BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Penillion Huw
Ei morio hi efo sgotwr o Lŷn
Adolygiad Ioan Mai Evans o Penillion Huw gan Huw Erith. Cyfres Barddoniaeth Boced Din. Gwasg Carreg Gwalch. £3.50.

Teitl syml i lyfr Huw Erith sydd newydd ei gyhoeddi yn y gyfres, Barddoniaeth Boced Din gan Wasg Carreg Gwalch.

Ar y clawr mae llun o Huw lygatlas, bryd golau a'i beint yn ei law.

Yn Uwchmynydd yng nghantref eithaf penrhyn Llŷn mae Huw yn ymgorfforiad o'r hen wehelyth a adnabu Cynan gynt pan ganodd :
"A'r bobl fel eu teios yn hoff ac yn hen,
"Yn araf eu gwg ac yn araf eu gwên."

Clawr y llyfr Ond beth welodd Huw ym Mhen draw'r byd ar draeth Aberdaron:

Yn Aberdaron ddiwedd Awst
Y cwrddais i â Menna,
Yn ei bicini ar y traeth,
Ac yn ei llaw banana.

Fe ddaeth hi acw ata'i fyw
Bu acw trwy y gaeaf,
A thra bu hi, rydw i'n siŵr
Cafodd ddeg affair o leiaf.

O fewn yn agos i drigain dalen cewch benillion amrywiol fel yr uchod a nifer o englynion fel hwn i'w ferch Elen ar ddathlu ei phen-blwydd yn ddeugain oed:

Darfod wna gwêr pob seren - i ninnau
Daw llen llwyd niwlen,
Ond ein haul wrth fynd yn hen,
Yw dy olau di Elen.

Beth yw diwrnod i chwi a minnau? I'r pysgotwr unig sydd yn adnabod swnt Enlli, a'r môr a'i drochion neu ei lyfnder dyma a ddywed Huw:

Yn ddall, rwy'n llywio allan - daw yn llwyd,
Yn lli, a dry'n arian,
Golau a ddaw o gilan,
A daw dydd fel doe ar dân.

Mae ganddo adran i nifer o ddiarhebion a chwpledi yn ôl arfer hen feirdd Llŷn. Onid gwir - mae pob un yn mofyn mwy - ond ai hyn sy'n eich sobri yn ei gwpled:

Yr ateb i bob sobri
Yw mwy o win am wn i.

O ydi, mae Huw yn deall yn iawn beth yw plwc ar y lein ond dim sgodyn. Medr yntau fod mor bryfoclyd a'r pysgod.

Sawl math o bobl sydd medda chi? Mae Huw, yn ddireidus, yn gadael i'r Ocsiwniar ateb fel hyn:
Mae tri math o bobol 'ngwas i
Meddai ocsiwniar tafod chwim,
Mae na bobol sy'n medru cyfri
Ac mae na rai na fedra nhw ddim.

Fel y gellid disgwyl mae'n bur gartrefol gyda ffurf yr hen benillion

Merch hudolus ddaeth a'm rhwydo.
Gan ei gwên mi ges fy swyno,
Ac fel hanes pob pysgodyn,
Wedi'm dal ni nofiais wedyn.

Pa fardd gwlad fyddai'n dewis acupuncture yn destun?

Mae yn help yn stopio smocio
Maent yn dweud fod hynny'n ffaith,
Ond nid dyna ydi'r broblem
Dwi di stopio lawer gwaith.

Am £3.50 cewch lyfryn gan y pysgotwr o Aberdaron y dywed y broliant amdano, "Mae'n dalyrnwr, stompiwr a pherfformiwr sy'n gallu gwneud i gynulleidfa ei morio hi hefyd."



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy