BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Fo a Fi Gyda'i Help Hi
Dibynnu ar y cof wrth deithio gyda Dewi Pws
Adolygiad Arwel Rocet Jones o Fo a Ffi Gyda'i Help Hi Teithiau Dewis Pws. Golygydd, Lyn Ebenezer. Carreg Gwalch. £7.

Dyma lyfr penigamp i'w brynu i unrhyw un sydd wedi mwynhau'r gyfres deithio Byd Pws ar S4C.

Fe gewch rhwng cloriau'r gyfrol hon gofnod o helyntion Dewi Pws Morris ar ddeunaw o'r teithiau a ffilmiwyd ar gyfer y gyfres honno.

Clawr y llyfrY prif gymeriad ei hun yw'r cyntaf i gydnabod mai gwaith tîm yw'r cyfan a dyna arwyddocâd y teitl a'r rhagymadroddion a geir ganddo Fo - Alun Hughes, y gŵr camera - a Hi, Rhian Williams, y drefn y tu ôl i'r cyfan.

Hoffter o bobl
Mae'r gyfrol drwyddi draw yn dystiolaeth i allu Dewi Pws i gyfathrebu gyda phobl, nid yn unig trwy gyfrwng iaith ond trwy gyfrwng ei gymeriad a'i hiwmor wrth reswm - ella ei bod hi lawn cystal nad ydy rhai pobl yn deall rhai o'i jôcs ...

Dyna un o'r rhesymau y tu ôl i lwyddiant ei gyfresi teithio wrth gwrs - y ffaith ei fod yn gallu gwneud i bobl deimlo'n gwbl gartrefol o flaen camera neu hyd yn oed lwyddo i'w cael nhw i anghofio'n gyfan gwbl fod y camera ar y cyfyl. Mae ei hoffter o bobl yn dod yn amlwg ar bob tudalen o'r llyfr ble bynnag mae o, yn yr oerfel eithaf neu yn y gwres mwyaf eithafol - o'r Ynys Las (nid yr un tu allan i Aberyswtyth) i Darwin.

O'r llefydd mwyaf egsotig a'r dyddiau hamddenol i ddyddiau hir a diflas o ddisgwyl am awyrennau.

Ond mae hefyd yn dangos y penderfyniad a'r dewrder corfforol sy'n gyrru Pws i gerdded pedwar copa ar ddeg yn Eryri neu Crib y Cullin yn yr Alban.

Ond pobl sy'n ganolog waeth pa mor bwysig neu gyffredin ydyn nhw - bu'n siarad â'r Crocodeil Dundee gwreiddiol a chyda Brenin y Zulus - a phlant wrth gwrs . . . mae'r plant yn tyrru ato ymhob man.

Ymweld â'r Aboriginie
Yn bersonol fy hoff ysgrif i yw honno am ei daith, yng nghwmni Rod Ansell (Crocodeil Dundee), i ymweld â'r Aboriginie.

Mae hi'n ysgrif sy'n llawn cydymdeimlad a thynerwch a hiwmor wrth reswm.

Medda fo ar y diwedd; 'Rod Ansell, yr Aborigine gwyn, y cymeriad mwyaf i mi gwrdd ag ef erioed.'

Tybed beth oedd barn Crocodeil Dundee am Dewi Pws?

Fel mae'n digwydd y rhaglen honno ar yr Aboriginie oedd un o'r ychydig raglenni i mi ei gweld ac fe barodd hynny i mi holi fy hun ai oherwydd hynny oeddwn i wedi mwynhau yr ysgrif hon yn fwy na'r un o'r lleill?

Dwi'n siŵr y bydd y llyfr hwn yn dod â'r cyfresi yn fyw iawn i unrhyw un sydd wedi eu dilyn yn driw.

Procio'r cof
Fe fydd pob brawddeg yn procio'r cof - dyna, o bosib, un o anghenion llyfr sy'n cyd-fynd â chyfres deledu.

Ond ar yr un pryd gall olygu fod y llyfr yn tueddu i ddibynnu ar y rhaglenni i lenwi'r bylchau.

Mae llawer o ddweud yma yn hytrach nac o ddangos ac yn aml iawn rydym yn carlamu dros ddigwyddiadau mawr difyr mewn ychydig o frawddegau prin.

Cawn wybod fod Hughes a Pws wedi bod mewn dawns i hoywon yn Rio - ond dim mwy.
Does bosib fod yna stori i'w dweud!

Braslun yn unig
Mae unrhyw un o'r teithiau hyn yn ddigon i fod yn destun llyfr cyfan i lawer iawn o bobl felly mae'n anorfod o bosibl mai braslun yn unig a gawn ni o bob un o'r ymweliadau.

Llawlyfr ardderchog i'r gyfres ond mae'n rhaid chwilio rhwng y llinellau ac yn y cof am y lliw unigryw hwnnw mae Dewi Pws yn ei roi i'r cyfan ar y sgrîn.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy