fel Yn erbyn y ffactorau er mwyn pwysleisio'r agwedd ddigywilydd sy'n cael ei ddangos tuag at yr henoed heddiw:
"Don't understand you, Grandad. It's time you were in bed like the rest of this shitty Welsh village."
Yn ogystal, trwy ddefnyddio'r iaith Saesneg dengys yr awdur effaith y mewn lifiad ar ein cymunedau a'n hiaith.
Awgryma'r dyfyniad "We're the new f*****g kids on the block now" mai dyma'r dyfodol bellach. Mai hyn fydd y 'norm' a mae hynny'n ergyd i chi.
Ymhlith y storïau, fy ffefrynnau oedd, Ar werth, Iaith y Farchnad, Rhestru'r blaenoriaethau, Yn erbyn y ffactorau a Tu chwith.
Mae Ar werth, Iaith y farchnad ac Yn erbyn y ffactorau i gyd yn rhannu'r un thema o Saeson yn symud i gefn gwlad ac yn herio ein ffordd o fyw.
Apêl y storïau hyn yw eu bod yn berthnasol iawn i mi sy'n byw mewn ardal hardd sy'n bot mêl i ymwelwyr Saesneg sydd wedyn yn dewis symud yno gan gwyno ar ôl ein bod yn siarad Cymraeg!
"Why do they insist on talking to us behind our backs in that ridiculous way."
Iaith y mwyafrif Clywais innau yr un gwyn sawl gwaith, ond erbyn hyn mae'r sefyllfa'n dechrau newid yn fy mhentref i wrth i'r Saesneg droi'n iaith y mae'r mwyafrif.
Hefyd, gwelaf barch yr ifanc tuag at henoed y gymdeithas yn dirywio. Gallaf uniaethu'n llwyr â geiriau Annes Glynn.
Rhaid imi gyfaddef nad oeddwn yn edrych ymlaen at baratoi'r adolygiad hwn ond o fynd ati gwir fwynheais ddarllen y gyfrol hon.
Nid yw'n un anodd i'w ddarllen ac mae'n berthnasol i bawb ohonom. Eisteddwch a mwynhewch hi.
Efallai ei fod yn ymddangos yn syml ac yn arwynebol ar yr olwg gyntaf, ond coeliwch chi fi mae'n gyfrol ddwys sy'n gwneud ichi ystyried cyflwr a dyfodol ein gwlad yw hon.
Cysylltiadau Perthnasol
Eisteddfod Casnewydd

Adroddiad o seremoni'r Fedal Lenyddiaeth

Holi Annes Glynn

 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|
 |
 |
|  | |  |  |  | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
 |
 |
|
|